AWGRYMIAD AR GYFER ASTUDIO
Astudio er Mwyn Rhannu ag Eraill
Mae astudio yn codi ein calonnau ond mae’n well byth pan fyddwn ni’n rhannu’r pethau da rydyn ni’n eu dysgu â phobl eraill. Mae Diarhebion 11:25 yn dweud: “Mae’r . . . rhai sy’n rhoi dŵr i eraill yn cael eu diwallu.”
Mae rhannu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu â phobl eraill yn ein helpu ni i’w ddeall ac i’w gofio. Gan fod y wybodaeth yn gallu helpu eraill, mae ei rhannu yn rhoi pleser inni.—Act. 20:35.
Rho gynnig ar hyn: Yr wythnos nesaf, edrycha am gyfle i rannu rhywbeth rwyt ti wedi ei ddysgu â rhywun arall. Efallai bydd y person hwnnw yn rhywun yn y teulu, yn y gwaith, yn yr ysgol, yn y gynulleidfa, yn un o dy gymdogion, neu’n rhywun rwyt ti’n cwrdd ag ef yn y weinidogaeth. Ceisia gyfleu’r wybodaeth mewn ffordd syml ac eglur, yn dy eiriau dy hun.
Cofia: Dy nod wrth rannu gwybodaeth ydy calonogi, nid creu argraff.—1 Cor. 8:1.