ERTHYGL ASTUDIO 34
CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder
Bydda’n Siŵr o Faddeuant Jehofa
“Dyma ti’n maddau’r cwbl.”—SALM 32:5.
PWRPAS
Y rhesymau pam mae’n rhaid inni fod yn siŵr o faddeuant Jehofa ac addewidion y Beibl sy’n dangos ei fod yn maddau i bechaduriaid edifar.
1-2. Pa ryddhad gall pechaduriaid edifeiriol ei deimlo? (Gweler hefyd y llun.)
ROEDD y Brenin Dafydd yn deall y teimlad o fod yn euog am ei hen bechodau. (Salm 40:12; 51:3; uwchysgrif) Yn ystod ei fywyd, fe wnaeth gamgymeriadau difrifol. Er hynny, fe ddangosodd edifeirwch diffuant ac felly gwnaeth Jehofa faddau iddo. (2 Sam. 12:13) O ganlyniad, roedd Dafydd hefyd yn deall y rhyddhad sy’n dod o gael maddeuant Jehofa.—Salm 32:1.
2 Fel Dafydd, gallwn ni deimlo’r rhyddhad sy’n dod o gael trugaredd Jehofa. Mae’n gysur mawr i wybod bod Jehofa’n barod i faddau ein pechodau, hyd yn oed y rhai difrifol, os ydyn ni’n wir yn edifar, yn cyffesu ein pechodau, ac yn gwneud popeth yn ein gallu i osgoi gwneud yr un peth eto! (Diar. 28:13; Act. 26:20; 1 Ioan 1:9) Mae mor galonogol i wybod bod Duw’n maddau inni’n llwyr, fel petai’r pechod heb ddigwydd yn y lle cyntaf!—Esec. 33:16.
Cyfansoddodd y Brenin Dafydd lawer o salmau sy’n disgrifio maddeuant Jehofa (Gweler paragraffau 1-2)
3-4. Sut roedd un chwaer yn teimlo ar ôl iddi gael ei bedyddio, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Ar adegau, gall fod yn anodd i rai gredu bod Jehofa wedi maddau iddyn nhw. Ystyria brofiad Jennifer, a gafodd ei magu yn y gwir. Yn ei harddegau, fe ddechreuodd hi wneud pethau drwg a byw bywyd dwbl. Flynyddoedd wedyn, daeth hi’n ôl i Jehofa, ac mewn amser fe ddaeth hi’n gymwys i gael ei bedyddio. Mae hi’n dweud: “Roedd fy mywyd cynt yn llawn materoliaeth, anfoesoldeb rhywiol, goryfed, ac roeddwn i’n grac iawn. Roedd rhesymeg yn dweud wrtho i fod aberth Iesu wedi fy ngwneud i’n lân ar ôl imi erfyn ar Jehofa am faddeuant ac edifarhau. Ond, doeddwn i ddim yn gallu perswadio fy nghalon bod Jehofa wedi maddau imi.”
4 A wyt ti ar adegau yn ei chael hi’n anodd perswadio dy galon bod Jehofa wedi maddau iti am dy hen bechodau? Mae Jehofa eisiau inni gael yr un hyder yn ei drugaredd â Dafydd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pam mae’n rhaid inni fod yn siŵr o faddeuant Jehofa a beth all ein helpu ni i wneud hynny.
PAM MAE’N RHAID INNI FOD YN SIŴR BOD JEHOFA WEDI MADDAU INNI?
5. Beth mae Satan yn ceisio gwneud inni ei gredu? Rho esiampl.
5 Drwy gredu bod Jehofa wedi maddau inni, gallwn ni osgoi cael ein baglu gan Satan. Cofia fod Satan yn mynd i wneud popeth yn ei allu i’n stopio ni rhag gwasanaethu Jehofa. Er mwyn gwneud hynny, efallai bydd Satan yn ceisio gwneud inni gredu bod ein pechodau y tu hwnt i faddeuant Jehofa. Ystyria brofiad y dyn yng Nghorinth a gafodd ei roi allan o’r gynulleidfa oherwydd anfoesoldeb rhywiol. (1 Cor. 5:1, 5, 13) Ar ôl i’r dyn edifarhau, roedd Satan eisiau i’r gynulleidfa fod yn anfaddeugar a pheidio â’i groesawu’n ôl. Ar yr un pryd, roedd Satan eisiau i’r dyn edifar “gael ei lethu gan ormod o dristwch” nes iddo stopio gwasanaethu Jehofa a theimlo nad oedd yn bosib iddo gael ei faddau. Dydy Satan ddim wedi newid ei nod na’i dactegau. Ond rydyn ni’n “gwybod yn iawn am ei gynllwynion.”—2 Cor. 2:5-11.
6. Sut gallwn ni gael ein rhyddhau o afael euogrwydd?
6 Drwy gredu bod Jehofa wedi maddau inni, gallwn ni gael ein rhyddhau o afael euogrwydd. Pan ydyn ni’n pechu, mae’n naturiol inni deimlo’n euog. (Salm 51:17) Mae hynny’n beth da. Gall ein cydwybod ein cymell ni i gymryd camau i wneud newidiadau. (2 Cor. 7:10, 11) Ond, os ydyn ni’n gafael yn dynn yn ein heuogrwydd am amser maith ar ôl inni edifarhau, efallai byddwn ni’n teimlo fel rhoi’r ffidil yn y to. Os ydyn ni’n credu bod Jehofa wedi maddau inni, gallwn ni daflu ein heuogrwydd y tu ôl inni. Wedyn, gallwn ni wasanaethu Jehofa mewn ffordd sy’n ei blesio, gyda chydwybod lân a llawenydd mawr. (Col. 1:10, 11; 2 Tim. 1:3) Ond, sut gallwn ni berswadio ein calon i gredu bod Jehofa wedi maddau inni?
BETH ALL EIN HELPU NI I FOD YN SIŴR O FADDEUANT JEHOFA?
7-8. Pa ddisgrifiad o’i hun a roddodd Jehofa i Moses, a beth mae hynny’n ein gwneud ni’n hyderus ohono? (Exodus 34:6, 7)
7 Meddylia am sut mae Jehofa wedi disgrifio ei hun. Er enghraifft, ystyria beth ddywedodd Jehofa wrth Moses ar Fynydd Sinai.a (Darllen Exodus 34:6, 7.) Gallai Jehofa fod wedi dweud llawer am ei rinweddau a’i ffyrdd, ond fe ddewisodd ddweud ei fod yn ‘Dduw trugarog a thosturiol.’ A fyddai Duw o’r fath yn dal yn ôl rhag maddau i un o’i addolwyr sy’n wir wedi edifarhau am ei bechod? Na fyddai! Fyddai Jehofa byth yn gallu ymddwyn mewn ffordd mor greulon a di-drugaredd.
8 Gallwn ni fod yn hyderus na fyddai Jehofa byth yn dweud celwydd amdano’i hun, gan mai ef yw Duw’r gwirionedd. (Salm 31:5) Felly, gallwn ni gredu ei eiriau yn llwyr. Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd stopio teimlo’n euog oherwydd dy hen bechodau, gofynna i ti dy hun: ‘A ydw i’n credu bod Jehofa’n wir yn drugarog a thosturiol ac ni fyddai byth yn dal yn ôl rhag maddau i unrhyw bechadur edifar? Pam felly na fyddwn i’n derbyn ei fod wedi maddau i mi?’
9. Beth mae’n ei olygu i gael maddeuant am ein pechodau? (Salm 32:5)
9 Myfyria ar beth gwnaeth Jehofa ysbrydoli ysgrifenwyr y Beibl i’w ddweud am ei faddeuant. Ystyria, er enghraifft, sut gwnaeth Dafydd ddisgrifio maddeuant Jehofa. (Darllen Salm 32:5.) Dywedodd Dafydd, “er fy mod i’n euog dyma ti’n maddau’r cwbl.” Gall y gair Hebraeg ar gyfer “maddau” olygu “codi i fyny,” neu “gario.” Wrth faddau i Dafydd, roedd fel petai Jehofa wedi codi ei bechodau i fyny a’u cario nhw i ffwrdd. Teimlodd Dafydd ryddhad o’r baich trwm o euogrwydd roedd wedi bod yn ei gario. (Salm 32:2-4) Gallwn ni deimlo rhyddhad tebyg. Os ydyn ni’n wir yn edifar, does dim rhaid inni barhau i gario’r euogrwydd am bechodau mae Jehofa wedi eu codi i fyny a’u cario i ffwrdd.
10-11. Beth mae’r geiriau “barod i faddau” yn ei ddysgu inni am Jehofa? (Salm 130:4)
10 Darllen Salm 130:4. Mae’r salm hon yn dweud bod Jehofa’n “barod i faddau.” Natur Jehofa yw i faddau i eraill. Pam mae’n rhan o’i natur? Mae adnod 7 o’r un salm yn dweud: “Mae cariad yr ARGLWYDD mor ffyddlon.” Fel dysgon ni yn yr erthygl flaenorol, mae cariad ffyddlon yn cymell Jehofa i feithrin perthynas agos â’i addolwyr ffyddlon ac i lynu’n agos atyn nhw. Oherwydd ei gariad ffyddlon, mae’n “barod i faddau” i unrhyw bechadur edifar. (Esei. 55:7) Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd credu bod Jehofa wedi maddau iti, gelli di ofyn i ti dy hun: ‘A ydw i’n credu bod Jehofa’n barod i faddau i bob person sy’n edifarhau ac sy’n erfyn arno am drugaredd? Felly pam na fydda i’n credu ei fod wedi maddau i mi ar ôl imi erfyn arno am drugaredd?’
11 Mae gwybod bod Jehofa’n deall yn llwyr ein natur bechadurus yn gallu dod â chysur inni. (Salm 139:1, 2) Gad inni ystyried salm arall sy’n gallu ein helpu ni i dderbyn bod Jehofa wedi maddau inni.
BETH MAE JEHOFA’N EI GOFIO AMDANON NI
12-13. Yn ôl Salm 103:14, beth mae Jehofa’n ei gofio amdanon ni, a beth mae hyn yn ei gymell i’w wneud?
12 Darllen Salm 103:14. Dywedodd Dafydd am Jehofa: “Mae’n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.” Gyda’r geiriau hyn, esboniodd Dafydd un o’r rhesymau pam mae Jehofa’n barod i faddau i addolwyr edifar. Mae’n wastad yn cofio ein natur bechadurus. I ddeall hyn yn well, gad inni edrych yn fwy manwl ar eiriau Dafydd.
13 Dywedodd Dafydd fod Jehofa’n “gwybod am ein defnydd ni.” Fe wnaeth ffurfio Adda “allan o lwch y tir” ac mae’n gwybod yn dda bod gan bobl berffaith gyfyngiadau naturiol—er enghraifft, yr angen i fwyta, i gysgu, ac i anadlu. (Gen. 2:7) Ond ers i Adda ac Efa bechu, mae pobl yn ‘llwch’ mewn ffordd ychwanegol. Rydyn ni, fel eu disgynyddion, wedi etifeddu natur bechadurus a’r tueddiad i wneud pethau anghywir. Mae Jehofa’n ymwybodol o’n natur bechadurus, ond yn fwy na hynny, dywedodd Dafydd ei fod hefyd yn ‘cofio’r’ ffaith honno. Gall y gair Hebraeg am ‘gofio’ olygu cymryd camau positif. Gallwn ni grynhoi ystyr geiriau Dafydd fel hyn: Mae Jehofa’n deall ein bod ni i gyd yn gwneud camgymeriadau ar adegau, a phan ydyn ni, mae’n cael ei gymell i ymateb i’n hedifeirwch diffuant drwy ddangos trugaredd a maddeuant tuag aton ni.—Salm 78:38, 39.
14. (a) Beth arall mae Dafydd yn ei ddweud am faddeuant Jehofa? (Salm 103:12) (b) Sut mae esiampl Dafydd yn dangos bod Jehofa’n maddau yn llwyr? (Gweler y blwch “Mae Jehofa’n Maddau Ein Pechodau ac yn Anghofio Amdanyn Nhw.”)
14 Beth arall all ein helpu ni i gredu bod Jehofa wedi maddau inni? (Darllen Salm 103:12.) Yn ôl geiriau Dafydd, pan mae Jehofa’n maddau inni, mae’n symud ein pechodau i ffwrdd “mor bell ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin.” Mewn ffordd, y dwyrain ydy’r pellter mwyaf i ffwrdd o’r gorllewin gallwn ni ei ddychmygu. Fyddan nhw byth yn cyfarfod ei gilydd. Beth mae hynny’n ei olygu am y pechodau mae Jehofa wedi eu maddau? Mae un cyfeirlyfr yn egluro’r adnod hon gan ddweud bod Duw yn cymryd ein pechodau mor bell i ffwrdd, ni fydd yn eu cofio nhw bellach, yn union fel arogl sydd wedi diflannu’n llwyr. Meddylia am hyn—gall arogl wneud inni gofio rhywbeth. Ond pan mae Jehofa’n maddau, mae fel petai pob diferyn o’n pechod wedi diflannu’n llwyr, ac ni fydd byth yn ei dwyn i’w gof nac yn ei ddal yn ein herbyn ni.—Esec. 18:21, 22; Act. 3:19.
15. Beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni’n parhau i deimlo’n euog am hen gamgymeriadau?
15 Sut gall geiriau Dafydd yn Salm 103 ein helpu ni i gredu bod Jehofa wedi maddau inni? Os ydyn ni’n teimlo’n euog yn barhaol am bechodau o’r gorffennol, gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘A ydw i’n anghofio beth mae Jehofa’n ei gofio—hynny yw, a ydw i’n anghofio ei fod yn ymwybodol o fy natur bechadurus ac fe fydd yn maddau i bechadur edifar fel fi? A ydw i hefyd yn cofio beth mae Jehofa’n dewis ei anghofio—hynny yw, a ydw i’n cofio’r pechodau mae wedi eu maddau a’i addewid i beidio â’u dal yn fy erbyn i bellach?’ Dydy Jehofa ddim yn canolbwyntio ar ein pechodau o’r gorffennol, ac na ddylen ninnau chwaith. (Salm 130:3) Pan ydyn ni’n credu bod Jehofa wedi maddau inni, gallwn ni maddau i ni’n hunain am ein camgymeriadau a symud ymlaen.
16. Eglura’r peryg o afael yn dynn yn ein pechodau. (Gweler hefyd y llun.)
16 Ystyria’r eglureb hon. Mae gafael yn dynn yn ein hen bechodau yn debyg i yrru car ymlaen wrth edrych yn y drych drwy’r amser. Mae’n dda i edrych yn y drych o bryd i’w gilydd fel dy fod ti’n gallu ymateb i unrhyw beryglon. Ond i symud ymlaen yn ddiogel, mae’n rhaid iti ffocysu ar y ffordd ymlaen. Mewn ffordd debyg, gall edrych bob hyn a hyn ar ein hen gamgymeriadau ein helpu ni i ddysgu gwersi ac i beidio â gwneud yr un camgymeriadau eto. Ond os ydyn ni’n dal ati i feddwl am bechodau y mae Jehofa wedi eu maddau, mae’n bosib inni golli ein llawenydd a pheidio â’i wasanaethu yn y ffordd orau bosib. Yn hytrach, gad inni ganolbwyntio ar y ffordd o’n blaenau. Rydyn ni ar y ffordd sy’n arwain i fywyd ym myd newydd Jehofa, lle fydd atgofion gwael “ddim yn croesi’r meddwl.”—Esei. 65:17; Diar. 4:25.
Yn union fel bod rhaid i yrrwr ganolbwyntio ar y ffordd ymlaen yn lle ar beth sydd y tu ôl iddo yn y drych, mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar y bendithion gawn ni yn y dyfodol yn hytrach nag ar ein hen gamgymeriadau (Gweler paragraff 16)
PARHA I BERSWADIO DY GALON
17. Pam mae’n rhaid inni barhau i berswadio ein calon bod Jehofa’n ein caru ni ac yn maddau inni?
17 Mae’n rhaid inni barhau i berswadio ein calon bod Jehofa’n ein caru ni ac yn barod i faddau inni. (1 Ioan 3:19, tdn.) Pam? Oherwydd bod Satan yn ceisio’n ddi-baid i’n perswadio ni fod cariad a maddeuant Jehofa y tu hwnt i’n cyrraedd. Ei nod ydy i wneud inni stopio gwasanaethu Jehofa. Gallwn ni ddisgwyl iddo drio’n galetach yn ei ymdrechion oherwydd bod ei amser yn brin. (Dat. 12:12) Ond, ddylen ni ddim gadael iddo ennill!
18. Beth gelli di ei wneud i berswadio dy galon bod Jehofa’n dy garu di ac yn maddau iti?
18 Er mwyn cryfhau dy hyder bod Jehofa’n dy garu di, rho ar waith yr awgrymiadau yn yr erthygl flaenorol er mwyn perswadio dy galon fod Jehofa wedi maddau iti. Ystyria sut mae Jehofa wedi disgrifio ei hun. Myfyria ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ei faddeuant. Paid ag anghofio ei fod yn ymwybodol o dy natur bechadurus ac fe fydd yn dy drin di â thrugaredd. A chofia, pan mae Jehofa’n maddau, mae’n gwneud hynny’n llwyr. Yna gelli di gael yr un math o hyder yn nhrugaredd Jehofa â Dafydd, a gelli di ddweud, “Diolch, Jehofa, achos rwyt ‘ti’n maddau’r cwbl’!”—Salm 32:5.
CÂN 1 Rhinweddau Jehofa
a Gweler yr erthygl “Draw Close to God—When Jehovah Described Himself” yn rhifyn Mai 1, 2009 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.