LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Hydref tt. 2-5
  • 1925—Can Mlynedd Yn Ôl

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 1925—Can Mlynedd Yn Ôl
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • GOBAITH YN CAEL EI OHIRIO
  • DEFNYDDIO’R RADIO YN FWY
  • DYSGU GWIRIONEDD PWYSIG
  • TYSTION AR RAN JEHOFA
  • GALW’N ÔL AR RAI A OEDD YN DANGOS DIDDORDEB
  • EDRYCH I’R DYFODOL
  • 1924​—Can Mlynedd Yn Ôl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • 1922—Can Mlynedd yn Ôl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Hydref tt. 2-5
Grŵp mawr o frodyr a chwiorydd yn sefyll ar gyfer ffoto yn yr awyr agored yn y gynhadledd yn Indianapolis, Indiana, 1925.

Cynhadledd yn Indianapolis, Indiana, 1925

1925​—Can Mlynedd Yn Ôl

“MAE Cristnogion wedi bod yn edrych ymlaen at y flwyddyn hon yn fawr iawn,” meddai’r Tŵr Gwylio, Ionawr 1, 1925. Ond, aeth yr erthygl ymlaen i ddweud: “Ni ddylai Cristnogion boeni gymaint am beth allai ddigwydd yn y flwyddyn i ddod nes eu bod nhw’n methu gwneud yr hyn y mae’r Arglwydd wedi gofyn ganddyn nhw.” Beth roedd Myfyrwyr y Beibl wedi bod yn disgwyl amdano ym 1925? A sut gwnaethon nhw gadw’n brysur yng ngwaith yr Arglwydd er gwaethaf siom?

GOBAITH YN CAEL EI OHIRIO

Roedd llawer o Fyfyrwyr y Beibl yn disgwyl am i’r ddaear gael ei throi’n baradwys ym 1925. Pam? Dywedodd y Brawd Albert Schroeder, a fyddai’n gwasanaethu ar y Corff Llywodraethol yn nes ymlaen: “Roedden ni’n credu y byddai gweddill yr eneiniog yn mynd i’r nefoedd bryd hynny i fod yn rhan o’r Deyrnas ac y byddai dynion ffyddlon, fel Abraham, Dafydd, ac eraill, yn cael eu hatgyfodi fel tywysogion i gymryd y blaen ar y ddaear.” Wrth i’r flwyddyn fynd heibio a’u gobaith heb ei wireddu, dechreuodd rhai ddigalonni.—Diar. 13:12.

Er gwaetha’r siom, arhosodd y rhan fwyaf o Fyfyrwyr y Beibl yn brysur yn y gwaith pregethu ac fe ddaethon nhw’n fwy ymwybodol o’u cyfrifoldeb i fod yn Dystion i Jehofa. Ystyria, er enghraifft, y gwaith a wnaethon nhw i ledaenu’r gwir ym mhobman.

DEFNYDDIO’R RADIO YN FWY

Yn sgil llwyddiant gorsaf radio WBBR y flwyddyn flaenorol, adeiladodd Myfyrwyr y Beibl orsaf radio newydd yn agos i Chicago, Illinois. Enw’r orsaf newydd oedd WORD. “Ar nosweithiau oer gaeafol,” meddai Ralph Leffler, peiriannydd radio a helpodd i adeiladu’r orsaf, “roedd pobl o lawer o lefydd, pell i ffwrdd, yn gwrando ar yr orsaf hon.” Er enghraifft, gwnaeth teulu yn Pilot Station, Alaska, mwy na 3,000 o filltiroedd (5,000 km) i ffwrdd wrando ar un o’r darllediadau cyntaf. Ar ôl gwrando, ysgrifennon nhw lythyr at y rhai a oedd yn gweithio yn yr orsaf i ddiolch iddyn nhw am ddarparu rhaglen ysbrydol mor galonogol.

Ar y chwith: Mastiau radio WORD yn Batavia, Illinois

Ar y dde: Ralph Leffler yn gweithio yn yr orsaf radio

Yn sôn am ba mor bellgyrhaeddol oedd yr orsaf, dywedodd y Tŵr Gwylio, Rhagfyr 1, 1925: “Yr orsaf hon yw un o’r rhai mwyaf pwerus yn yr Unol Daleithiau, yn defnyddio trosglwyddydd 5,000 wat. Mae’r signal wedi bod yn dda ar arfordiroedd dwyreiniol a gorllewinol yr Unol Daleithiau, yng Nghiwba ac i rannau mwyaf gogleddol Alaska. Mae clywed yr orsaf hon wedi ennyn diddordeb llawer o bobl nad oedd wedi clywed y gwir o’r blaen.”

George Naish

Yn ystod yr adeg honno, roedd Myfyrwyr y Beibl hefyd yn ymdrechu i ddefnyddio’r radio i bregethu’r newyddion da yng Nghanada. Ym 1924, cafodd yr orsaf radio CHUC ei hadeiladu yn Saskatoon, Saskatchewan. Hon oedd un o’r gorsafoedd crefyddol cyntaf ar y radio yng Nghanada. Erbyn 1925, roedd rhaid symud yr orsaf fach. Felly, symudodd y gyfundrefn y stiwdios darlledu i Regent Building, hen theatr yn Saskatoon roedden nhw wedi ei phrynu a’i hatgyweirio.

Diolch i’r orsaf hon, roedd llawer o bobl a oedd yn byw ar led drwy Saskatchewan yn clywed y newyddion da am y tro cyntaf. Er enghraifft, mewn tref anghysbell, ysgrifennodd Mrs Graham i ofyn am lenyddiaeth Feiblaidd ar ôl gwrando ar ddarllediad. Meddai’r Brawd George Naish, “Roedd ei chri ‘Dysgwch ni!’ yn swnio fel mater o frys, felly anfonon ni ati’r set gyfan o Studies in the Scriptures.” Yn fuan, roedd Mrs Graham yn pregethu’r newyddion da ymhellach byth i ffwrdd.

DYSGU GWIRIONEDD PWYSIG

Roedd y Tŵr Gwylio, Mawrth 1, 1925 yn cynnwys erthygl arwyddocaol gyda’r teitl “Birth of the Nation.” Pam roedd yr erthygl hon mor bwysig? Am beth amser, roedd Myfyrwyr y Beibl yn gwybod bod gan Satan gyfundrefn a oedd yn cynnwys ysbrydion drwg yn y nef a systemau crefyddol, masnachol, a gwleidyddol ar y ddaear. Ond, gan ddefnyddio’r erthygl honno, gwnaeth y “gwas ffyddlon a chall” helpu’r frawdoliaeth i weld bod gan Jehofa gyfundrefn hefyd, un sydd ar wahân i, ac sy’n gwrthwynebu, gyfundrefn Satan. (Math. 24:45) Yn ogystal, esboniodd y gwas fod Teyrnas Dduw wedi cael ei geni ym 1914, ac o ganlyniad i’r rhyfel yn y nef y flwyddyn honno, fe gafodd Satan a’i gythreuliaid eu hyrddio o’r nefoedd a’u caethiwo i’r ddaear.—Dat. 12:​7-9.

Roedd rhai yn ei chael hi’n anodd derbyn y ddealltwriaeth newydd hon. Gwnaeth yr erthygl gydnabod hyn drwy ddweud: “Os oes darllenwyr y Tŵr Gwylio na all gytuno â’r hyn a ddywedir yma, rydyn ni’n eu hannog i fod yn amyneddgar ac i ymddiried yn Jehofa wrth iddyn nhw ei wasanaethu’n ffyddlon.”

Mynegodd Tom Eyre, colporteur (a elwir arloeswr erbyn hyn) o Brydain, sut roedd y rhan fwyaf o Fyfyrwyr y Beibl yn teimlo am yr erthygl honno: “Roedd y brodyr wrth eu boddau ag esboniad Datguddiad 12. Unwaith inni sylwi bod y Deyrnas wedi ei sefydlu yn y nefoedd, roedden ni’n awyddus iawn i rannu’r newyddion da hyn ag eraill. Fe wnaeth ein hysgogi ni i bregethu’n fwy a’n helpu ni i weld y pethau mawr y byddai Jehofa’n eu gwneud yn y dyfodol.”

TYSTION AR RAN JEHOFA

Heddiw, mae geiriau Eseia 43:10 yn gyfarwydd iawn i Dystion Jehofa: “‘Chi ydy fy nhystion i,’—meddai’r ARGLWYDD, ‘a’r gwas dw i wedi ei ddewis.’” Fodd bynnag, doedd yr adnod hon ddim wedi ei thrafod yn aml yn ein cyhoeddiadau cyn 1925. Ond roedd newid ar y gorwel. Yn ystod 1925, gwnaeth 11 o rifynnau’r Tŵr Gwylio drafod Eseia 43:10 ac 12!

Ar ddiwedd Awst 1925, daeth Myfyrwyr y Beibl at ei gilydd ar gyfer cynhadledd yn Indianapolis, Indiana. Ar y rhaglen, roedd ’na neges o groeso gan Joseph F. Rutherford: “Rydyn ni wedi dod i’r gynhadledd hon i gael . . . nerth gan yr Arglwydd er mwyn inni fynd yn ôl i’r maes wedi ein hegnïo i fod yn dystion iddo.” Drwy gydol wyth diwrnod y gynhadledd, cafodd pawb a oedd yn bresennol eu hannog i dystiolaethu am Jehofa ar bob cyfle.

Ar ddydd Sadwrn, Awst 29, fe wnaeth y Brawd Rutherford drafod y thema “A Call to Action.” Yn ei anerchiad, fe bwysleisiodd y pwysigrwydd o dystiolaethu: “Dywed Jehofa wrth ei bobl . . . : ‘Yr ydych chwi’n dystion i mi . . . mai myfi yw Duw.’ Yna y mae’n gorchymyn gyda’r geiriau cryf a chlir hyn: ‘Dyrchafwch arwydd i’r bobloedd.’ Nid oes neb ond pobl Jehofa ar y ddaear a all godi arwydd i’r bobloedd ar ran yr Arglwydd, ac sydd felly yn dystion iddo.”—Esei. 43:12; 62:​10, BCND.

Y daflen a oedd yn cynnwys y neges “Message of Hope.”

Y daflen Message of Hope

Ar ôl anerchiad y Brawd Rutherford, fe wnaeth pawb a oedd yn bresennol gytuno â phenderfyniad yn dwyn y teitl “Message of Hope.” Roedd y ddogfen yn dangos mai Teyrnas Dduw yw’r gwir obaith am “heddwch, llwyddiant, iechyd, bywyd, rhyddid, a hapusrwydd tragwyddol.” Cafodd y neges ei chyfieithu i sawl iaith a’i hargraffu fel taflen. Cafodd tua 40 miliwn o gopïau eu dosbarthu.

Ni wnaeth Myfyrwyr y Beibl fabwysiadu’r enw Tystion Jehofa yn swyddogol tan ychydig o flynyddoedd wedyn. Ond, roedden nhw’n dod yn fwy ac yn fwy ymwybodol o’u cyfrifoldeb i fod yn dystion iddo.

GALW’N ÔL AR RAI A OEDD YN DANGOS DIDDORDEB

Wrth i nifer Myfyrwyr y Beibl gynyddu drwy’r byd, cawson nhw eu hannog i alw’n ôl ar y rhai a oedd wedi dangos diddordeb yn y newyddion da. Yn dilyn ymgyrch i ddosbarthu’r daflen Message of Hope, dywedodd y Bulletina: “Trefnwch i fynd yn ôl i gartrefi lle cafodd Message of Hope ei adael.”

Gwnaeth rhifyn Ionawr 1925 o’r Bulletin gynnwys adroddiad gan Fyfyriwr y Beibl yn Plano, Texas: “Mae’n ein synnu ni fod tiriogaethau rydyn ni wedi pregethu ynddyn nhw sawl gwaith yn aml yn well na meysydd newydd. Rydyn ni wedi pregethu mewn tref fach yn ein tiriogaeth bum gwaith yn y deng mlynedd diwethaf. . . . Yn ddiweddar, gwnaeth y Chwaer Hendrix a fy mam bregethu yno a gosod mwy o lyfrau nag [erioed] o’r blaen.”

Hefyd, ysgrifennodd colporteur yn Panama: “Mae llawer o’r bobl a oedd wedi fy ngyrru i o’u drws wedi newid eu hagwedd wrth imi fynd yn ôl ail neu drydydd gwaith. Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi treulio’r rhan fwyaf o fy amser yn pregethu i bobl roeddwn i wedi galw arnyn nhw yn y gorffennol; ac rydw i wedi cael profiadau hyfryd.”

EDRYCH I’R DYFODOL

Yn ei lythyr blynyddol at bob colporteur, gwnaeth y Brawd Rutherford grynhoi beth oedd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ac amlinellu’r gwaith a oedd o’u blaenau. Fe ddywedodd: “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydych chi wedi cael y fraint o gysuro llawer a oedd yn drist. Mae’r gwaith hwn wedi eich gwneud chi’n llawen . . . Bydd y flwyddyn i ddod yn rhoi cyfle ichi i fod yn dystion i Dduw a’i Deyrnas ac i ddangos pwy yn wir yw ei addolwyr. . . . Gadewch inni godi ein lleisiau a chlodfori ein Duw a’n Brenin.”

Wrth i ddiwedd 1925 agosáu, roedd y brodyr yn cynllunio i wneud y Bethel yn Brooklyn yn fwy. Ym 1926, byddai’r brodyr yn dechrau’r prosiect adeiladu mwyaf roedd y gyfundrefn erioed wedi ei wneud.

Safle adeiladu lle mae brodyr yn gweithio ar adeilad newydd.

Gwaith adeiladu ar Adams Street, Brooklyn, Efrog Newydd, 1926

a Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd erbyn hyn.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu