ERTHYGL ASTUDIO 37
CÂN 114 Byddwch yn Amyneddgar
Y Ffordd Orau i Ymateb i Anghyfiawnder
“Roedd yn disgwyl gweld cyfiawnder, ond trais a gafodd.”—ESEI. 5:7.
PWRPAS
Sut mae esiampl Iesu yn ein helpu ni i ymateb i anghyfiawnder mewn ffordd sy’n plesio Jehofa.
1-2. Sut mae llawer o bobl yn ymateb i anghyfiawnder, a pha gwestiynau a all godi?
MAE’R byd o’n cwmpas ni yn anghyfiawn. Mae pobl yn cael eu trin yn annheg oherwydd eu bod nhw’n dlawd, o le maen nhw’n dod, eu golwg, neu resymau eraill. Mae llawer o bobl yn dioddef oherwydd gwneud elw yw’r peth pwysicaf i rai pobl fusnes ac arweinwyr y llywodraeth. Mae’r anghyfiawnderau hyn ac eraill yn effeithio ar bob un ohonon ni, yntau’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
2 Does dim syndod bod llawer yn ddig oherwydd yr holl anghyfiawnder sydd o’u cwmpas. Rydyn ni i gyd eisiau byw mewn byd lle rydyn ni’n teimlo’n saff ac yn cael ein trin yn deg. Mae rhai yn ymuno ag ymdrechion i ddatrys problemau’r byd. Maen nhw’n arwyddo deisebau, yn protestio, ac yn cefnogi arweinwyr gwleidyddol sy’n addo brwydro yn erbyn anghyfiawnder. Ond fel Cristnogion, rydyn ni wedi cael ein dysgu i beidio â bod “yn rhan o’r byd” ac i aros i Deyrnas Dduw cael gwared ar anghyfiawnder yn gyfan gwbl. (Ioan 17:16) Er hynny, rydyn ni’n dal yn teimlo’n drist—weithiau hyd yn oed yn gwylltio—pan ydyn ni’n gweld rhywun yn cael ei drin yn annheg. Efallai byddwn ni’n meddwl: ‘Sut dylwn i ymateb? A oes ’na unrhyw beth galla i ei wneud am anghyfiawnder ar hyn o bryd?’ I ateb y cwestiynau hynny, gad inni ystyried sut mae Jehofa ac Iesu yn teimlo am anghyfiawnder.
MAE JEHOFA AC IESU YN CASÁU ANGHYFIAWNDER
3. Pam mae anghyfiawnder yn cael effaith fawr arnon ni? (Eseia 5:7)
3 Mae’r Beibl yn esbonio pam mae anghyfiawnder yn cael effaith fawr arnon ni. Mae’n dweud bod Jehofa wedi ein creu ni yn ei ddelw ef a’i fod yn “caru beth sy’n deg ac yn gyfiawn.” (Salm 33:5; Gen. 1:26) Dydy Jehofa byth yn ymddwyn yn anghyfiawn, ac mae eisiau i bobl drin eraill yn deg. (Deut. 32:3, 4; Mich. 6:8; Sech. 7:9) Er enghraifft, yn ystod adeg y proffwyd Eseia, fe glywodd Jehofa “gwaedd daer” gan lawer o Israeliaid a oedd yn cael eu cam-drin gan Israeliaid eraill. (Darllen Eseia 5:7.) Gwnaeth Jehofa gosbi’r rhai a oedd yn dal ati i anwybyddu ei gyfraith ac yn trin eraill yn annheg.—Esei. 5:5, 13.
4. Beth mae un digwyddiad yn yr Efengylau yn ei ddangos am deimladau Iesu tuag at anghyfiawnder? (Gweler hefyd y llun.)
4 Mae Iesu, fel Jehofa, yn caru cyfiawnder ac yn casáu anghyfiawnder. Ar un achlysur yn ystod gweinidogaeth Iesu ar y ddaear, fe welodd ddyn a’i law wedi ei pharlysu. Cafodd Iesu ei gymell i’w helpu, ond ni wnaeth yr arweinwyr crefyddol di-deimlad ymateb yn yr un ffordd. Roedd cadw cyfraith y Saboth yn fwy pwysig iddyn nhw na dioddefaint y dyn. Sut roedd Iesu’n teimlo am eu hymateb? Roedd “yn llawn tristwch oherwydd eu bod nhw mor galon-galed.”—Marc 3:1-6.
Yn wahanol i’r arweinwyr crefyddol, roedd Iesu’n cydymdeimlo â’r rhai mewn angen (Gweler paragraff 4)
5. Beth mae’n rhaid inni ei gofio pan mae anghyfiawnder yn gwneud inni deimlo’n ddig?
5 Gan fod anghyfiawnder yn digio Jehofa ac Iesu, nid yw’n anghywir inni deimlo’r un ffordd. (Eff. 4:26 a’r nodyn astudio “Be wrathful”) Ond mae’n rhaid inni gofio na fydd unrhyw ddicter rydyn ni’n ei deimlo yn datrys anghyfiawnder, hyd yn oed os oes gynnon ni reswm da drosto. Mewn gwirionedd, gallai aros yn ddig neu fethu rheoli ein dicter achosi niwed emosiynol a chorfforol inni. (Salm 37:1, 8; Iago 1:20) Sut dylen ni ddelio ag anghyfiawnder? Gallwn ni ddysgu o esiampl Iesu.
SUT GWNAETH IESU DDELIO AG ANGHYFIAWNDER
6. Pa fath o anghyfiawnderau welodd Iesu tra oedd ar y ddaear? (Gweler hefyd y llun.)
6 Gwelodd Iesu lawer o anghyfiawnder tra oedd ar y ddaear. Fe welodd y pwysau roedd yr arweinwyr crefyddol yn rhoi ar y bobl gyffredin. (Math. 23:2-4) Roedd yn ymwybodol o’r ffordd greulon roedd yr awdurdodau Rhufeinig yn trin y bobl. Roedd llawer o Iddewon eisiau annibyniaeth oddi wrth y Rhufeiniaid. Roedd rhai, fel y Selotiaid, yn barod i frwydro amdani. Ond, doedd Iesu ddim yn ymuno â, nac yn cefnogi, unrhyw grwpiau a oedd yn brwydro dros newidiadau cymdeithasol. Pan ddysgodd Iesu fod pobl yn cynllunio i’w wneud yn frenin, fe aeth i ffwrdd oddi wrthyn nhw.—Ioan 6:15.
Aeth Iesu i ffwrdd oddi wrth y bobl er mwyn osgoi cymryd rhan mewn materion gwleidyddol (Gweler paragraff 6)
7-8. Pam nad oedd Iesu’n ceisio cael gwared ar anghyfiawnder tra oedd ar y ddaear? (Ioan 18:36)
7 Pan oedd ar y ddaear, ni wnaeth Iesu geisio gweithio gyda systemau gwleidyddol y dydd er mwyn cael gwared ar anghyfiawnder. Pam ddim? Roedd yn gwybod nad oes gan bobl yr hawl na’r gallu i reoli dros ei gilydd. (Salm 146:3; Jer. 10:23) Mae’n amhosib iddyn nhw ddatrys prif achos anghyfiawnder. Mae’r byd o dan reolaeth Satan y Diafol, ysbryd greadur creulon sy’n defnyddio ei awdurdod i hyrwyddo anghyfiawnder. (Ioan 8:44; Eff. 2:2) Hefyd, oherwydd amherffeithrwydd, dydy hyd yn oed pobl dda ddim yn gallu ymddwyn yn deg drwy’r amser.—Preg. 7:20.
8 Roedd Iesu’n gwybod mai dim ond Teyrnas Dduw sy’n gallu datrys yn llwyr brif achosion anghyfiawnder. Am y rheswm hwnnw, fe ddefnyddiodd ei amser a’i egni “yn pregethu ac yn cyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw.” (Luc 8:1) Fe wnaeth annog y rhai a oedd yn “newynu ac yn sychedu am gyfiawnder” y byddai dioddefaint ac anghyfiawnder yn dod i ben. (Math. 5:6 a’r nodyn astudio; Luc 18:7, 8) Ni fydd unrhyw lywodraeth ddynol yn gallu gwneud y newidiadau hyn. Dim ond Teyrnas Dduw, sydd “ddim yn rhan o’r byd hwn,” a fydd yn gallu gwneud hynny.—Darllen Ioan 18:36.
EFELYCHA IESU WRTH DDELIO AG ANGHYFIAWNDER
9. Pam rwyt ti’n sicr mai dim ond Teyrnas Dduw sy’n gallu cael gwared ar anghyfiawnder?
9 Rydyn ni’n byw yn ‘nyddiau olaf’ y byd hwn, felly mae ’na fwy o broblemau na phan oedd Iesu ar y ddaear. Ond fel yn yr adeg honno, prif achos anghyfiawnder ydy Satan a’r bobl amherffaith sydd o dan ei ddylanwad. (2 Tim. 3:1-5, 13; Dat. 12:12) Fel Iesu, rydyn ni’n gwybod mai dim ond Teyrnas Dduw fydd yn cael gwared ar brif achosion anghyfiawnder. Oherwydd ein bod ni’n rhoi ein holl gefnogaeth i’r Deyrnas honno, rydyn ni’n gwrthod cael rhan mewn protestiadau ac ymdrechion eraill i ddod ag anghyfiawnder i ben. Ystyria brofiad chwaer o’r enw Stacy.a Cyn iddi ddysgu’r gwir, ymunodd hi’n aml ag ymdrechion i wneud newidiadau cymdeithasol. Ond, dechreuodd hi gael amheuon am beth roedd hi’n ei wneud. Mae hi’n dweud: “Pan oeddwn i’n protestio, roeddwn i’n cwestiynu os oeddwn i ar yr ochr gywir. Ond nawr rydw i’n cefnogi Teyrnas Dduw, rydw i’n hollol sicr fy mod i ar yr ochr gywir. Rydw i’n gwybod bydd Jehofa’n brwydro dros bawb sy’n dioddef yn llawer gwell nag y gallwn i.”—Salm 72:1, 4.
10. Yn unol â Mathew 5:43-48, pam nad ydyn ni’n ceisio gwneud newidiadau cymdeithasol? (Gweler hefyd y llun.)
10 Heddiw mae llawer o’r grwpiau sy’n ceisio gwneud newidiadau cymdeithasol yn dangos agwedd annibynnol a chwerw sy’n hollol groes i esiampl a dysgeidiaethau Iesu. (Eff. 4:31) Dywedodd brawd o’r enw Jeffrey: “Rydw i’n gwybod bod protestiadau heddychlon yn gallu troi mewn eiliadau ac arwain at drais a lladrata.” Ond mae Iesu wedi ein dysgu ni i drin pobl â chariad, hyd yn oed y rhai sy’n anghytuno â ni neu sy’n ein herlid. (Darllen Mathew 5:43-48.) Fel Cristnogion, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i osgoi unrhyw beth sydd ddim yn cyd-fynd â’r patrwm gwnaeth Iesu ei osod inni.
Mae’n cymryd dewrder i aros yn niwtral ynglŷn â materion cymdeithasol a gwleidyddol heddiw (Gweler paragraff 10)
11. Pam gall efelychu Iesu fod yn anodd inni ar adegau?
11 Er ein bod ni’n gwybod bydd Teyrnas Dduw yn datrys anghyfiawnder unwaith ac am byth, gall efelychu Iesu fod yn anodd pan ydyn ni’n cael ein trin yn annheg. Ystyria beth ddigwyddodd i Janiya a gafodd ei thrin yn annheg oherwydd lliw ei chroen. Mae hi’n dweud: “Roeddwn i’n gandryll. Roeddwn i hefyd wedi fy mrifo ac eisiau i’r rhai a oedd wedi achosi’r niwed gael eu cosbi. Yna meddyliais am gefnogi grŵp a oedd yn protestio yn erbyn hiliaeth. Roeddwn i’n teimlo bod hynny’n ffordd saff o fynegi fy nicter.” Ond mewn amser, sylweddolodd Janiya fod rhaid iddi hi wneud newidiadau. Mae hi’n dweud: “Roeddwn i’n caniatáu i eraill lywio fy meddwl a gwneud imi ymddiried ym modau dynol yn lle ymddiried yn Jehofa. Penderfynais dorri pob cysylltiad â’r grŵp hwnnw.” Mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gadael i unrhyw ddicter cyfiawn rydyn ni’n ei deimlo achosi inni dorri ein niwtraliaeth ynglŷn â materion cymdeithasol a gwleidyddol y byd hwn.—Ioan 15:19.
12. Pam mae’n beth doeth inni fod yn ofalus wrth ddewis beth i’w gymryd i mewn?
12 Beth all ein helpu ni i reoli ein dicter dros anghyfiawnder? Mae dewis yn ofalus beth i’w ddarllen, i wrando arno, ac i’w wylio wedi bod yn fuddiol i lawer. Mae rhai mathau o gyfryngau cymdeithasol yn llawn postiadau sy’n cael eu creu i synnu pobl ac i gwyno am y llywodraeth. Mae asiantaethau newyddion yn cyfleu gwybodaeth mewn ffordd ragfarnllyd. Hyd yn oed os ydyn ni’n clywed adroddiad sy’n ffeithiol gywir, a fydd canolbwyntio arno yn wir yn ein helpu ni? Os ydyn ni’n treulio llawer o amser yn cymryd gwybodaeth o’r fath i mewn, gallwn ni ddigalonni neu ddechrau teimlo’n rhwystredig. (Diar. 24:10, BCND) Yn waeth byth, gallwn ni golli golwg ar yr hyn a fydd yn datrys pob anghyfiawnder—Teyrnas Dduw.
13. Sut bydd darllen y Beibl yn aml yn ein helpu ni i gadw’r agwedd gywir tuag at anghyfiawnder?
13 Gall cael rwtîn da o ddarllen y Beibl a myfyrio arno ein helpu ni i ddelio ag anghyfiawnder. Roedd chwaer o’r enw Alia yn drist iawn oherwydd y ffordd roedd pobl yn ei chymuned yn cael eu cam-drin. Roedd yn ymddangos fel nad oedd y rhai a oedd yn gyfrifol yn cael eu cosbi. Mae hi’n dweud: “Roedd rhaid imi stopio a gofyn i fi fy hun, ‘A ydw i’n wir yn credu bydd Jehofa’n datrys yr holl broblemau hyn?’ Yn ystod yr adeg honno, darllenais Job 34:22-29. Roedd yr adnodau hynny yn fy atgoffa i na all unrhyw un cuddio oddi wrth Jehofa. Ef yn unig sy’n cyflawni cyfiawnder perffaith ac sy’n gallu cywiro’r problemau’n llwyr.” Tra ein bod ni’n aros i Deyrnas Dduw ddod â gwir gyfiawnder, beth gallwn ni ei wneud nawr?
BETH GALLWN NI EI WNEUD AM ANGHYFIAWNDER NAWR
14. Beth gallwn ni ei wneud i osgoi ychwanegu at anghyfiawnderau’r byd hwn? (Colosiaid 3:10, 11)
14 Dydyn ni ddim yn gallu rheoli gweithredoedd anghyfiawn pobl eraill, ond rydyn ni’n gallu rheoli ein gweithredoedd ein hunain. Fel dysgon ni yn gynharach, rydyn ni’n efelychu Iesu drwy ddangos cariad. Gall cariad o’r fath ein symud ni i drin eraill â pharch—hyd yn oed y rhai sy’n ein herlid. (Math. 7:12; Rhuf. 12:17) Mae Jehofa’n hapus pan ydyn ni’n trin eraill yn garedig ac yn deg.—Darllen Colosiaid 3:10, 11.
15. Pa effaith mae rhannu gwirioneddau’r Beibl yn ei chael ar anghyfiawnder heddiw?
15 Y ffordd bwysicaf gallwn ni ymateb i anghyfiawnder ydy rhannu gwirioneddau’r Beibl ag eraill. Pam gallwn ni ddweud hynny? Gall adnabod Jehofa newid unigolyn a oedd yn dreisgar i fod yn garedig ac yn heddychlon. (Esei. 11:6, 7, 9) Cyn iddo ddysgu’r gwir, roedd Jemal yn teimlo bod y llywodraeth yn ei wlad yn rhy lym, felly fe ymunodd â grŵp o rebeliaid i frwydro yn ei herbyn. Fe ddywedodd: “Elli di ddim gorfodi pobl i newid. Ond, wrth ddysgu gwirioneddau’r Beibl, fe allan nhw newid. Dyna sut newidiais i.” Gwnaeth yr hyn a ddysgodd Jemal ei ysgogi i stopio brwydro. Felly pan ydyn ni’n dysgu gwirioneddau’r Beibl i eraill, gallwn ni eu helpu nhw i stopio achosi niwed i eraill.
16. Beth sy’n dy gymell di i rannu neges y Deyrnas ag eraill?
16 Fel Iesu, rydyn ni’n awyddus i ddweud wrth eraill mai dim ond Teyrnas Dduw sy’n gallu datrys anghyfiawnder am byth. Gall y gobaith hwnnw galonogi’r rhai sydd wedi cael eu cam-drin. (Jer. 29:11) Dywedodd Stacy, a ddyfynnwyd ynghynt: “Mae dysgu’r gwir wedi fy helpu i i ymdopi â’r anghyfiawnderau rydw i wedi eu gweld a’u profi. Mae Jehofa’n defnyddio neges y Beibl i roi cysur inni.” Mae’n rhaid iti baratoi’n dda er mwyn rhannu ag eraill neges gysurus y Beibl am sut bydd anghyfiawnder yn cael ei ddatrys. Os wyt ti’n hollol sicr bod yr esboniadau Ysgrythurol yn yr erthygl hon yn wir, byddi di’n gallu trafod y pwnc hwn ag eraill os bydd yn codi yn yr ysgol neu yn y gweithle.b
17. Sut mae Jehofa’n ein helpu ni i ddelio ag anghyfiawnder heddiw?
17 Oherwydd mai Satan ydy “rheolwr y byd hwn,” rydyn ni’n gwybod y byddwn ni’n wynebu anghyfiawnder. Ond tra ein bod ni’n aros iddo gael “ei fwrw allan,” dydyn ni ddim heb unrhyw help neu obaith. (Ioan 12:31) Drwy’r Ysgrythurau, mae Jehofa’n datgelu’r rheswm pam mae ’na gymaint o anghyfiawnder, a hefyd sut mae’n teimlo am yr holl ddioddefaint rydyn ni’n ei brofi o ganlyniad. (Salm 34:17-19) Drwy ei Fab, mae Jehofa’n ein dysgu ni sut dylen ni ymateb i anghyfiawnder heddiw a sut bydd ei Deyrnas yn cael gwared ar anghyfiawnder unwaith ac am byth. (2 Pedr 3:13) Gad inni barhau i bregethu’r newyddion da am y Deyrnas yn selog, ac i edrych ymlaen yn awyddus at yr amser pan fydd y ddaear wedi ei llenwi a chyfiawnder a thegwch.—Esei. 9:7.
CÂN 158 Ni Fydd yn Hwyr!
a Newidiwyd rhai enwau.
b Gweler hefyd atodiad A pwyntiau 24-27 y llyfryn Caru Pobl—Gwneud Disgyblion.