HANES BYWYD
“Jehofa Biau’r Frwydr”
AR IONAWR 28, 2010, diwrnod oer gaeafol, roeddwn i yn Strasbourg, Ffrainc. Mae Strasbourg yn ddinas brydferth, ond y peth olaf ar fy meddwl oedd gweld yr atyniadau. Roeddwn i yn aelod o dîm cyfreithiol a oedd yno i amddiffyn hawliau Tystion Jehofa o flaen Llys Hawliau Dynol Ewrop (ECHR). Y cwestiwn dan sylw oedd a oedd llywodraeth Ffrainc yn iawn i fynnu bod ein brodyr yno yn talu trethi aruthrol o bron i 64 miliwn ewro (£53,000,000). Yn bwysicach fyth, roedd enw Jehofa, enw da ei bobl, a’u rhyddid i’w addoli yn y fantol. Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y gwrandawiad yn cadarnhau mai “Jehofa biau’r frwydr.” (1 Sam. 17:47) Gad imi egluro.
Roedd y ddadl wedi dechrau yn y 1990au hwyr pan benderfynodd llywodraeth Ffrainc godi trethi annheg ar y cyfraniadau a dderbyniwyd gan ein cangen yn Ffrainc rhwng 1993 a 1996. Aethon ni at y llysoedd yn Ffrainc, ond heb lwyddiant. Collon ni’r apêl hefyd, ac ar ôl hynny cymerodd y llywodraeth dros bedair miliwn a hanner ewro (£3,700,000) o gyfrif banc y gangen. Yr unig ffordd o gael yr arian yn ôl oedd trwy fynd â’r achos at yr ECHR. Ond cyn cytuno i glywed yr achos, roedd y Llys yn gofyn i ni a thîm cyfreithiol y llywodraeth fynd i wrandawiad o flaen un o swyddogion y Llys er mwyn ceisio dod i gytundeb cyn i’r achos fynd i dreial.
Roedden ni’n gwybod y byddai’r swyddog yn rhoi pwysau arnon ni i ddatrys y sefyllfa drwy gytuno i dalu canran o’r swm dan sylw. Ond roedden ni’n gwybod hefyd y byddai talu hyd yn oed un ewro yn mynd yn groes i egwyddorion y Beibl. Y brodyr a chwiorydd oedd wedi rhoi’r arian hwn i gefnogi gwaith y Deyrnas, ac felly nid y llywodraeth oedd piau’r arian. (Math. 22:21) Ond aethon ni i’r gwrandawiad er mwyn dangos parch at reolau’r Llys.
Ein tîm cyfreithiol y tu allan i’r ECHR, 2010
Cynhaliwyd y gwrandawiad yn un o ystafelloedd urddasol y Llys. Ni ddechreuodd bethau’n dda. Yn ei geiriau agoriadol, dywedodd y swyddog ei bod hi’n disgwyl i Dystion Jehofa yn Ffrainc dalu canran o’r trethi. Yn sydyn, cawson ni ein cymell i ofyn: “A ydych chi’n gwybod bod y llywodraeth eisoes wedi cymryd mwy na phedair miliwn a hanner ewro o’n cyfrif banc?”
Roedd y sioc yn amlwg ar ei hwyneb. Pan wnaeth tîm cyfreithiol y llywodraeth gadarnhau mai dyna oedd wedi digwydd, newidiodd ei hagwedd yn llwyr. Dywedodd y drefn wrthyn nhw a daeth â’r achos i ben yn syth. Sylweddolais fod Jehofa wedi newid popeth a hynny mewn ffordd na fydden ni byth wedi ei rhagweld. Prin y gallen ni gredu beth oedd wedi digwydd, ac aethon ni allan yn gorfoleddu.
Ar Fehefin 30, 2011, rhoddodd yr ECHR ddyfarniad unfrydol o’n plaid. Cyhoeddodd fod y dreth yn anghyfreithlon a gorchmynnodd i’r llywodraeth dalu’r arian yn ôl a’r llog ar ben hynny. Mae’r penderfyniad hanesyddol hwn wedi amddiffyn addoliad pur yn Ffrainc hyd heddiw. Doedden ni ddim yn bwriadu gofyn y cwestiwn hwnnw, ond fel y garreg a darodd pen Goliath, dyna oedd trobwynt y frwydr. Pam y gwnaethon ni ennill? Y rheswm oedd, fel y dywedodd Dafydd wrth Goliath, mai “Jehofa biau’r frwydr.”—1 Sam. 17:45-47.
Nid eithriad yw’r fuddugoliaeth hon. Hyd yn hyn, er gwaethaf gwrthwynebiad gwleidyddol a chrefyddol, mae llysoedd uchaf 70 gwlad a sawl tribiwnlys rhyngwladol wedi dyfarnu o blaid Tystion Jehofa mwy na 1,225 o weithiau. Mae’r buddugoliaethau hyn yn diogelu ein hawliau sylfaenol gan gynnwys ein hawl i gael ein cydnabod yn gyfreithiol fel crefydd, i gymryd rhan yn ein gweinidogaeth gyhoeddus, i wrthod cymryd rhan mewn seremonïau gwladgarol, ac i wrthod gwaed.
Pam roeddwn i’n rhan o achos cyfreithiol yn Ewrop a minnau’n gweithio ym Mhencadlys Tystion Jehofa yn Efrog Newydd, UDA?
DYLANWAD SÊL FY RHIENI
Graddiodd fy rhieni, George a Lucille, o ddeuddegfed dosbarth Gilead, ac roedden nhw’n gwasanaethu yn Ethiopia pan ges i fy ngeni ym 1956. Ces i’r enw Philip, ar ôl yr efengylwr o’r ganrif gyntaf. (Act. 21:8) Y flwyddyn ganlynol cafodd addoliad Tystion Jehofa ei wahardd gan y llywodraeth. Mae gen i gof plentyn o’r teulu’n addoli’n gyfrinachol. I mi, roedd hynny’n gyffrous! Ond roedden ni’n gorfod gadael y wlad ym 1960.
Nathan H. Knorr (ar y chwith pell) yn ymweld â fy nheulu yn Addis Ababa, Ethiopia, 1959
Symudodd ein teulu i Wichita, Kansas, UDA, ond ni chollodd fy rhieni y sêl a oedd ganddyn nhw pan oedden nhw’n genhadon. Roedd eu cariad at Jehofa yn amlwg, ac roedden nhw’n fy helpu i, fy chwaer fawr, Judy, a fy mrawd bach, Leslie, a oedd hefyd wedi eu geni yn Ethiopia, i feithrin yr un cariad. Ces i fy medyddio yn 13 oed. Dair blynedd yn ddiweddarach, symudodd y teulu i Arequipa, Periw, er mwyn helpu lle roedd mwy o angen.
Ym 1974, pan oeddwn i’n 18 oed, ces i fy mhenodi yn arloeswr arbennig gan y gangen ym Mheriw, ynghyd â phedwar brawd arall. Cawson ni ein hanfon i bregethu mewn ardal lle nad oedd neb wedi pregethu o’r blaen, ym Mynyddoedd yr Andes. Roedd angen inni dystiolaethu i bobl frodorol a oedd yn siarad Quechua ac Aimareg. Roedden ni’n teithio mewn cartref modur a elwir “Arch Noa” oherwydd ei fod yn sgwâr fel bocs. Mae gen i atgofion melys o ddefnyddio’r Beibl i ddangos i’r bobl frodorol fod Jehofa yn mynd i gael gwared ar dlodi, salwch, a marwolaeth. (Dat. 21:3, 4) Fe wnaeth llawer ddechrau addoli Jehofa.
“Arch Noa,” 1974
SYMUD I BENCADLYS TYSTION JEHOFA
Ym 1977, daeth aelod o Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa, Albert Schroeder, i Beriw. Fe wnaeth fy annog i i roi cais i mewn i wasanaethu yn y pencadlys. Felly dyna a wnes i. Yn fuan wedyn, ar Fehefin 17, 1977, symudais i weithio yn y Bethel yn Brooklyn. Am y pedair blynedd nesaf, roeddwn i’n gweithio yn yr Adran Glanhau a’r Adran Cynnal a Chadw.
Ein diwrnod priodas, 1979
Ym mis Mehefin, 1978, cwrddais ag Elizabeth Avallone mewn cynhadledd ryngwladol yn New Orleans, Louisiana. Fel fi, roedd hi wedi cael ei magu gan rieni a oedd yn gwasanaethu Jehofa â’u holl galonnau. Roedd Elizabeth wedi bod yn arloesi ers pedair blynedd ac eisiau parhau i wasanaethu’n llawn amser. Roedden ni’n cadw mewn cyswllt, a chyn bo hir fe wnaethon ni syrthio mewn cariad. Priodon ni ar Hydref 20, 1979, a dechrau gwasanaethu gyda’n gilydd yn y Bethel.
Cawson ni groeso cynnes iawn gan y brodyr a’r chwiorydd yn ein cynulleidfa gyntaf, Brooklyn Sbaeneg. Dros y blynyddoedd, mae tair cynulleidfa arall wedi rhoi croeso inni a’n cefnogi yn ein gwaith Bethel. Rydyn ni mor ddiolchgar am eu help, ac am gymorth ffrindiau ac aelodau teulu i ofalu am ein rhieni yn eu henaint.
Rhai o deulu’r Bethel a fu’n rhan o Gynulleidfa Sbaeneg Brooklyn, 1986
GWEITHIO YN YR ADRAN GYFREITHIOL
Er mawr syndod imi, ym mis Ionawr, 1982, ces i fy symud i weithio yn yr Adran Gyfreithiol yn y Bethel. Dair blynedd wedyn, gofynnwyd imi ddilyn cwrs prifysgol er mwyn cymhwyso fel cyfreithiwr. Yn ystod y cwrs, roeddwn i’n synnu o glywed faint mae buddugoliaethau Tystion Jehofa yn y llysoedd wedi cadarnhau’r rhyddid a’r hawliau y mae’r rhan fwyaf o bobl yn yr Unol Daleithiau a thrwy’r byd yn eu cymryd yn ganiataol. Cafodd yr achosion pwysig hyn eu trafod yn helaeth yn y dosbarth.
Ym 1986, pan oeddwn i’n 30 oed, ces i fy mhenodi’n arolygwr yr Adran Gyfreithiol. Roeddwn i’n dal yn ifanc ac roedd y gwaith o fy mlaen mor gymhleth. Felly, roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n fraint ond hefyd yn teimlo’n llawn ofn.
Enillais fy nghymwysterau ym 1988, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli faint roedd cwblhau’r cwrs wedi effeithio arna i, ac ar fy mherthynas â Jehofa. Mae’n hawdd i addysg uwch feithrin awydd ynon ni i fod yn bwysig, ac i feddwl ein bod ni’n well na phobl sydd heb gael yr un addysg. Daeth Elizabeth i’m hachub. Gyda’i help hi, dechreuais ganolbwyntio eto ar bethau ysbrydol. Cymerodd amser, ond yn araf deg, llwyddais i wneud fy mherthynas â Jehofa yn gryf unwaith eto. Rydw i’n gallu tystio i’r ffaith nad y peth pwysicaf mewn bywyd ydy cael pen llawn gwybodaeth arbenigol. Y peth pwysicaf yw cadw perthynas agos â Jehofa a charu ei bobl.
AMDDIFFYN A SEFYDLU’R NEWYDDION DA YN GYFREITHIOL
Ar ôl graddio yn y Gyfraith, dechreuais helpu i drefnu’r adran i ofalu am anghenion cyfreithiol y Bethel ac i amddiffyn gwaith y Deyrnas yn y llys. Roedd y gwaith yn gyffrous ond yn heriol oherwydd bod y gyfundrefn yn tyfu a phethau’n newid yn gyflym. Er enghraifft, roedd Tystion Jehofa yn arfer codi tal am gyhoeddiadau, ond yn y 1990au cynnar, cafodd yr Adran Gyfreithiol ei gofyn i roi arweiniad ar sut i stopio gwneud hynny. Roedd hyn yn symleiddio’r gwaith yn y Bethel ac yn y maes, a hyd heddiw mae’n sicrhau nad yw ein gwaith yn cael ei drethu heb fod angen. Roedd rhai’n meddwl y byddai’r newid yn lleihau ein hadnoddau a rhwystro ein gweinidogaeth. Ond fel arall oedd hi. Mae’r nifer o bobl sy’n addoli Jehofa wedi mwy na dyblu ers 1990, a heddiw mae bwyd ysbrydol ar gael i bobl yn ddi-dâl. Rydw i wedi dysgu mai dim ond gyda help Jehofa ac arweiniad y gwas ffyddlon y mae’n bosib i ni fel cyfundrefn wneud newidiadau yn llwyddiannus.—Ex. 15:2; Math. 24:45.
Anaml iawn y mae buddugoliaethau yn y llys yn dibynnu ar sgiliau’r cyfreithwyr yn unig. Yn aml iawn, yr hyn sy’n ysgogi pobl mewn awdurdod i weithredu ar ein rhan yw ymddygiad gweision Jehofa. Gwelais enghraifft o hyn ym 1998 pan aeth tri aelod o’r Corff Llywodraethol a’u gwragedd i’r cynadleddau arbennig yn Ciwba. Roedd eu hagwedd garedig a’u parch tuag at swyddogion y llywodraeth yn gwneud mwy i ddangos ein bod ni’n niwtral o ran gwleidyddiaeth nag unrhyw beth a ddywedon ni mewn cyfarfodydd ffurfiol.
Sut bynnag, os nad oes modd cywiro anghyfiawnder mewn modd arall, rydyn ni’n barod i “amddiffyn a sefydlu’r newyddion da yn gyfreithiol” yn y llys. (Phil 1:7) Er enghraifft, am ddegawdau, nid oedd yr awdurdodau yn Ewrop a De Corea yn cydnabod ein hawl i wrthod gwneud gwasanaeth milwrol. O ganlyniad, treuliodd tua 18,000 o frodyr yn Ewrop a dros 19,000 o frodyr yn Ne Corea dymor yn y carchar am wrthod gwasanaeth milwrol ar sail cydwybod.
O’r diwedd, ar Orffennaf 7, 2011, gwnaeth yr ECHR draddodi’r dyfarniad hanesyddol Bayatyan v. Armenia. Mae’r dyfarniad hwnnw yn dweud bod rhaid i bob gwlad yn Ewrop ganiatáu i’r rhai sy’n gwrthod gwasanaeth milwrol ar sail cydwybod gael gwneud gwasanaeth arall yn ei le. Daeth Llys Cyfansoddiadol De Corea i benderfyniad tebyg ar Fehefin 28, 2018. Ni fyddai’r naill fuddugoliaeth na’r llall yn bosib petai hyd yn oed canran fach o’n brodyr ifanc wedi cyfaddawdu.
Mae adrannau cyfreithiol yn ein pencadlys ac mewn canghennau ar draws y byd yn gweithio’n ddiflino i amddiffyn ein hawl i addoli Jehofa ac i gyhoeddi’r newyddion da. Mae’n fraint i gynrychioli ein brodyr a’n chwiorydd sy’n wynebu gwrthwynebiad gan y llywodraeth. P’un a ydyn ni’n ennill achos llys ai peidio, rydyn ni’n rhoi tystiolaeth i lywodraethwyr, i frenhinoedd, ac i’r cenhedloedd. (Math 10:18) Mae barnwyr, swyddogion llywodraeth, y wasg, a’r cyhoedd yn gorfod ystyried yr adnodau rydyn ni’n eu cynnwys yn y cyflwyniadau a roddwn o flaen llys mewn dogfennau ac ar lafar. Mae pobl ddiffuant yn dysgu am Dystion Jehofa ac yn gweld sail ein daliadau. Mae rhai wedi dechrau addoli Jehofa.
DIOLCH I TI, JEHOFA!
Dros y deugain mlynedd diwethaf, rydw i wedi cael y fraint o weithio ar faterion cyfreithiol gyda swyddfeydd cangen ar draws y byd ac wedi ymddangos mewn nifer o uchel lysoedd ac o flaen llawer o swyddogion pwysig. Rydw i’n caru ac yn edmygu fy nghyd-weithwyr yn yr Adran Gyfreithiol yn y pencadlys ac ar draws y byd. Mae fy mywyd wedi bod yn llawn bendithion a boddhad.
Mae Elizabeth wedi bod yn gefn ffyddlon imi ers 45 o flynyddoedd, drwy’r dyddiau da a’r dyddiau anodd. A hyn er gwaethaf gorfod delio â salwch sy’n amharu ar ei system imiwnedd a’i hegni.
Nid ein doniau ni sy’n rhoi nerth a buddugoliaeth. Rydyn ni wedi gweld hynny gyda’n llygaid ein hunain. Fel dywedodd Dafydd, “Mae’r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf.” (Salm 28:8) Yn wir, “Jehofa biau’r frwydr.”