LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Medi t. 31
  • Cwestiynau Ein Darllenwyr

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cwestiynau Ein Darllenwyr
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Erthyglau Tebyg
  • Mae Jehofa yn Rhoi Egni i’r Blinedig
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • “Ni Fydd yr Un Ohonoch Chi yn Colli Ei Fywyd”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Medi t. 31

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Dywedodd ysgrifennwr Diarhebion 30:​18, 19 fod “llwybr cariad dyn a merch” ‘y tu hwnt iddo.’ Ym mha ystyr?

Mae llawer, gan gynnwys ysgolheigion, wedi cwestiynu ystyr y geiriau hyn. Mae’r adnodau cyfan yn dweud: “Mae tri peth y tu hwnt i mi; pedwar fydda i byth yn eu darganfod: Ffordd yr eryr drwy’r awyr; ffordd y neidr dros graig; llwybr llong yn hwylio’r moroedd; a llwybr cariad dyn a merch.”—Diar. 30:​18, 19.

Yn y gorffennol, roedden ni’n deall bod yr ymadrodd “llwybr cariad dyn a merch” yn golygu rhywbeth negyddol. Pam? Mae’r cyd-destun yn sôn am bethau negyddol “sydd byth yn dweud, ‘Dyna ddigon!’” (Diar. 30:​15, 16) Hefyd mae adnod 20 yn sôn am ‘wraig anffyddlon’ sy’n honni nad ydy hi wedi gwneud unrhyw beth o’i le. Felly yn union fel eryr drwy’r awyr, neidr dros graig, neu long yn hwylio’r moroedd, roedden ni’n rhesymu y gallai dyn gwneud rhywbeth heb adael unrhyw ôl o’i weithredoedd. Oherwydd hyn, roedden ni’n deall bod yr ymadrodd “llwybr cariad dyn a merch” yn cyfeirio at rywbeth drwg—dyn ifanc cyfrwys sy’n hudo dynes ifanc heb iddi sylwi beth sy’n digwydd.

Ond, mae ’na resymau da dros gredu bod yr adnodau hyn yn sôn am rywbeth da. Roedd yr ysgrifennwr yn disgrifio pethau a oedd yn ei ryfeddu a’i synnu.

Mae’r Hebraeg gwreiddiol yn cefnogi’r syniad bod yr adnod hon yn golygu rhywbeth da. Yn ôl y Theological Lexicon of the Old Testament, mae’r gair Hebraeg sy’n cael ei gyfieithu “y tu hwnt i mi” yn Diarhebion 30:18 “yn awgrymu digwyddiad sy’n ymddangos yn rhyfeddol, yn amhosib, neu hyd yn oed yn syfrdanol.”

Gwnaeth yr Athro Crawford H. Toy o Brifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau hefyd ddod i’r casgliad nad ydy’r adnod hon yn disgrifio rhywbeth negyddol. Fe ddywedodd: “Y bwriad fan hyn yw i bwysleisio rhyfeddodau’r pethau sy’n cael eu henwi.”

Felly mae’n rhesymol inni ddweud bod y geiriau yn Diarhebion 30:​18, 19 yn disgrifio pethau sy’n wir yn rhyfeddol, hyd yn oed y tu hwnt i’n deall. Fel yr ysgrifennwr, rydyn ni’n synnu ar sut gall eryr hedfan, sut gall neidr lithro dros graig, sut gall llong drom hwylio dros y moroedd, a sut gall dyn a dynes ifanc gwympo mewn cariad a byw bywyd hapus gyda’i gilydd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu