LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Hydref tt. 30-31
  • Dau Aelod Newydd o’r Corff Llywodraethol

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dau Aelod Newydd o’r Corff Llywodraethol
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Erthyglau Tebyg
  • Dau Aelod Newydd o’r Corff Llywodraethol
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Beth Yw Corff Llywodraethol Tystion Jehofa?
    Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Aelod Newydd o’r Corff Llywodraethol
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Hydref tt. 30-31

Dau Aelod Newydd o’r Corff Llywodraethol

AR HYDREF 5, 2024, cafodd cyhoeddiad arbennig ei wneud yn ystod y cyfarfod blynyddol: Roedd y Brodyr Jody Jedele a Jacob Rumph wedi cael eu penodi fel aelodau o Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa. Mae’r ddau frawd wedi gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon am lawer o flynyddoedd.

Jody Jedele a’i wraig, Damaris

Cafodd y Brawd Jedele ei eni ym Missouri, UDA, a’i fagu yn y gwir. Roedd ei deulu yn byw mewn ardal lle nad oedd ’na lawer o Dystion. Felly, fe wnaeth gwrdd â llawer o frodyr o gefndiroedd gwahanol a oedd yn ymweld i helpu yn y gwaith pregethu. Cafodd eu cariad a’u hundod effaith fawr arno. Fe gafodd ei fedyddio yn ei arddegau cynnar ar Hydref 15, 1983. Roedd yn mwynhau’r weinidogaeth, ac ar ôl ysgol uwchradd, fe ddechreuodd arloesi’n llawn amser ym mis Medi 1989.

Pan oedd y Brawd Jedele yn ifanc, byddai ei rieni yn mynd ag ef a’i chwaer i ymweld â’r Bethel. Roedd yr ymweliadau hyn yn ysgogi’r plant i osod y nod o weithio yn y Bethel, a dyna beth wnaeth y ddau ohonyn nhw yn y pen draw. Gwnaeth y Brawd Jedele gyrraedd y Bethel yn Wallkill ym mis Medi 1990. Fe ddechreuodd weithio yn yr Adran Glanhau, ac yn nes ymlaen yn yr adran a oedd yn edrych ar ôl gofal meddygol.

Tua’r adeg honno, roedd cynulleidfaoedd Sbaeneg yn yr ardal yn cynyddu ac roedd angen arnyn nhw am frodyr. Felly gwnaeth y Brawd Jedele ymuno ag un ohonyn nhw a dechrau dysgu Sbaeneg. Yn fuan wedyn, fe wnaeth gwrdd â Damaris, arloeswraig yn yr un gylchdaith. Ymhen amser, fe wnaethon nhw briodi, ac ymunodd hi ag ef yn y Bethel.

Yn 2005 fe adawon nhw’r Bethel er mwyn gofalu am eu rhieni ffyddlon. Yn ystod yr adeg honno, roedden nhw’n arloesi’n llawn amser. Roedd y Brawd Jedele yn athro ar rai Ysgolion Arloesi. Hefyd, fe wasanaethodd ar y Pwyllgor Cyswllt Ysbytai lleol ac ar y Pwyllgor Adeiladu Rhanbarthol.

Yn 2013, cafodd y Brawd a’r Chwaer Jedele eu gwahodd yn ôl i’r Bethel ar gyfer y prosiect adeiladu yn Warwick. Ers hynny, maen nhw hefyd wedi gwasanaethu yn Patterson a Wallkill. Mae’r Brawd Jedele wedi gweithio yn yr Adran Dylunio ac Adeiladu’r Gangen a hefyd yn Gwasanaethau Gwybodaeth i Ysbytai. Ym mis Mawrth 2023, fe gafodd ei benodi fel helpwr i’r Pwyllgor Gwasanaeth. Wrth edrych yn ôl ar ei aseiniadau, mae’n dweud: “Mae’n ddigon hawdd cael ein llethu gan aseiniadau newydd. Ond, dyna pryd mae’n rhaid inni gofio i ddibynnu ar Jehofa oherwydd Ef ydy’r un sy’n rhoi’r gallu inni wneud beth bynnag mae’n ei ofyn gynnon ni.”

Jacob Rumph a’i wraig, Inga

Cafodd y Brawd Rumph ei eni yng Nghaliffornia, UDA. Yn ystod ei blentyndod, roedd ei fam yn anweithredol ond roedd hi’n ymdrechu i ddysgu gwirioneddau’r Beibl iddo. Hefyd, bob blwyddyn fe fyddai’n ymweld â’i fam-gu, a oedd yn Dyst ffyddlon. Gwnaeth hi helpu i ennyn ei ddiddordeb yn y gwir, a phan oedd yn 13 mlwydd oed, fe ofynnodd am astudiaeth Feiblaidd. Ar Fedi 27, 1992, tra oedd yn ei arddegau, fe gafodd ei fedyddio. Daeth ei fam yn weithredol unwaith eto a dechreuodd ei deulu agos i gyd wneud cynnydd a chael eu bedyddio.

Pan oedd yn ifanc, gwelodd y Brawd Rumph hapusrwydd yr arloeswyr. Felly ar ôl gadael ysgol uwchradd, fe ddechreuodd arloesi ym mis Medi 1995. Yn 2000, fe symudodd i Ecuador i wasanaethu lle roedd yr angen yn fwy. Yno fe wnaeth gyfarfod Inga, arloeswraig o Ganada, ac ymhen amser fe briodon nhw. Ar ôl iddyn nhw briodi, gwasanaethon nhw mewn tref yn Ecuador lle roedd ’na grŵp bach o gyhoeddwyr. Nawr mae ’na gynulleidfa yno sy’n gwneud yn dda.

Mewn amser, cafodd y Brawd a’r Chwaer Rumph eu penodi i fod yn arloeswyr arbennig, ac yn nes ymlaen i’r gwaith cylch. Yn 2011 cawson nhw eu gwahodd i ddosbarth 132 o Gilead. Ar ôl graddio, gwasanaethon nhw mewn amryw o lefydd ar draws y byd. Gwnaethon nhw fwynhau gwahanol ffyrdd o wasanaeth fel gwaith Bethel, gwaith cenhadol, a gwaith cylch. Hefyd, cafodd y Brawd Rumph y fraint o fod yn hyfforddwr yn yr Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas.

Oherwydd y pandemig COVID-19, aeth y Brawd a’r Chwaer Rumph yn ôl i’r Unol Daleithiau. Cawson nhw eu gwahodd i’r Bethel yn Wallkill, lle cafodd y Brawd Rumph ei hyfforddi yn yr Adran Gwasanaeth. Yn y pen draw, cawson nhw eu haseinio yn ôl i gangen Ecuador, lle gwasanaethodd y Brawd Rumph ar Bwyllgor y Gangen. Yn 2023, cawson nhw eu trosglwyddo i Warwick. Ym mis Ionawr 2024, cafodd y Brawd Rumph ei benodi i wasanaethu fel helpwr i’r Pwyllgor Gwasanaeth. Wrth fyfyrio ar ei wasanaeth, mae’n dweud: “Y bobl rwyt ti’n eu gwasanaethu â nhw sy’n gwneud aseiniad yn arbennig, nid y lleoliad.”

Rydyn ni’n wir yn gwerthfawrogi gwaith caled y brodyr hyn, ac rydyn ni’n parhau i “feddwl yn fawr o ddynion o’r fath.”—Phil. 2:29.

Erbyn hyn, mae ’na 11 o frodyr eneiniog ar y Corff Llywodraethol: Kenneth Cook, Jr.; Gage Fleegle; Samuel Herd; Geoffrey Jackson; Jody Jedele; Stephen Lett; Gerrit Lösch; Jacob Rumph; Mark Sanderson; David Splane; a Jeffrey Winder.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu