LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Awst tt. 20-25
  • Sut i Ennill y Frwydr yn Erbyn Chwantau Drwg

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Ennill y Frwydr yn Erbyn Chwantau Drwg
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • SUT MAE’R “UN DRWG” EISIAU INNI DEIMLO
  • SUT MAE EIN CYFLWR PECHADURUS YN GWNEUD INNI DEIMLO
  • SUT I ENNILL
  • “DAL ATI I CHWILIO”
  • Bydda’n Effro yn Erbyn Temtasiwn
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Dal Ati i Ddilyn Iesu ar ôl Bedydd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Beth Mae Jehofa Wedi Ei Wneud i’n Hachub Ni o Bechod
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Penderfyniadau Sy’n Dangos Ein Bod Ni’n Dibynnu ar Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Awst tt. 20-25

ERTHYGL ASTUDIO 35

CÂN 121 Rhaid Cael Hunanreolaeth

Sut i Ennill y Frwydr yn Erbyn Chwantau Drwg

“Peidiwch â gadael i bechod reoli sut rydych chi’n byw. Peidiwch ag ufuddhau i chwantau eich cyrff sy’n marw.”—RHUF. 6:12.

PWRPAS

I’n helpu ni i beidio â digalonni nac ildio i demtasiwn.

1. Beth sy’n wir am bob person amherffaith?

A WYT ti erioed wedi cael awydd cryf i wneud rhywbeth sy’n anghywir yng ngolwg Jehofa? Os felly, paid â digalonni gan feddwl bod y treial yn rhy anodd iti. Mae’r Beibl yn dweud: “Does yr un temtasiwn wedi dod arnoch chi heblaw am yr hyn sy’n gyffredin i ddynion.” (1 Cor. 10:13)a Mae hyn yn golygu, beth bynnag rwyt ti’n ei wynebu, mae eraill yn delio â’r un teimladau hefyd. Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun, a gyda help Jehofa, gelli di ennill y frwydr.

2. Pa fath o demtasiynau gallai rhai Cristnogion a myfyrwyr y Beibl eu hwynebu? (Gweler hefyd y lluniau.)

2 Mae’r Beibl hefyd yn dweud: “Mae pob un yn cael ei demtio trwy gael ei ddenu a’i hudo gan ei chwant ei hun.” (Iago 1:14) Mae pobl wahanol yn cael eu temtio gan bethau gwahanol. Er enghraifft, efallai bydd rhai Cristnogion yn cael eu temtio i ymddwyn mewn ffordd anfoesol gyda rhywun o’r rhyw arall, tra bod eraill yn cael eu temtio gan rywun o’r un rhyw. Gallai rhai sydd wedi rhoi’r gorau i edrych ar bornograffi deimlo awydd cryf i fynd yn ôl i’w hen arfer. Mae rhai sydd wedi stopio camddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn wynebu’r un her. Dyna ychydig o chwantau mae rhai Cristnogion a myfyrwyr y Beibl yn eu hwynebu. Mae’n debyg bod pob un ohonon ni o bryd i’w gilydd wedi teimlo fel yr apostol Paul pan ysgrifennodd: “Pan ydw i eisiau gwneud yr hyn sy’n iawn, yr hyn sy’n ddrwg sydd y tu mewn imi.”—Rhuf. 7:21.

Gall temtasiwn godi yn ddiofyn—unrhyw le ac ar unrhyw bryd (Gweler paragraff 2)d


3. Pa effaith gall chwant drwg parhaol ei chael ar rywun?

3 Os wyt ti’n brwydro yn erbyn chwant drwg yn aml, efallai byddet ti’n teimlo heb nerth, fel nad wyt ti’n gallu gwrthsefyll y temtasiwn. Efallai byddet ti hefyd yn teimlo heb obaith, fel byddai Jehofa’n dy gondemnio di am gael yr awydd drwg yn y lle cyntaf. Ond, dydy teimladau o’r fath ddim wedi eu seilio ar y gwir! I esbonio pam, bydd yr erthygl hon yn ateb dau gwestiwn: (1) Beth sydd wrth wraidd teimladau o fod yn ddi-nerth a diobaith? (2) Sut gelli di ennill y frwydr yn erbyn chwantau drwg?

SUT MAE’R “UN DRWG” EISIAU INNI DEIMLO

4. (a) Pam mae Satan eisiau inni deimlo’n ddi-nerth? (b) Pam gallwn ni fod yn siŵr ein bod ni’n gallu gwrthod chwantau drwg?

4 Mae Satan eisiau inni deimlo’n ddi-nerth pan ydyn ni’n cael ein temtio. Gwnaeth Iesu gydnabod hyn pan ddysgodd ei ddilynwyr i weddïo: ‘Paid â gadael inni ildio i demtasiwn, ond achuba ni rhag yr un drwg.’ (Math. 6:13) Mae Satan yn cwestiynu a fydd pobl yn dal yn fodlon ufuddhau i Jehofa wrth wynebu temtasiynau. (Job 2:​4, 5) Am eironi pur! Doedd Satan ddim yn fodlon aros yn ffyddlon i Jehofa pan gafodd ei ddenu gan ei chwant ei hun. Mae hyn yn awgrymu ei fod yn credu ein bod ni’n union yr un fath ag ef, a byddwn ni’n cefnu ar Jehofa heb oedi yn wyneb temtasiwn. Roedd Satan hyd yn oed yn meddwl y byddai Mab perffaith Duw yn gallu cael ei demtio i wneud rhywbeth anghywir! (Math. 4:​8, 9) Ond meddylia: A ydyn ni’n wir yn ddi-nerth yn ein brwydr yn erbyn chwantau drwg? Dim o gwbl. Rydyn ni’n cytuno â’r apostol Paul pan ysgrifennodd: “Mae gen i’r grym i wynebu pob peth drwy’r un sy’n rhoi nerth imi.”—Phil. 4:13.

5. Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa’n hyderus ein bod ni’n gallu ennill y frwydr yn erbyn chwantau drwg?

5 Yn wahanol i Satan, mae Jehofa’n hollol hyderus yn ein gallu i wrthod chwantau drwg. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Rhagfynegodd Jehofa byddai tyrfa fawr o bobl ffyddlon yn goroesi’r trychineb mawr. Meddylia am beth mae hynny’n ei olygu. Mae’n amhosib i Jehofa ddweud celwydd, ac mae’n addo byddai nifer mawr o bobl—nid ychydig yn unig—yn cael mynediad i’w fyd newydd oherwydd eu bod nhw “wedi golchi eu mentyll a’u gwneud nhw’n wyn yng ngwaed yr Oen.” (Dat. 7:​9, 13, 14) Mae’n glir, dydy Jehofa ddim yn ein hystyried ni’n ddi-nerth yn ein brwydr yn erbyn chwantau drwg.

6-7. Pam mae Satan eisiau inni deimlo’n ddiobaith yn ein brwydr yn erbyn temtasiynau?

6 Byddai Satan yn hoffi inni deimlo nid yn unig yn ddi-nerth ond hefyd yn ddiobaith—fel petai Jehofa’n ein condemnio ni am gael chwantau drwg yn y lle cyntaf. Ond eto, meddylia am hynny! Satan ydy’r un sydd heb unrhyw obaith gan ei fod wedi cael ei farnu gan Jehofa fel un sydd ddim yn haeddu bywyd tragwyddol. (Gen. 3:15; Dat. 20:10) Mae’n amlwg bod Satan eisiau inni deimlo’n ddiobaith hefyd—yn enwedig oherwydd bod gynnon ni rywbeth nad oes ganddo ef, sef y cyfle i fyw am byth. Ond, nid ydyn ni heb obaith. Mewn gwirionedd, mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa eisiau ein helpu ni, nid ein condemnio ni. Yn wir, nid “yw’n dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio ond mae’n dymuno i bawb gael cyfle i edifarhau.”—2 Pedr 3:9.

7 Os ydyn ni’n credu ein bod ni’n brwydro yn erbyn chwantau drwg heb unrhyw nerth neu obaith, rydyn ni’n meddwl yn y ffordd mae Satan eisiau inni feddwl. Gall sylweddoli hynny ein cryfhau ni a’n gwneud ni’n benderfynol o’i wrthsefyll yn gadarn.—1 Pedr 5:​8, 9.

SUT MAE EIN CYFLWR PECHADURUS YN GWNEUD INNI DEIMLO

8. Yn ogystal ag ymddygiad drwg, beth arall mae pechod yn ei gynnwys? (Salm 51:5) (Gweler hefyd “Esboniad.”)

8 Heblaw am Satan mae ’na rywbeth arall a all achosi inni deimlo’n ddi-nerth ac yn ddiobaith yn ein brwydr yn erbyn chwantau drwg. Beth ydy hynny? Y cyflwr pechadurus rydyn ni wedi ei etifeddu gan ein rhieni cyntaf.b—Job 14:4; darllen Salm 51:5.

9-10. (a) Sut gwnaeth cyflwr pechadurus Adda ac Efa effeithio arnyn nhw? (Gweler hefyd y llun.) (b) Sut mae ein cyflwr pechadurus yn effeithio arnon ni?

9 Ystyria sut gwnaeth cyflwr pechadurus Adda ac Efa effeithio arnyn nhw. Ar ôl bod yn anufudd i Jehofa, ceision nhw guddio a gorchuddio eu hunain. Dyma beth mae’r llyfr Insight on the Scriptures yn dweud am hyn: “Gwnaeth pechod achosi iddyn nhw deimlo euogrwydd, pryder, ansicrwydd, a chywilydd.” Roedd fel petai’r teimladau hyn yn bedair ystafell mewn tŷ gydag Adda ac Efa wedi eu cloi ynddo. Roedden nhw’n gallu symud o un ystafell i’r llall, ond doedden nhw ddim yn gallu gadael y tŷ. Doedden nhw ddim yn gallu dianc rhag eu cyflwr pechadurus.

10 Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn union yr un sefyllfa ag oedd Adda ac Efa. Dydyn nhw ddim yn gallu elwa o aberth Iesu. Ond mae’r pris a gafodd ei dalu yn gallu ein helpu ni i gael cydwybod lân a maddeuant am ein pechodau. (1 Cor. 6:11) Er hynny, rydyn ni wedi etifeddu cyflwr pechadurus. Felly does dim syndod ein bod ni hefyd yn teimlo euogrwydd, pryder, ansicrwydd, a chywilydd. Mewn gwirionedd, mae’r Beibl yn dweud bod pechod yn parhau i ddal dynolryw yn ei grafangau, ac mae wedi gwneud hynny hyd yn oed i’r rhai sydd ddim wedi “pechu yn yr un ffordd ag Adda.” (Rhuf. 5:14) Ond ni ddylwn ni ddigalonni neu adael i’r ffaith honno wneud inni deimlo’n ddi-nerth neu’n ddiobaith. Gallwn ni wrthod y teimladau negyddol hynny. Sut?

Adda ac Efa yn llawn cywilydd wrth adael gardd Eden yn gwisgo dillad o grwyn anifeiliaid.

Gwnaeth pechod achosi i Adda ac Efa deimlo euogrwydd, pryder, ansicrwydd, a chywilydd (Gweler paragraff 9)


11. Sut dylen ni ymateb pan ydyn ni’n teimlo’n ddi-nerth, a pham? (Rhufeiniaid 6:12)

11 Pan ydyn ni’n teimlo’n ddi-nerth—fel nad ydyn ni’n gallu brwydro yn erbyn chwantau drwg yn llwyddiannus—gallwn ni ystyried hynny fel ein cyflwr pechadurus yn “siarad” â ni, a dylen ni wrthod gwrando arno. Pam? Oherwydd bod y Beibl yn dysgu nad oes rhaid inni adael “i bechod reoli” droston ni. (Darllen Rhufeiniaid 6:12.) Mae hynny’n golygu ein bod ni’n gallu dewis peidio â gweithredu ar chwantau drwg. (Gal. 5:16) Fyddai Jehofa ddim wedi dweud wrthon ni i wrthod temtasiwn os nad oedd yn hyderus ein bod ni’n gallu gwneud hynny. (Deut. 30:​11-14; Rhuf. 6:6; 1 Thes. 4:3) Mae’n glir nad ydyn ni’n ddi-nerth yn ein brwydr yn erbyn chwantau drwg.

12. Sut dylen ni ymateb pan ydyn ni’n teimlo’n ddiobaith, a pham?

12 Mewn ffordd debyg, pan ydyn ni’n teimlo’n ddiobaith—fel petai Jehofa’n ein condemnio ni am gael chwantau drwg yn y lle cyntaf—gallwn ni ystyried hynny fel ein cyflwr pechadurus yn “siarad” â ni, a dylen ni wrthod gwrando arno. Pam? Oherwydd bod y Beibl yn dysgu bod Jehofa’n deall ein cyflwr pechadurus. (Salm 103:​13, 14) Mae’n “gwybod pob peth” amdanon ni, gan gynnwys y ffyrdd gwahanol mae’r pechod rydyn ni wedi ei etifeddu yn effeithio ar ein tueddiadau anghywir. (1 Ioan 3:​19, 20) Os ydyn ni’n gwrthod ein tueddiadau pechadurus drwy beidio â gweithredu ar chwantau drwg, gallwn ni fod yn lân yng ngolwg Jehofa. Pam gallwn ni fod yn siŵr o hynny?

13-14. Os oes gynnon ni chwantau drwg, a ydy hynny’n golygu ein bod ni wedi methu’n llwyr? Esbonia.

13 Mae’r Beibl yn gwahaniaethu rhwng gweithredu ar chwantau drwg a chael y chwant ei hun. Mae gynnon ni reolaeth dros y ffordd rydyn ni’n ymddwyn, ond fel arfer mae teimladau yn codi yn ddiofyn. Er enghraifft, roedd rhai Cristnogion y ganrif gyntaf wedi arfer cyfunrywioldeb. Ysgrifennodd Paul: “Dyna oedd rhai ohonoch chi.” A oedd hynny’n golygu nad oedden nhw byth yn cael yr awydd i weithredu ar eu teimladau gyfunrhywiol? Fyddai credu hynny ddim yn gwneud synnwyr oherwydd bod teimladau o’r fath wedi eu gwreiddio’n ddwfn. Ond roedd y Cristnogion a oedd yn dangos hunanreolaeth ac yn gwrthod gweithredu ar eu chwantau yn dderbyniol i Jehofa. Yn ei olwg ef, roedden nhw wedi ‘cael eu golchi’n lân.’ (1 Cor. 6:​9-11) Gall yr un peth fod yn wir yn dy achos di.

14 Ni waeth pa chwantau drwg sy’n codi yn dy galon, gelli di lwyddo i’w gwrthod nhw. Hyd yn oed os nad wyt ti’n gallu cael gwared arnyn nhw’n llwyr, gall hunanreolaeth dy helpu di i beidio â ‘gwneud ewyllys y cnawd ac ewyllys dy feddyliau.’ (Eff. 2:3) Sut gelli di wneud hynny ac ennill y frwydr yn erbyn chwantau drwg?

SUT I ENNILL

15. Pam mae’n rhaid inni fod yn onest â ni’n hunain er mwyn ennill y frwydr yn erbyn chwantau drwg?

15 Er mwyn iti ennill y frwydr yn erbyn chwantau drwg, mae’n rhaid iti gydnabod dy wendidau. Bydda’n ofalus i beidio â thwyllo dy hun â “rhesymu ffug.” (Iago 1:22) Er enghraifft, gallai rhai ddechrau rhesymu, ‘Mae eraill yn yfed mwy na fi,’ neu, ‘Fyddwn i ddim yn cael fy nhemtio i edrych ar bornograffi petai fy ngwraig yn dangos mwy o gariad tuag ata i.’ Byddai meddwl fel hyn yn ei gwneud hi’n haws iti ildio i demtasiwn. Felly paid ag esgusodi mynd i lawr llwybr anghywir, hyd yn oed yn dy feddwl. Cymera gyfrifoldeb am dy weithredoedd.—Gal. 6:7.

16. Sut gelli di gryfhau dy awydd i wneud beth sy’n iawn?

16 Yn ogystal â bod yn onest gyda ti dy hun am dy wendidau, mae’n rhaid iti gryfhau dy awydd i beidio ag ildio iddyn nhw. (1 Cor. 9:​26, 27; 1 Thes. 4:4; 1 Pedr 1:​15, 16) Cymera sylw o beth sy’n wir yn dy demtio di a phryd. Efallai math o demtasiwn neu amser penodol o’r dydd sy’n ei gwneud hi’n anoddach iti. Er enghraifft, a wyt ti’n fwy tebygol o gael dy demtio yn hwyr yn y nos neu pan wyt ti wedi blino? Ceisia ragweld y temtasiwn a pharatoa sut byddi di’n ymateb iddo. Yr amser gorau i wneud hynny ydy cyn i’r temtasiwn godi.—Diar. 22:3.

17. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Joseff? (Genesis 39:​7-9) (Gweler hefyd y lluniau.)

17 Ystyria sut gwnaeth Joseff ymateb pan geisiodd gwraig Potiffar ei hudo. Fe wrthododd ei hymdrechion yn syth, heb oedi. (Darllen Genesis 39:​7-9.) Beth mae hyn yn ei ddysgu inni? Roedd Joseff yn gwybod yn union ei deimladau ynglŷn â chymryd gwraig dyn arall cyn i wraig Potiffar geisio ei ddenu. Yn yr un modd, gelli di gryfhau dy awydd i wneud beth sy’n iawn cyn iti wynebu sefyllfa beryglus. Drwy wneud hyn, pan wyt ti’n cael dy demtio, bydd yn haws iti weithredu ar y penderfyniad rwyt ti eisoes wedi ei wneud.

Collage: 1. Joseff yn ffoi oddi wrth wraig Potiffar wrth iddi ddal ei ddillad yn ei llaw hi. 2. Brawd yn ei arddegau yn gwrthod merch sy’n fflyrtio ag ef yn yr ysgol.

Gwrthoda demtasiwn yn syth, fel gwnaeth Joseff! (Gweler paragraff 17)


“DAL ATI I CHWILIO”

18. Sut gelli di ennill y frwydr yn erbyn chwantau drwg? (2 Corinthiaid 13:5)

18 Er mwyn ennill y frwydr yn erbyn chwantau drwg, bydd rhaid iti ‘ddal ati i chwilio dy hun.’ (Darllen 2 Corinthiaid 13:5.) Felly adolyga yn aml dy feddyliau a dy weithredoedd a gwna newidiadau yn ôl yr angen. Er enghraifft, hyd yn oed pan wyt ti’n llwyddo i wrthod temtasiwn, gofynna i ti dy hun: ‘Pa mor hir gymerodd imi ddweud na?’ Os wyt ti’n sylwi dy fod ti wedi oedi, paid â chondemnio dy hun. Yn lle hynny, cymera gamau i amddiffyn dy hun yn well y tro nesaf. Gofynna gwestiynau fel: ‘A alla i leihau’r amser mae’n cymryd i gael gwared ar feddyliau anaddas? A ydy fy newis o adloniant yn ei gwneud hi’n anoddach imi wrthod temtasiwn? A ydw i’n troi fy llygaid i ffwrdd o bethau anfoesol yn syth? A ydw i’n deall pam mae safonau Jehofa’n wastad yn dda imi hyd yn oed pan mae’n rhaid imi ddangos hunanreolaeth?’—Salm 101:​3, BCND.

19. Sut gall gwneud penderfyniadau bach annoeth ei gwneud hi’n anoddach inni frwydro yn erbyn chwantau drwg?

19 Dylet ti hefyd osgoi gwneud esgusodion. Mae’r Beibl yn dweud bod y galon yn “fwy twyllodrus na dim.” (Jer. 17:9) Dywedodd Iesu fod “rhesymu drwg” yn dod allan o’r galon. (Math. 15:19) Er enghraifft, ar ôl i ychydig o amser basio ers i rywun stopio edrych ar bornograffi, efallai bydd yn meddwl ei bod hi’n “saff” i edrych ar luniau sy’n codi chwantau anfoesol gan nad ydyn nhw’n dangos noethni. Neu efallai bydd yn rhesymu, ‘Does ’na ddim byd yn bod gyda meddwl am bethau anaddas os nad ydw i’n gweithredu arnyn nhw.’ Mewn ffordd, mae calon dwyllodrus y person hwnnw yn ‘cynllwyno o flaen llaw i fodloni chwantau’r cnawd.’ (Rhuf. 13:​14, tdn.) Sut gelli di osgoi gwneud hynny? Bydda’n effro i benderfyniadau bach annoeth a fydd yn arwain at benderfyniadau mawr annoeth, fel ildio i demtasiwn.c Hefyd, gwrthoda unrhyw feddyliau, neu “rhesymu drwg,” sy’n esgusodi ymddygiad anghywir.

20. Pa obaith sydd gynnon ni ar gyfer y dyfodol, a pha help sydd gynnon ni nawr?

20 Fel rydyn ni wedi dysgu, gyda help Jehofa, mae gynnon ni’r nerth i wrthod temtasiwn. Hefyd, oherwydd ei drugaredd, mae gynnon ni’r gobaith o fyw am byth yn y byd newydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at wasanaethu Jehofa gyda chalon lân a meddwl pur! Ond nes bod hynny’n digwydd, gallwn ni fod yn siŵr bod gynnon ni’r nerth a’r gobaith i frwydro yn erbyn ein chwantau drwg. Gyda bendith Jehofa ar ein hymdrechion, gallwn ni ennill y frwydr!

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Beth all ein helpu ni pan ydyn ni’n teimlo’n ddi-nerth ac yn ddiobaith?

  • Sut gallwn ni beidio â chael ein ‘rheoli’ gan bechod?

  • Sut gallwn ni ‘ddal ati i chwilio’ ein hunain?

CÂN 122 Safwch yn Gadarn!

a Mae Beibl Cymraeg Diwygiedig yn dweud: “Nid oes un prawf wedi dod ar eich gwarthaf nad yw’n gyffredin i bawb.”

b ESBONIAD: Yn y Beibl, mae’r gair “pechod” yn aml yn cyfeirio at weithred, fel dwyn, godinebu, neu lofruddio. (Ex. 20:​13-15; 1 Cor. 6:18) Ond mae rhai adnodau yn defnyddio “pechod” i gyfeirio at y cyflwr gwnaethon ni ei etifeddu pan gawson ni ein geni, er nad oedden ni wedi pechu eto.

c Sylwa fod y dyn ifanc sy’n cael ei sôn amdano yn Diarhebion 7:​7-23 wedi gwneud penderfyniadau bach annoeth cyn gwneud penderfyniad mawr annoeth, sef ildio i anfoesoldeb rhywiol.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar y chwith: Wrth eistedd mewn caffi, mae brawd ifanc yn gweld dau ddyn yn dangos cariad rhamantus tuag at ei gilydd. Ar y dde: Mae chwaer yn gweld dau berson yn ysmygu.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu