ERTHYGL ASTUDIO 36
CÂN 103 Bugeiliaid—Dynion yn Rhoddion
Galwa’r Henuriaid
“Fe ddylai alw henuriaid y gynulleidfa ato.”—IAGO 5:14.
PWRPAS
Y pwysigrwydd o ofyn i’r henuriaid am yr help ysbrydol sydd ei angen arnon ni.
1. Sut mae Jehofa wedi dangos bod ei ddefaid yn werthfawr iddo?
MAE defaid Jehofa yn werthfawr iddo. Mae wedi eu prynu nhw gyda gwaed Iesu ac wedi penodi henuriaid y gynulleidfa i ofalu am Ei braidd. (Act. 20:28) Mae Duw eisiau i’w ddefaid gael eu trin yn dyner. O dan arweiniad Crist, mae’r henuriaid yn bwydo’r defaid ac yn eu hamddiffyn nhw rhag peryglon ysbrydol.—Esei. 32:1, 2.
2. I bwy y mae Jehofa’n rhoi sylw arbennig? (Eseciel 34:15, 16)
2 Mae pob un o ddefaid Jehofa yn bwysig iddo, ond mae’n rhoi sylw arbennig i’r rhai sy’n dioddef. Gan ddefnyddio’r henuriaid, mae’n helpu’r rhai sy’n dioddef yn ysbrydol. (Darllen Eseciel 34:15, 16.) Ond, mae eisiau inni i gyd ofyn am help pan mae angen arnon ni. Ar adegau o’r fath, gallwn ni weddïo’n daer ar Jehofa am gefnogaeth, a hefyd gofyn am help gan y ‘bugeiliaid ac athrawon’ yn y gynulleidfa.—Eff. 4:11, 12.
3. Sut gallwn ni i gyd elwa ar ystyried rôl yr henuriaid?
3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych ar beth mae Duw wedi ei ddarparu er mwyn inni gael help ysbrydol gan yr henuriaid. Byddwn ni’n ateb y cwestiynau hyn: Pryd dylen ni ofyn am help gan yr henuriaid? Pam dylen ni wneud hynny? A sut maen nhw’n ein helpu ni? Hyd yn oed os ydy pethau’n mynd yn iawn ar hyn o bryd, bydd yr atebion i’r cwestiynau hynny yn dyfnhau ein diolchgarwch am drefniadau Duw ac efallai achub ein bywydau yn y dyfodol.
PRYD DYLEN NI ALW’R HENURIAID?
4. Pam gallwn ni ddweud bod Iago 5:14-16, 19, 20 yn cyfeirio at salwch ysbrydol? (Gweler hefyd y lluniau.)
4 Fe wnaeth y disgybl Iago esbonio sut mae Jehofa’n defnyddio’r henuriaid i’n helpu ni. Fe ysgrifennodd: “Oes ’na rywun sy’n sâl yn eich plith chi? Fe ddylai alw henuriaid y gynulleidfa ato.” (Darllen Iago 5:14-16, 19, 20.) Mae’r cyd-destun yn dangos bod Iago yn sôn am salwch ysbrydol. Er enghraifft, mae’n dweud wrth yr un sy’n sâl i alw, nid doctor, ond yr henuriaid. Salwch ysbrydol sy’n cael ei awgrymu, gan ei fod yn cynnwys cael maddeuant am bechodau. Mewn rhai ffyrdd, mae’r camau sydd eu hangen er mwyn trin salwch ysbrydol yn debyg i’r rhai sydd eu hangen ar gyfer salwch corfforol. Pan ydyn ni’n sâl yn gorfforol, rydyn ni’n mynd i’r doctor, yn esbonio ein symptomau iddo, ac yn dilyn ei gyfarwyddiadau. Yn yr un ffordd, pan ydyn ni’n sâl yn ysbrydol, dylen ni fynd at henuriad, disgrifio ein sefyllfa iddo, a gweithredu ar y cyngor Ysgrythurol rydyn ni’n ei gael.
Pan ydyn ni’n sâl yn gorfforol, rydyn ni’n mynd at y doctor; os nad ydyn ni’n rhy iach yn ysbrydol, dylen ni fynd at yr henuriaid (Gweler paragraff 4)
5. Sut gallwn ni wybod bod ein hiechyd ysbrydol mewn peryg?
5 Mae Iago pennod 5 yn ein hannog ni i fynd at yr henuriaid pan ydyn ni’n teimlo bod ein hiechyd ysbrydol yn dioddef mewn unrhyw ffordd. Ond, byddai’n beth doeth inni ofyn am help cyn inni achosi niwed difrifol i’n perthynas â Duw! Mae’n rhaid inni fod yn onest â ni’n hunain. Mae’r Ysgrythurau yn ein rhybuddio ni y gallwn ni dwyllo ein hunain ynglŷn â’n hiechyd ysbrydol. (Iago 1:22) Dyna’r camgymeriad a wnaeth rhai Cristnogion cynnar yn Sardis, ac fe roddodd Iesu rybudd iddyn nhw am eu cyflwr ysbrydol. (Dat. 3:1, 2) Un ffordd gallwn ni adolygu ein hiechyd ysbrydol ydy drwy ofyn a ydyn ni’r un mor frwdfrydig yn ein haddoliad nawr ag oedden ni yn y gorffennol. (Dat. 2:4, 5) Gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘A ydw i’n mwynhau darllen y Beibl a’i fyfyrio arno gymaint ag oeddwn i o’r blaen? A ydw i’n cymryd mynychu’r cyfarfodydd o ddifri ac yn paratoi ar eu cyfer nhw? A ydw i’n dal yn teimlo’n selog am y gwaith pregethu? A ydy pleserau neu bethau materol yn llenwi fy meddwl a fy amser?’ Gall yr atebion i’r cwestiynau hynny ddangos gwendid a allai gwaethygu petasen ni’n ei anwybyddu. Os nad ydyn ni’n gallu dod dros y gwendid ar ein pennau ein hunain, neu os ydy’r gwendid wedi achosi inni dorri safonau Duw yn barod, dylen ni ofyn i’r henuriaid am help.
6. Beth dylai’r rhai sydd wedi pechu’n ddifrifol ei wneud?
6 Wrth gwrs, dylai unigolyn fynd at henuriad os ydy ef wedi cyflawni pechod difrifol a allai achosi iddo gael ei roi allan o’r gynulleidfa. (1 Cor. 5:11-13) Mae angen help ar unrhyw un sydd wedi ildio i bechod difrifol i adfer ei berthynas â Jehofa. Er mwyn ennill maddeuant Jehofa drwy aberth Iesu, mae’n rhaid inni “wneud gweithredoedd sy’n deilwng o edifeirwch.” (Act. 26:20) Mae’r gweithredoedd hynny yn cynnwys mynd at yr henuriaid os ydyn ni wedi pechu’n ddifrifol.
7. Pwy arall sydd angen cael help gan yr henuriaid?
7 Mae’r henuriaid yn helpu’r rhai sydd wedi pechu’n ddifrifol, ond maen nhw hefyd yn helpu’r rhai sy’n wan yn ysbrydol. (Act. 20:35) Er enghraifft, efallai dy fod ti’n teimlo ei bod hi’n rhy anodd iti frwydro yn erbyn chwantau drwg. Gallai hyn fod yn enwedig o anodd os oeddet ti wedi bod yn gaeth i gyffuriau, wedi edrych ar bornograffi, neu wedi byw bywyd anfoesol cyn iti ddysgu’r gwir. Does dim rhaid iti wynebu’r heriau hyn ar dy ben dy hun. Gelli di siarad â henuriad a fydd yn gwrando ar dy bryderon, rhoi cyngor ymarferol, a dy atgoffa di ei bod hi’n bosib iti blesio Jehofa drwy wrthod gweithredu ar chwantau drwg. (Preg. 4:12) Os wyt ti wedi dechrau digalonni, gall yr henuriaid hefyd dy atgoffa di fod hyn yn arwydd dy fod ti’n cymryd dy berthynas â Jehofa o ddifri ac yn osgoi bod yn orhyderus.—1 Cor. 10:12.
8. A oes rhaid inni siarad â’r henuriaid am bob camgymeriad rydyn ni’n ei wneud? Esbonia.
8 Does dim rhaid inni fynd at yr henuriaid i sôn am bob peth sy’n ymwneud â’n hiechyd ysbrydol. Er enghraifft, dychmyga dy fod ti wedi dweud rhywbeth sydd wedi brifo brawd neu chwaer, efallai dy fod ti hyd yn oed wedi colli dy dymer. Yn hytrach na mynd at henuriad, gelli di roi cyngor Iesu ar waith drwy adfer yr heddwch rhyngot ti a dy frawd neu dy chwaer. (Math. 5:23, 24) Gelli di wneud ymchwil ar bynciau fel addfwynder, amynedd, a hunanreolaeth er mwyn dangos y rhinweddau hyn yn well yn y dyfodol. Wrth gwrs, os nad wyt ti’n gallu datrys y broblem, yna gelli di ofyn i henuriad am help. Yn ei lythyr at y Philipiaid, gofynnodd yr apostol Paul i frawd helpu Euodia a Syntyche i ddatrys eu problemau, ac efallai bydd henuriad yn dy gynulleidfa yn gallu rhoi’r un math o gymorth iti.—Phil. 4:2, 3.
PAM DYLEN NI ALW’R HENURIAID?
9. Pam na ddylen ni adael i deimladau o gywilydd ein dal ni’n ôl rhag galw’r henuriaid? (Diarhebion 28:13)
9 Mae angen ffydd a dewrder arnon ni i ofyn am help pan ydyn ni wedi pechu’n ddifrifol neu pan ydyn ni’n teimlo ein bod ni’n colli’r frwydr yn erbyn ein chwantau drwg. Ddylen ni ddim gadael i deimladau o gywilydd ein dal ni’n ôl rhag galw’r henuriaid. Pam ddim? Drwy ddilyn trefniadau Jehofa, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ei drystio ef a’i gyfarwyddiadau i’n cadw ni’n iach ac yn gryf yn ysbrydol. Rydyn ni’n cydnabod bod angen ei help arnon ni os ydyn ni ar fin syrthio. (Salm 94:18) Hefyd, os ydyn ni wedi pechu, byddwn ni’n derbyn trugaredd Jehofa os ydyn ni’n cyffesu ein pechodau a chefnu arnyn nhw.—Darllen Diarhebion 28:13.
10. Beth a all ddigwydd os ydyn ni’n ceisio cuddio ein pechodau?
10 Yn wahanol i’r canlyniadau da sy’n dod o siarad â henuriad pan mae angen help arnon ni, bydd y sefyllfa’n gwaethygu os ydyn ni’n ceisio cuddio ein pechodau. Pan geisiodd y Brenin Dafydd guddio ei bechodau, fe wnaeth ddioddef yn ysbrydol, yn emosiynol, a hyd yn oed yn gorfforol. (Salm 32:3-5) Fel salwch neu anaf corfforol, mae’n debygol y bydd problem ysbrydol yn gwaethygu os nad ydyn ni’n gwneud rhywbeth amdani. Dydy Jehofa ddim eisiau i hynny ddigwydd, felly mae’n ein gwahodd ni i siarad â’r henuriaid er mwyn iddyn nhw ein helpu ni i ddod yn ffrind iddo Ef unwaith eto.—Esei. 1:5, 6, 18.
11. Sut gallai cuddio pechodau difrifol effeithio ar eraill?
11 Gallai cuddio ein pechod effeithio ar eraill. Gallen ni rwystro llif ysbryd glân Duw yn y gynulleidfa a pheryglu heddwch ein brodyr a’n chwiorydd. (Eff. 4:30) Yn yr un modd, petasen ni’n dysgu bod rhywun arall yn y gynulleidfa wedi pechu’n ddifrifol, dylen ni annog yr unigolyn i siarad â’r henuriaid am y mater.a Byddai cuddio pechod difrifol rhywun arall yn ein gwneud ni’n euog hefyd. (Lef. 5:1) Dylai ein cariad at Jehofa ein cymell ni i fynd at yr henuriaid a dweud y gwir. Bydd gwneud hynny yn helpu i gadw’r gynulleidfa yn lân ac yn helpu’r person i adfer ei berthynas da â Jehofa.
SUT MAE’R HENURIAID YN EIN HELPU NI?
12. Sut mae’r henuriaid yn helpu’r rhai sy’n wan yn ysbrydol?
12 Mae’r henuriaid yn cael eu harwain i gefnogi’r rhai sy’n wan yn ysbrydol. (1 Thes. 5:14) Os wyt ti wedi gwneud camgymeriad, efallai bydden nhw’n gofyn cwestiynau er mwyn deall dy feddyliau a dy deimladau. (Diar. 20:5) Gelli di eu helpu nhw drwy fynegi dy hun yn agored, hyd yn oed os ydy hi’n anodd iti oherwydd dy ddiwylliant, dy bersonoliaeth, neu oherwydd bod yr her rwyt ti’n ei hwynebu yn codi cywilydd arnat ti. Paid â phoeni bod dy eiriau yn gallu swnio fel dy fod ti’n “siarad yn fyrbwyll.” (Job 6:3) Yn hytrach na neidio i gasgliad, bydd yr henuriaid yn ceisio gwrando’n ofalus a chael y darlun mawr cyn rhoi cyngor. (Diar. 18:13) Maen nhw’n gwybod ei bod hi’n cymryd amser i fugeilio’r praidd, felly dydyn nhw ddim yn disgwyl datrys problemau heriol gyda dim ond un sgwrs.
13. Sut gall gweddïau’r henuriaid a’u harweiniad Ysgrythurol ein helpu ni? (Gweler hefyd y lluniau.)
13 Pan wyt ti’n galw’r henuriaid, byddan nhw’n ymdrechu i beidio â gwneud iti deimlo’n fwy euog. Yn hytrach, byddan nhw’n gweddïo ar dy ran. Efallai bydd “effaith bwerus” eu gweddïau yn dy synnu di. Mae eu help hefyd yn cynnwys “rhoi olew [arnat ti] yn enw Jehofa.” (Iago 5:14-16) Mae’r “olew” hwn yn cyfeirio at wirionedd Gair Duw. Gan ddefnyddio’r Beibl mewn ffordd fedrus, gall yr henuriaid ddod â chysur iti a dy helpu di i adfer dy berthynas â Jehofa. (Esei. 57:18) Gall yr arweiniad Ysgrythurol maen nhw’n ei rannu â ti gryfhau dy awydd i wneud beth sy’n iawn. Gyda’u help nhw, gallet ti glywed llais Jehofa’n dweud wrthot ti: “Dyma’r ffordd; ewch y ffordd yma!”—Esei. 30:21.
Mae’r henuriaid yn defnyddio’r Beibl i ddod â chysur i’r rhai sy’n dioddef (Gweler paragraffau 13-14)
14. Yn ôl Galatiaid 6:1, sut mae’r henuriaid yn helpu rhywun sydd wedi “cymryd cam gwag”? (Gweler hefyd y lluniau.)
14 Darllen Galatiaid 6:1. Dydy Cristion sydd wedi “cymryd cam gwag” ddim yn cerdded yn unol â safonau cyfiawn Duw. Gall cam gwag gyfeirio at benderfyniadau annoeth neu dorri cyfraith Duw mewn ffordd ddifrifol. Mae henuriaid Cristnogol yn cael eu cymell gan gariad i ‘geisio rhoi dyn o’r fath ar ben ffordd mewn ysbryd o addfwynder.’ Yn yr iaith wreiddiol, gall geiriau yr adnod hon ddisgrifio gosod asgwrn sydd wedi ei thorri er mwyn osgoi problemau hirdymor. Yn union fel mae doctor medrus yn ceisio gosod asgwrn gyda chyn lleied o boen â phosib, mae’r henuriaid yn canolbwyntio ar iacháu ein salwch ysbrydol heb ychwanegu at ein poen. Maen nhw hefyd yn cael eu hannog i ‘gadw llygad arnyn nhw eu hunain.’ Wrth i’r henuriaid ein rhoi ni ar ben ffordd, maen nhw’n cofio eu bod nhw hefyd yn amherffaith ac yn dueddol o gymryd camau gwag. Yn lle dangos agwedd hunanbwysig, hunangyfiawn, neu feirniadol, maen nhw’n ceisio cydymdeimlo â ni.—1 Pedr 3:8.
15. Beth gallwn ni ei wneud os oes gynnon ni broblem?
15 Gallwn ni drystio’r henuriaid. Maen nhw wedi cael eu hyfforddi i gadw materion cyfrinachol yn breifat, i roi cyngor ar sail y Beibl yn hytrach nag ar farn bersonol, ac i barhau i’n helpu ni i ddelio â’n problemau. (Diar. 11:13; Gal. 6:2) Mae gan bob un ohonyn nhw bersonoliaeth a phrofiadau gwahanol, ond dylen ni deimlo ein bod ni’n gallu mynd at unrhyw henuriad i drafod problem sydd gynnon ni. Wrth gwrs, ni ddylen ni fynd o un henuriad i’r llall gan obeithio bydd un ohonyn nhw’n dweud beth rydyn ni eisiau ei glywed. Petasen ni’n gwneud hynny, bydden ni fel y rhai sydd eisiau cael eu clustiau wedi eu ticlo yn hytrach na derbyn “y ddysgeidiaeth fuddiol” o Air Duw. (2 Tim. 4:3) Pan ydyn ni’n mynd â phroblem at henuriad, efallai bydd yn gofyn inni a ydyn ni wedi siarad â henuriaid eraill am y mater, ac os felly, beth oedd eu cyngor. Gallai gostyngeiddrwydd ei gymell i ofyn am gyngor gan henuriad arall.—Diar. 13:10.
EIN CYFRIFOLDEB PERSONOL
16. Pa gyfrifoldeb personol sydd gynnon ni?
16 Er bod yr henuriaid yn gofalu amdanon ni fel bugeiliaid, dydyn nhw ddim yn dweud wrthon ni beth i’w wneud. Mae gynnon ni gyfrifoldeb personol i ymarfer defosiwn Duwiol yn ein bywydau. Rydyn ni’n atebol i Dduw am ein geiriau a’n gweithredoedd. Gyda’i gefnogaeth ef, gallwn ni aros yn ffyddlon yn llwyddiannus. (Rhuf. 14:12) Felly yn lle mynnu ein bod ni’n dilyn cwrs penodol, mae’r henuriaid yn ein cyfeirio ni at Air Duw i weld sut mae Jehofa’n teimlo am bethau. Drwy ddilyn eu cyngor sy’n seiliedig ar y Beibl, gallwn ni hyfforddi ein “gallu meddyliol” er mwyn gwneud penderfyniadau doeth.—Heb. 5:14.
17. Beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud?
17 Am fraint arbennig sydd gynnon ni i fod yn ddefaid Jehofa! Anfonodd Jehofa y “bugail da,” Iesu, i dalu’r pris er mwyn inni gael y cyfle i fyw am byth. (Ioan 10:11) Mae Jehofa wedi defnyddio henuriaid y gynulleidfa i gyflawni ei addewid: “Bydda i’n rhoi arweinwyr i chi sy’n ffyddlon i mi. Byddan nhw’n gofalu amdanoch chi’n ddoeth ac yn ddeallus.” (Jer. 3:15) Pan ydyn ni’n wan neu’n sâl yn ysbrydol, ddylen ni ddim oedi rhag galw’r henuriaid am help. Gad inni fod yn benderfynol o dderbyn help gan yr henuriaid, sy’n wir yn rhoddion gan Jehofa.
CÂN 31 Cerdda Gyda Duw!
a Os nad ydy’r person sydd wedi pechu yn gwneud hyn ar ôl i amser fynd heibio, dylai dy ffyddlondeb i Jehofa dy gymell di i rannu beth rwyt ti’n ei wybod â’r henuriaid.