ERTHYGL ASTUDIO 27
CÂN 79 Dysgu Eraill i Sefyll yn Gadarn
Helpa Dy Fyfyrwyr i Wneud Safiad Dros y Gwir
“Safwch yn gadarn yn y ffydd, . . . byddwch yn gryf.”—1 COR. 16:13.
PWRPAS
Sut gallwn ni helpu myfyrwyr y Beibl i ddatblygu’r ffydd a’r dewrder sydd ei angen arnyn nhw er mwyn gwneud safiad dros y gwir.
1-2. (a) Pam mae rhai myfyrwyr y Beibl yn oedi rhag gwneud safiad dros y gwir? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
A OEDDET ti’n poeni am ddod yn un o Dystion Jehofa? Efallai roeddet ti’n oedi oherwydd ofn byddai dy gyd-weithwyr, dy ffrindiau, neu dy deulu yn troi’n dy erbyn. Neu efallai roeddet ti’n teimlo fel na fyddi di byth yn gallu byw’n unol â safonau Duw. Os felly, gelli di gydymdeimlo â myfyrwyr y Beibl sy’n dal yn ôl rhag gwneud safiad dros y gwir.
2 Roedd Iesu’n cydnabod gallai ofnau o’r fath rwystro tyfiant ysbrydol. (Math. 13:20-22) Ond ni wnaeth ef roi’r gorau i helpu’r rhai a oedd yn oedi i’w ddilyn. Yn hytrach, fe ddangosodd i’w ddisgyblion sut i helpu’r rhai hyn (1) i gydnabod beth oedd yn eu rhwystro, (2) i ddyfnhau eu cariad at Jehofa, (3) i flaenoriaethu Jehofa, a (4) i ddod dros eu hanawsterau. Sut gallwn ni roi ar waith beth ddywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion wrth inni ddefnyddio’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! i helpu myfyriwr y Beibl i wneud safiad dros y gwir?
HELPA DY FYFYRIWR I GYDNABOD BETH SY’N EI RWYSTRO
3. Beth efallai a wnaeth dal Nicodemus yn ôl rhag dod yn un o ddisgyblion Iesu?
3 Roedd Nicodemus yn arweinydd blaenllaw ymysg yr Iddewon, ond roedd rhywbeth yn ei rwystro rhag dod yn un o ddisgyblion Iesu. Dim ond chwe mis ar ôl i Iesu ddechrau ei weinidogaeth, gwnaeth Nicodemus sylweddoli mai Iesu oedd cynrychiolwr Duw. (Ioan 3:1, 2) Ond, dewisodd Nicodemus gyfarfod Iesu’n ddistaw bach oherwydd ei fod yn “ofni’r Iddewon.” (Ioan 7:13; 12:42) Efallai roedd yn meddwl bod ’na ormod yn y fantol petasai’n dod yn un o ddisgyblion Iesu.a
4. Sut gwnaeth Iesu helpu Nicodemus i ddeall beth roedd Duw’n ei ddisgwyl ganddo?
4 Roedd Nicodemus yn gwybod y Gyfraith, ond roedd rhaid iddo gael help i ddeall beth roedd Jehofa’n ei ddisgwyl ganddo. Sut gwnaeth Iesu ei helpu? Roedd Iesu’n hael gyda’i amser, fe wnaeth hyd yn oed gyfarfod Nicodemus yn y nos. Fe ddywedodd yn glir wrth Nicodemus beth roedd rhaid iddo ei wneud er mwyn dod yn ddisgybl: edifarhau o’i bechodau, cael ei fedyddio mewn dŵr, ac ymarfer ffydd ym Mab Duw.—Ioan 3:5, 14-21.
5. Sut gallwn ni helpu myfyriwr y Beibl i gydnabod beth sy’n ei rwystro?
5 Hyd yn oed os ydy myfyriwr y Beibl yn deall yr Ysgrythurau’n dda, efallai bydd angen help arno i weld beth sy’n ei ddal yn ôl. Gall gwaith seciwlar neu wrthwynebiad gan y teulu dynnu ei sylw oddi ar amcanion ysbrydol. Felly gwna’n siŵr dy fod ti ar gael i helpu dy fyfyriwr. Gelli di ei wahodd i fynd i gaffi neu am dro. Mewn awyrgylch lle mae’n gallu ymlacio, efallai byddai’n teimlo’n ddigon cyfforddus i siarad yn agored am yr heriau mae’n eu hwynebu. Anoga dy fyfyriwr i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol, nid i dy blesio di, ond i ddangos ei gariad at Jehofa.
6. Sut gelli di helpu myfyriwr i gael y dewrder i wneud safiad dros y gwir? (1 Corinthiaid 16:13)
6 Pan mae myfyriwr y Beibl yn hyderus bod Jehofa’n mynd i’w helpu i fyw yn unol â safonau’r Beibl, fe fydd yn cael y dewrder i roi ar waith yr hyn mae’n ei ddysgu. (Darllen 1 Corinthiaid 16:13.) Mae dy rôl di’n debyg i athro ysgol. Meddylia’n ôl i’r adeg pan oeddet ti yn yr ysgol, pwy oedd dy hoff athro neu athrawes? Mae’n debyg dy fod ti’n hoff iawn o’r un a wnaeth dy helpu di’n amyneddgar i gael hyder yn dy alluoedd. Yn yr un ffordd, er mwyn dysgu’r Beibl yn dda i rywun, mae’n rhaid inni wneud mwy nag esbonio gofynion Duw yn unig. Mae’n rhaid inni hefyd ei helpu i weld ei fod yn gallu gwneud newidiadau yn ei fywyd gyda help Jehofa. Sut gelli di ddysgu yn y ffordd hon?
HELPA DY FYFYRIWR I DDYFNHAU EI GARIAD AT JEHOFA
7. Sut gwnaeth Iesu helpu ei wrandawyr i dyfu yn eu cariad tuag at Jehofa?
7 Roedd Iesu’n gwybod byddai cariad at Dduw yn cymell ei ddisgyblion i roi ar waith beth roedden nhw wedi ei ddysgu. Yn aml, fe ddysgodd pethau a fyddai’n helpu ei ddisgyblion i dyfu yn eu cariad tuag at eu Tad nefol. Er enghraifft, fe wnaeth gymharu Jehofa â dyn sy’n rhoi pethau da i’w blant. (Math. 7:9-11) Efallai nad oedd gan rai o wrandawyr Iesu dad cariadus. Dychmyga sut bydden nhw wedi teimlo pan roddodd Iesu eglureb am dad trugarog a wnaeth groesawu’n ôl ei fab a oedd wedi crwydro. Roedden nhw’n gallu gweld bod Jehofa’n eu caru nhw’n fawr iawn.—Luc 15:20-24.
8. Sut gelli di helpu myfyriwr y Beibl i ddyfnhau ei gariad at Jehofa?
8 Gelli di helpu myfyriwr y Beibl i ddyfnhau ei gariad at Jehofa drwy bwysleisio rhinweddau Duw. Yn ystod pob astudiaeth, helpa’r myfyriwr i wneud y cysylltiad rhwng beth mae’n ei ddysgu a chariad Jehofa. Wrth drafod aberth Iesu, dangosa sut mae’n berthnasol iddo. (Rhuf. 5:8; 1 Ioan 4:10) Gall myfyriwr gael ei helpu i garu Jehofa’n fwy byth pan mae’n deall faint mae Jehofa’n ei garu fel unigolyn.—Gal. 2:20.
9. Beth a wnaeth helpu dyn o’r enw Michael i newid ei ffordd o fyw?
9 Ystyria brofiad Michael, o Indonesia. Cafodd ei fagu o gwmpas y gwir ond ni chafodd ei fedyddio. Pan oedd yn 18 oed, fe symudodd dramor i weithio fel gyrrwr lorïau. Mewn amser fe wnaeth briodi, ond fe barhaodd i weithio mewn gwlad arall. Yn y cyfamser, dechreuodd ei wraig a’i ferch astudio’r Beibl ac i wneud cynnydd. Ar ôl i’w fam farw, symudodd Michael yn ôl adref i ofalu am ei dad a chytunodd i gael astudiaeth Feiblaidd. Gwnaeth y rhan “Cloddio’n Ddyfnach” o wers 27 yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! gyffwrdd â chalon Michael yn fawr iawn. Wrth iddo fyfyrio ar sut byddai Jehofa wedi teimlo pan welodd Ei Fab yn dioddef, dechreuodd Michael grio. Fe ddatblygodd ddiolchgarwch dwfn am aberth Iesu ac fe gafodd ei gymell i newid ei ffordd o fyw a chael ei fedyddio.
HELPA DY FYFYRIWR I FLAENORIAETHU JEHOFA
10. Sut gwnaeth Iesu helpu ei ddisgyblion cynnar i flaenoriaethu Jehofa? (Luc 5:5-11) (Gweler hefyd y llun.)
10 Roedd y disgyblion cynnar yn gyflym i gydnabod mai Iesu oedd y Meseia, ond roedd rhaid iddyn nhw ddysgu i flaenoriaethu’r weinidogaeth. Roedd Pedr ac Andreas wedi bod yn ddisgyblion am beth amser pan roddodd Iesu wahoddiad iddyn nhw ei ddilyn yn llawn amser. (Math. 4:18, 19) Roedden nhw’n rhedeg busnes pysgota llwyddiannus gyda Iago ac Ioan. (Marc 1:16-20) Ar ôl i Pedr ac Andreas “gadael eu rhwydi,” mae’n debyg eu bod nhw wedi gwneud cynllun i ofalu am eu teuluoedd tra eu bod nhw’n dilyn Iesu. Beth a wnaeth eu cymell nhw i flaenoriaethu’r weinidogaeth? Mae’r hanes yn Luc yn dweud bod Iesu wedi gwneud gwyrth a wnaeth gryfhau eu hyder yng ngallu Jehofa i edrych ar eu holau nhw.—Darllen Luc 5:5-11.
Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd gwnaeth Iesu helpu ei ddisgyblion i flaenoriaethu Jehofa? (Gweler paragraff 10)b
11. Sut gallwn ni ddefnyddio ein profiadau ein hunain i gryfhau ffydd ein myfyriwr?
11 Dydyn ni ddim yn gallu gwneud gwyrthiau fel y gwnaeth Iesu, ond rydyn ni’n gallu rhannu profiadau am sut mae Jehofa wedi cefnogi’r rhai sydd wedi rhoi Ef yn gyntaf yn eu bywydau. Er enghraifft, a wyt ti’n cofio sut gwnaeth Jehofa dy helpu di pan ddechreuaist ti fynychu’r cyfarfodydd? Efallai roedd yn rhaid iti esbonio i dy gyflogwr pam nad oeddet ti’n gallu gwneud gwaith ychwanegol petasai’n dy rwystro di rhag mynychu’r cyfarfodydd. Wrth iti rannu dy brofiadau â dy fyfyriwr, esbonia sut cafodd dy ffydd ei gryfhau wrth weld Jehofa’n cefnogi dy benderfyniad i roi ei addoliad yn gyntaf.
12. (a) Pam dylen ni wahodd cyhoeddwyr gwahanol i ymuno â’r astudiaeth? (b) Sut gelli di ddefnyddio fideos i ddysgu dy fyfyriwr mewn ffordd effeithiol? Rho enghraifft.
12 Bydd dy fyfyriwr yn elwa o glywed am sut mae Cristnogion eraill wedi addasu eu bywydau i flaenoriaethu Jehofa. Felly gwahodda gyd-gredinwyr o gefndiroedd gwahanol i ymuno â’r astudiaeth. Gofynna iddyn nhw esbonio sut daethon nhw i mewn i’r gwir a beth a wnaethon nhw i flaenoriaethu eu gwasanaeth i Jehofa. Hefyd, cymera’r amser gyda dy fyfyriwr i wylio’r fideos o’r rhan “Cloddio’n Ddyfnach” neu “Darganfod Mwy” yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! I egluro, wrth drafod gwers 37, gelli di bwysleisio egwyddorion yn y fideo Bydd Jehofa yn Gofalu am Ein Hanghenion.
HELPA DY FYFYRIWR I DDOD DROS ANAWSTERAU
13. Sut gwnaeth Iesu baratoi ei ddisgyblion am wrthwynebiad?
13 Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr mwy nag unwaith y bydden nhw’n profi gwrthwynebiad gan eraill, hyd yn oed gan eu teulu. (Math. 5:11; 10:22, 36) Wrth i ddiwedd gweinidogaeth Iesu agosáu, fe rybuddiodd ei ddisgyblion ei bod hi’n bosib y bydden nhw’n cael eu lladd. (Math. 24:9; Ioan 15:20; 16:2) Fe wnaeth eu hannog nhw i fod yn ofalus wrth bregethu, ac i beidio â dadlau â’r rhai a oedd yn eu gwrthwynebu.
14. Sut gallwn ni helpu myfyriwr i baratoi ar gyfer gwrthwynebiad? (2 Timotheus 3:12)
14 Gallwn ni helpu myfyriwr i baratoi ar gyfer gwrthwynebiad drwy esbonio beth gallai ef ddisgwyl ei glywed gan ei gyd-weithwyr, ei ffrindiau, a’i deulu. (Darllen 2 Timotheus 3:12.) Efallai bydd rhai cyd-weithwyr yn gwneud hwyl am ei ben oherwydd ei ffordd newydd o fyw. Gall eraill, hyd yn oed teulu agos, anghytuno â’i ddaliadau Beiblaidd. Os ydyn ni’n gyflym i baratoi myfyriwr i ddelio â gwrthwynebiad, byddai’n fwy parod pan fyddai’n dod.
15. Beth a all helpu myfyriwr i ddelio â gwrthwynebiad?
15 Os ydy dy fyfyriwr yn cael ei wrthwynebu gan ei deulu, anoga ef i feddwl am y rheswm pam maen nhw wedi cynhyrfu. Efallai eu bod nhw’n meddwl ei fod wedi cael ei gamarwain, neu efallai nad ydyn nhw’n hoffi Tystion Jehofa. Gwnaeth hyd yn oed Iesu wynebu ymateb negyddol oddi wrth y rhai roedd yn eu caru. (Marc 3:21; Ioan 7:5) Dysga dy fyfyriwr i aros yn amyneddgar ac i siarad yn garedig ag eraill, gan gynnwys ei deulu.
16. Sut gallwn ni helpu myfyriwr i fod yn ddoeth wrth rannu ei ddaliadau ag eraill?
16 Hyd yn oed pan fydd aelodau’r teulu’n dangos diddordeb, byddai’n ddoeth i’r myfyriwr beidio ag esbonio popeth ar unwaith. Fel arall, gallai ei deulu deimlo eu bod nhw wedi cael eu gorlwytho â gwybodaeth a dal yn ôl rhag cael sgwrs arall. Felly anoga dy fyfyriwr i rannu ei ddaliadau mewn ffordd sy’n agor y drws i sgyrsiau pellach. (Col. 4:6) Gallai ef wahodd ei deulu i ddefnyddio jw.org er mwyn dysgu mwy am Dystion Jehofa yn eu hamser eu hunain.
17. Sut gelli di hyfforddi dy fyfyriwr i ateb cwestiynau gan eraill am Dystion Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)
17 Beth am ddefnyddio’r gyfres ar jw.org “Cwestiynau Cyffredin” i helpu dy fyfyriwr i baratoi atebion syml i gwestiynau ei deulu a’i gyd-weithwyr? (2 Tim. 2:24, 25) Ar ddiwedd pob gwers, adolyga’r rhan “Bydd Rhai yn Dweud” yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! Anoga dy fyfyriwr i ymarfer atebion yn ei eiriau ei hun. Paid ag oedi rhag rhoi awgrymiadau ar sut gallai ef wella ei ymateb. Bydd sesiynau ymarfer o’r fath yn ei helpu i amddiffyn ei ffydd yn hyderus.
Anoga dy fyfyriwr i rannu ei ffydd yn gyhoeddus drwy ymarfer yn gyntaf (Gweler paragraff 17)c
18. Sut gelli di annog dy fyfyriwr i ddechrau pregethu? (Mathew 10:27)
18 Gwnaeth Iesu annog ei ddisgyblion i bregethu’r newyddion da yn gyhoeddus. (Darllen Mathew 10:27.) Bydd myfyriwr yn dysgu i ddibynnu ar Jehofa’n gyflymach unwaith iddo ddechrau pregethu. Sut gelli di helpu myfyriwr i osod y nod hwn? Pan fydd ymgyrch pregethu’n cael ei chyhoeddi, anoga dy fyfyriwr i feddwl am sut gallai ddod yn gymwys i fod yn gyhoeddwr. Esbonia pam mae llawer wedi ei chael hi’n haws i ddechrau pregethu yn ystod ymgyrch. Gallai hefyd elwa o’r hyfforddiant ar gyfer siarad yn gyhoeddus yn ystod y cyfarfodydd canol wythnos. Wrth iddo geisio cyrraedd ei nod, fe fyddai’n dysgu i fynegi ei ddaliadau gyda hyder.
DANGOSA HYDER YN DY FYFYRIWR
19. Sut gwnaeth Iesu ddangos hyder yn ei ddisgyblion, a sut gallwn ni ei efelychu?
19 Cyn i Iesu fynd i’r nef, fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion y bydden nhw’n dod at ei gilydd unwaith eto. Doedden nhw ddim wedi sylweddoli bod Iesu’n siarad amdanyn nhw’n mynd i’r nef. Ond, fe ganolbwyntiodd Iesu ar eu ffyddlondeb, nid ar eu hamheuon. (Ioan 14:1-5, 8) Roedd yn gwybod bod angen amser arnyn nhw i ddeall rhai pethau penodol, fel y gobaith nefol. (Ioan 16:12) Gallwn ninnau hefyd ddangos hyder yn ein myfyriwr fod ganddo’r awydd i blesio Jehofa.
Bydd myfyriwr yn dysgu i ddibynnu ar Jehofa’n gyflymach unwaith iddo ddechrau pregethu
20. Sut dangosodd chwaer ym Malawi hyder yn ei myfyriwr?
20 Rydyn ni’n parhau i obeithio bydd ein myfyriwr yn gwneud y peth iawn. Er enghraifft, gwnaeth Chifundo, chwaer ym Malawi, ddechrau astudio’r Beibl gyda dynes ifanc Gatholig o’r enw Alinafe yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! Tra oedden nhw’n trafod gwers 14, gofynnodd Chifundo sut roedd hi’n teimlo am ddefnyddio delwau wrth addoli. Aeth Alinafe yn emosiynol iawn a dywedodd, “Mae hynny’n benderfyniad personol!” Roedd Chifundo yn meddwl efallai mai hynny oedd diwedd yr astudiaeth. Ond, gwnaeth hi barhau i astudio’n amyneddgar gydag Alinafe, gan obeithio byddai hi’n deall y pwynt mewn amser. Ychydig o fisoedd wedyn, gofynnodd Chifundo iddi’r cwestiwn o wers 34: “Sut mae astudio’r Beibl a dod i adnabod y gwir Dduw, Jehofa, wedi bod o fudd i chi hyd yn hyn?” Dywedodd Chifundo, “Gwnaeth Alinafe ddweud llawer o bethau hyfryd, gan gynnwys y ffaith nad ydy Tystion Jehofa yn gwneud pethau mae’r Beibl yn eu condemnio.” Yn fuan wedyn, stopiodd Alinafe ddefnyddio delwau ac fe ddaeth yn gymwys i gael ei bedyddio.
21. Sut gallwn ni gryfhau awydd ein myfyriwr i wneud safiad dros y gwir?
21 Er mai Jehofa ydy’r “un sy’n gwneud iddo dyfu,” mae gynnon ni ran mewn helpu myfyriwr y Beibl i wneud cynnydd. (1 Cor. 3:7) Rydyn ni’n gwneud mwy na dysgu iddo beth mae Jehofa eisiau iddo ei wneud. Rydyn ni’n ei helpu i ddatblygu cariad dwfn tuag at Jehofa. Rydyn ni hefyd yn ei annog i ddangos ei gariad drwy flaenoriaethu’r gwir, ac rydyn ni’n ei ddysgu sut i ddibynnu ar Jehofa wrth wynebu anawsterau. Drwy fynegi ein hyder ynddo, rydyn ni’n ei helpu i gredu ei fod yn gallu byw yn unol â safonau Jehofa a gwneud safiad dros y gwir.
CÂN 55 Paid â’u Hofni!
a Dwy flwyddyn a hanner ar ôl siarad â Iesu, roedd Nicodemus yn dal yn aelod o uchel lys yr Iddewon. (Ioan 7:45-52) Yn ôl un cyfeirlyfr, mae traddodiad yn dweud bod Nicodemus wedi dod yn ddisgybl dim ond ar ôl i Iesu farw.—Ioan 19:38-40.
b DISGRIFIAD O’R LLUN: Pedr a physgotwyr eraill yn gadael eu busnes pysgota er mwyn dilyn Iesu.
c DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae chwaer yn helpu ei myfyrwraig i baratoi i rannu ei ffydd yn gyhoeddus.