HANES BYWYD
Dysgu o’n Haddysgwr Mawr Drwy Gydol Ein Bywydau
RHEOLFEYDD gyda milwyr arfog, baricedau ar dân, corwyntoedd, rhyfeloedd cartref, a gorfod ffoi o’n cartref. Dyma rai o’r peryglon gwnaeth fy ngwraig a minnau eu hwynebu wrth arloesi a chenhadu. Ond dydyn ni ddim yn difaru ein penderfyniadau. Drwy gydol ein bywydau, mae Jehofa wedi ein cefnogi ni a’n bendithio ni. Mae ein Haddysgwr Mawr hefyd wedi dysgu gwersi gwerthfawr inni.—Job 36:22; Esei. 30:20.
ESIAMPL FY RHIENI
Yn y 1950au hwyr, symudodd fy rhieni o’r Eidal i Kindersley, yn Saskatchewan, Canada. Yn fuan ar ôl hynny, dysgon nhw’r gwir, a daeth y gwir i fod y peth pwysicaf yn ein bywydau. Rydw i’n cofio treulio dyddiau hir yn y weinidogaeth gyda fy nheulu pan o’n i’n blentyn. Felly, weithiau rydw i’n dweud yn ddoniol fy mod i wedi “arloesi’n gynorthwyol” pan o’n i’n wyth mlwydd oed!
Gyda fy nheulu, tua 1966
Roedd fy rhieni yn dlawd, ond roedden nhw’n esiampl wych imi o wneud aberthau i Jehofa. Er enghraifft, ym 1963, gwerthon nhw lawer o bethau i gasglu arian er mwyn mynd i’r gynhadledd ryngwladol yn Pasadena, California, UDA. Ym 1972, symudon ni tua 620 milltir (1,000 km) i Trail, Columbia Brydeinig, Canada, i helpu yn y maes Eidaleg. Roedd dad yn gwneud gwaith glanhau a chynnal a chadw. Gwnaeth ef wrthod gwahanol gyfleoedd i wneud mwy o arian er mwyn gallu canolbwyntio ar bethau ysbrydol.
Rydw i’n ddiolchgar am yr esiampl osododd fy rhieni i’r pedwar ohonon ni blant. Gosododd hyn sail gadarn ar gyfer derbyn hyfforddiant theocrataidd. Dysgon nhw wers imi rydw i wedi ei chofio drwy gydol fy mywyd: Os ydw i’n rhoi’r Deyrnas yn gyntaf, bydd Jehofa’n gofalu amdana i.—Math. 6:33.
CAEL BLAS AR WASANAETHU’N LLAWN AMSER
Ym 1980, fe wnes i briodi Debbie, chwaer brydferth gydag amcanion ysbrydol clir. Roedden ni eisiau dechrau gwasanaethu’n llawn amser, felly tri mis ar ôl ein priodas, fe ddechreuodd Debbie arloesi. Blwyddyn ar ôl inni briodi, symudon ni i gynulleidfa fach mewn angen ac fe wnes i ddechrau arloesi hefyd.
Ar ddiwrnod ein priodas, 1980
Mewn amser, dechreuon ni ddigalonni a phenderfynon ni symud i ffwrdd. Ond yn gyntaf, siaradon ni ag arolygwr y gylchdaith. Yn gariadus, ond yn onest, fe ddywedodd: “Rydych chi’n rhan o’r broblem. Rydych chi’n canolbwyntio ar heriau eich sefyllfa. Yn lle hynny, os ydych chi’n chwilio am y pethau positif, fe ddewch chi o hyd iddyn nhw.” Dyma’r cyngor roedden ni’n ei angen. (Salm 141:5) Yn gyflym, sylweddolon ni fod ’na lawer o bethau positif am ein sefyllfa. Roedd nifer yn y gynulleidfa eisiau gwneud mwy i wasanaethu Jehofa, gan gynnwys rhai ifanc a chwiorydd gyda gwŷr nad oedd yn addoli Jehofa. Roedd hyn yn wers bwysig iawn inni. Dysgon ni i edrych am y da ac yna aros nes bod Jehofa’n cywiro sefyllfaoedd heriol. (Mich. 7:7) Roedden ni’n hapus unwaith eto ac fe wnaeth ein sefyllfa wella.
Roedd yr hyfforddwyr yn ein hysgol arloesi gyntaf wedi mwynhau aseiniadau tramor. Dangoson nhw luniau inni a siarad am yr heriau a’r bendithion roedden nhw wedi eu profi. Ar ôl clywed hynny, roedden ni eisiau bod yn genhadon a dyna oedd ein nod.
Tu allan i Neuadd y Deyrnas yn Columbia Brydeinig, 1983
Er mwyn gweithio tuag at y nod hwnnw, ym 1984 symudon ni i Quebec, lle maen nhw’n siarad Ffrangeg. Roedd hyn tua 2,485 milltir (4,000 km) i ffwrdd o Columbia Brydeinig. Roedd hyn yn golygu dysgu diwylliant ac iaith newydd. Hefyd, roedden ni’n aml yn wynebu’r her o fod heb lawer o arian. Ar un adeg, dim ond tatws oedd gynnon ni i fwyta oherwydd bod ffermwr yn gadael inni loffa yn ei gae. Dysgodd Debbie sut i baratoi tatws mewn llawer o ffyrdd creadigol a blasus iawn! Er gwaetha’r heriau, roedden ni’n ffocysu ar ddyfalbarhau’n llawen. Felly, roedden ni’n siŵr bod Jehofa’n gofalu amdanon ni.—Salm 64:10.
Un diwrnod, fe wnaethon ni dderbyn galwad ffôn annisgwyl. Cawson ni ein gwahodd i wasanaethu yn y Bethel yng Nghanada. Roedden ni wedi rhoi cais i mewn yn barod i fynd i Ysgol Gilead, felly er ein bod ni’n hapus i dderbyn y gwahoddiad i fynd i’r Bethel, roedden ni’n teimlo braidd yn ddigalon hefyd. Ar ôl cyrraedd, gofynnon ni i’r Brawd Kenneth Little, aelod o Bwyllgor y Gangen, “Beth am ein ceisiadau ar gyfer Gilead?” Dywedodd, “Mi wnawn ni groesi’r bont honno pan ddaw.”
Yr wythnos wedyn, gwnaethon ni gyrraedd y bont honno. Cawson ni wahoddiad i fynd i Ysgol Gilead. Roedd gynnon ni benderfyniad i’w wneud. Dywedodd y Brawd Little: “Does dim ots beth rydych chi’n ei ddewis, efallai byddwch chi ar adegau’n difaru peidio â dewis y llall. Ond dydy’r un ddim yn well na’r llall, mae Jehofa’n gallu bendithio’r ddau.” Derbynion ni’r gwahoddiad i fynd i Ysgol Gilead. Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi gweld gwirionedd geiriau’r Brawd Little. Rydyn ni’n aml wedi dyfynnu ei eiriau wrth helpu eraill i ddewis rhwng aseiniadau gwahanol.
BYWYD FEL CENHADON
(Ar y chwith) Ulysses Glass
(Ar y dde) Jack Redford
Roedden ni wrth ein boddau ymysg y 24 myfyriwr yn nosbarth 83 o Ysgol Gilead, yn Brooklyn, Efrog Newydd, Ebrill 1987. Ein prif hyfforddwyr oedd y Brodyr Ulysses Glass a Jack Redford. Gwnaeth y pum mis hedfan, ac ar Fedi 6, 1987, fe wnaethon ni raddio. Ein haseiniad oedd Haiti, gyda John a Marie Goode.
Yn Haiti, 1988
Nid oedd cenhadon o Gilead wedi cael eu hanfon i Haiti ers 1962, pan gafodd y rhai olaf eu hanfon o’r wlad. Ond tair wythnos ar ôl graddio, dechreuon ni wasanaethu yn Haiti, yn bell yn y mynyddoedd, gyda chynulleidfa fach o 35 cyhoeddwr. Roedden ni’n ifanc, yn ddibrofiad, ac yn byw ar ein pennau ein hunain mewn cartref cenhadon. Roedd y bobl yn dlawd iawn a doedd y rhan fwyaf ddim yn gallu darllen. Yn ystod y dyddiau cynnar hynny, roedd yn rhaid inni ddelio ag aflonyddwch sifil, coups d’état, baricedau ar dân, a chorwyntoedd.
Roedden ni’n gallu dysgu llawer o’n brodyr a’n chwiorydd yn Haiti a oedd yn dal ati’n llawen. Er bod gan nifer ohonyn nhw fywydau anodd, roedden nhw’n caru Jehofa a’r weinidogaeth. Doedd un chwaer hŷn ddim yn gallu darllen, ond roedd hi wedi cofio tua 150 o adnodau. Roedd y problemau yn yr ardal yn ein gwneud ni’n fwy awyddus byth i rannu neges y Deyrnas fel yr unig ateb i broblemau’r ddynoliaeth. Mae’n ein gwneud ni mor hapus i weld bod rhai o’n myfyrwyr Beiblaidd cynnar wedi dod yn arloeswyr llawn amser, yn arloeswyr arbennig, ac yn henuriaid.
Tra oedden ni yn Haiti, fe wnes i gyfarfod Trevor, cenhadwr Mormon ifanc, ac fe wnaethon ni drafod y Beibl nifer o weithiau. Blynyddoedd wedyn, fe ges i lythyr annisgwyl ganddo. Ysgrifennodd: “Rydw i’n cael fy medyddio yn y cynulliad nesaf! Rydw i wir eisiau fynd yn ôl i Haiti a gwasanaethu fel arloeswr arbennig yn yr ardal lle roeddwn i’n cenhadu fel Mormon.” A dyna’n union a wnaeth ef a’i wraig am nifer o flynyddoedd.
EWROP AC YNA AFFRICA
Yn gweithio yn Slofenia, 1994
Cawson ni ein haseinio i wasanaethu mewn rhan o Ewrop lle roedd y gwaith yn agor i fyny. Ym 1992, cyrhaeddon ni Ljubljana, Slofenia, yn agos i’r lle cafodd fy rhieni eu magu cyn symud i’r Eidal. Ar y pryd, roedd rhyfela’n parhau yn ardaloedd Iwgoslafia gynt. Roedd y gangen yn Fienna, Awstria, yn ogystal â’r swyddfeydd yn Zagreb, Croatia, a Belgrade, Serbia, wedi bod yn arolygu’r gwaith pregethu yn yr ardal. Ond yna, roedd pob gweriniaeth annibynnol am gael Bethel ei hun.
Felly, roedd angen inni ddysgu diwylliant ac iaith newydd unwaith eto. Roedd y bobl leol yn dweud, “Jezik je težek” sy’n golygu “Mae’r iaith yn anodd.” Roedd hynny’n wir! Roedden ni’n edmygu ffyddlondeb y brodyr a’r chwiorydd a oedd yn barod i dderbyn newidiadau gan y gyfundrefn, a gwelson ni sut roedd Jehofa’n eu bendithion nhw. Unwaith eto, fe welson ni’r ffordd mae Jehofa’n cywiro pethau ar yr amser iawn. Gwnaeth ein blynyddoedd yn Slofenia gadarnhau llawer o’r gwersi roedden ni wedi eu dysgu ynghynt a hefyd dysgu gwersi newydd inni.
Ond roedd mwy o newidiadau i ddod. Yn 2000, cawson ni ein haseinio i’r Traeth Ifori, yng Ngorllewin Affrica. Yna, yn Tachwedd 2002, oherwydd rhyfel cartref, roedden ni’n gorfod dianc i Sierra Leone lle roedd rhyfel cartref newydd orffen ar ôl 11 mlynedd. Roedd hi’n anodd inni adael y Traeth Ifori mor sydyn, ond roedden ni’n medru cadw ein llawenydd oherwydd y gwersi roedden ni wedi eu dysgu.
Fe wnaethon ni ganolbwyntio ar y nifer mawr o bobl a oedd eisiau dysgu’r gwir yno, ac ar ein brodyr a’n chwiorydd cariadus a oedd wedi dioddef rhyfel am flynyddoedd. Roedden nhw’n dlawd ond eisiau rhannu beth oedd ganddyn nhw. Pan wnaeth un chwaer geisio rhoi dillad i Debbie, roedd Debbie yn teimlo’n ddrwg am eu cymryd nhw, ond mynnodd y chwaer gan ddweud: “Yn ystod y rhyfel, gwnaeth brodyr o wledydd eraill ein cefnogi ni. Nawr mae gynnon ni’r cyfle i helpu.” Gosododd Debbie a minnau’r nod o efelychu eu hesiampl.
Ymhen amser, aethon ni’n ôl i’r Traeth Ifori, ond oherwydd problemau gwleidyddol, ym mis Tachwedd 2004 roedd yn rhaid inni ffoi unwaith eto. Gwnaethon ni ddianc mewn hofrennydd gyda dim ond bag 10 cilogram (22 lb) yr un. Cysgon ni ar lawr un o safleoedd y fyddin Ffrengig am y noson, ac yna hedfan i’r Swistir y diwrnod nesaf. Pan gyrhaeddon ni’r gangen tua hanner nos, cawson ni groeso cynnes gan Bwyllgor y Gangen a hyfforddwyr yr Ysgol Hyfforddi Gweinidogaethol ynghyd a’u gwragedd. Cawson ni hygs mawr, pryd o fwyd cynnes, a lot o siocled. Gwnaeth eu cariad cyffwrdd â’n calonnau.
Yn rhoi anerchiad i alltudion yn y Traeth Ifori, 2005
Cawson ni ein haseinio i Ghana ac yna i’r Traeth Ifori unwaith eto ar ôl i’r aflonyddwch sifil dawelu. Gwnaeth caredigrwydd ein brawdoliaeth ein helpu ni drwy’r cyfnod anodd hwn o orfod dianc a chael aseiniadau dros dro. Cytunodd Debbie a minnau, er bod cariad ymysg pobl Dduw yn gyffredin, doedden ni byth eisiau ei gymryd yn ganiataol. A dweud y gwir, roedd yr adegau anodd hynny yn rhan werthfawr o’n hyfforddiant.
I’R DWYRAIN CANOL
Yn y Dwyrain Canol, 2007
Yn 2006, cawson ni lythyr o’r pencadlys i roi gwybod inni am aseiniad newydd yn y Dwyrain Canol. Unwaith eto, roedd hyn yn golygu ieithoedd, diwylliannau, heriau, ac anturiaethau newydd. Roedd ’na gymaint i ddysgu yn yr ardal hon a oedd yn llawn problemau gwleidyddol a chrefyddol. Roedden ni’n caru’r amrywiaeth o ieithoedd yn y cynulleidfaoedd ac yn gweld yr undod oedd yn dod o ddilyn arweiniad theocrataidd. Roedden ni’n edmygu’r brodyr a’r chwiorydd oherwydd bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi dyfalbarhau erledigaeth gan deulu, cyd-ddisgyblion, cyd-weithwyr, a chymdogion yn ddewr.
Roedden ni’n bresennol yng nghynhadledd arbennig yn Tel Aviv, Israel, yn 2012. Y gynhadledd hon oedd y tro cyntaf i gymaint o bobl Jehofa ddod at ei gilydd yn yr ardal ers Pentecost 33 OG. Dyna achlysur bythgofiadwy!
Yn ystod y blynyddoedd hynny, cawson ni ein hanfon i wlad lle roedd y gwaith wedi ei wahardd. Gwnaethon ni fynd â llenyddiaeth, rhannu yn y weinidogaeth, a mynychu cynulliadau bach. Roedd rheolfeydd gyda milwyr arfog ym mhobman, ond wrth inni deithio’n ofalus gyda’r grŵp bach o gyhoeddwyr, roedden ni’n teimlo’n saff.
YN ÔL I AFFRICA
Yn paratoi anerchiad yn Congo, 2014
Yn 2013, derbynion ni aseiniad gwahanol iawn, sef i wasanaethu yn y gangen yn Kinshasa, Congo. Mae’r Congo yn wlad fawr a phrydferth ond mae ganddi hanes hir o dlodi enbyd a rhyfeloedd. Ar y cychwyn, roedden ni’n meddwl, “Rydyn ni’n gyfarwydd ag Affrica, rydyn ni’n barod.” Ond, roedd dal gynnon ni lawer i ddysgu, yn enwedig am deithio i ardaloedd heb ffyrdd neu bontydd. Roedd ’na lawer o bethau positif i ganolbwyntio arnyn nhw, gan gynnwys cariad y brodyr at y weinidogaeth, eu hymdrechion i fynychu’r cyfarfodydd a’r cynulliadau, a hefyd llawenydd a dyfalbarhad y brodyr er gwaetha’r economi. Gwelson ni gyda’n llygaid ein hunain sut roedd y gwaith pregethu’n symud ymlaen oherwydd bod Jehofa’n ei gefnogi a’i fendithio. Gwnaeth ein blynyddoedd o wasanaeth llawn amser yn y Congo wneud argraff fawr arnon ni a rhoi inni ffrindiau sydd fel teulu.
Yn pregethu yn Ne Affrica, 2023
Ar ddiwedd 2017, cawson ni aseiniad newydd yn Ne Affrica. Derbynion ni aseiniadau newydd yn y gangen fwyaf inni wasanaethu ynddi. Roedd ’na lawer i ddysgu, ond gwnaeth gwersi o’r gorffennol ein helpu ni. Rydyn ni’n caru’r brodyr a’r chwiorydd sydd wedi dyfalbarhau’n ffyddlon am ddegawdau. Mae’n anhygoel i weld y teulu Bethel yn gweithio’n unedig er gwaethaf gwahanol gefndiroedd a diwylliannau. Yn amlwg, mae Jehofa wedi bendithio ei bobl â heddwch oherwydd eu bod nhw wedi rhoi amdanyn nhw’r bersonoliaeth newydd, ac yn rhoi ar waith egwyddorion Beiblaidd.
Dros y blynyddoedd, mae Debbie a minnau wedi cael aseiniadau cyffrous, ac wedi gorfod addasu i ddiwylliannau ac ieithoedd gwahanol. Mae wedi bod yn anodd ar adegau, ond rydyn ni wedi gweld cariad ffyddlon Jehofa drwy ei gyfundrefn a’r frawdoliaeth. (Salm 144:2) Rydyn ni’n siŵr bod ein gwasanaeth llawn amser wedi ein hyfforddi ni i wella fel gweision i Jehofa.
Rydw i’n ddiolchgar iawn i fy rhieni am beth ddysgon nhw imi, am gefnogaeth fy ngwraig annwyl, Debbie, ac am esiamplau ardderchog ein brodyr a’n chwiorydd o gwmpas y byd. Wrth i fy ngwraig a minnau feddwl am y dyfodol, rydyn ni’n benderfynol o ddal ati i ddysgu oddi wrth ein Haddysgwr Mawr.