Efelychu Trugaredd Jehofa
“Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! Mae’n Dduw caredig a thrugarog.”—EXODUS 34:6.
1. Beth gwnaeth Jehofa ei ddatgan amdano’i hyn i Moses? A pham mae hyn yn bwysig?
AR UN ADEG, fe wnaeth Duw ei ddatgelu ei hun i Moses drwy ddatgan Ei enw a rhestru rhai o’i rinweddau. Yn hytrach na phwysleisio ei bŵer a’i ddoethineb, siaradodd Jehofa yn gyntaf am ei drugaredd. (Darllen Exodus 34:5-7.) Roedd Moses angen gwybod a fyddai Jehofa yn ei gefnogi. Felly, pwysleisiodd Jehofa rinweddau penodol sy’n dangos ei fod wir eisiau gofalu am ei weision. (Exodus 33:13) Sut mae’n gwneud iti deimlo o wybod bod Jehofa yn ein caru gymaint? Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio ar drugaredd, sef cydymdeimlo ag eraill sy’n ddioddef ynghyd â’r awydd i’w helpu.
2, 3. (a) Beth sy’n dangos ei bod hi’n naturiol i fodau dynol deimlo trugaredd? (b) Pam dylet ti ddangos diddordeb yn yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud am drugaredd?
2 Mae Jehofa yn drugarog, ac mae bodau dynol wedi eu creu ar ei ddelw ef. Felly, mae’n naturiol i fodau dynol ofalu am eraill. Mae hyd yn oed y rhai sydd ddim yn adnabod Jehofa yn aml yn dangos trugaredd. (Genesis 1:27) Yn y Beibl, rydyn ni’n dod ar draws nifer o bobl a wnaeth ddangos trugaredd. Er enghraifft, pan oedd Solomon yn ceisio deall pa un o’r ddwy ddynes a oedd yn fam i fabi bach, dyma’n eu profi nhw drwy orchymyn i’r babi gael ei dorri’n ddau â chleddyf. Teimlodd y fam drugaredd tuag at ei babi, felly fe wnaeth hi erfyn ar y brenin i adael i’r ddynes arall gael y babi. (1 Brenhinoedd 3:23-27) Esiampl arall o drugaredd yw merch Pharo. Pan wnaeth hi ddod o hyd i’r babi bach Moses, sylweddolodd mai Hebread oedd y babi ac y dylai cael ei ladd. Ond, “roedd hi’n teimlo trueni drosto,” ac felly penderfynodd ei fagu fel ei mab ei hun.—Exodus 2:5, 6.
3 Pam dylen ni ddysgu mwy am drugaredd? Oherwydd bod Jehofa eisiau inni ei efelychu. (Effesiaid 5:1) Er ein bod ni wedi cael ein creu i fod yn drugarog, rydyn ni’n amherffaith ac yn dueddol o fod yn hunanol. Ar adegau, efallai ni fydd yn hawdd inni benderfynu i naill ai helpu eraill neu i ganolbwyntio arnon ni ein hunain. Beth all ein helpu ni i ddangos mwy o ddiddordeb mewn eraill? Yn gyntaf, gad inni ystyried sut mae Jehofa ac eraill wedi dangos trugaredd. Yn ail, gad inni weld sut y gallwn ni efelychu trugaredd Duw a pham mae’n beth da inni wneud hynny.
YR ESIAMPL ORAU
4. (a) Pam anfonodd Jehofa angylion i Sodom? (b) Beth gallwn ni ei ddysgu o brofiad Lot a’i deulu?
4 Mae’r Beibl yn cynnwys llawer o esiamplau o drugaredd Jehofa. Er enghraifft, meddylia am yr hyn a wnaeth ar gyfer Lot. Roedd Lot yn ddyn cyfiawn a oedd yn “torri ei galon” oherwydd y bobl anfoesol yn Sodom a Gomorra. Doedd gan y bobl hynny ddim parch tuag at Dduw, a phenderfynodd Jehofa eu bod nhw’n haeddu marw. (2 Pedr 2:7, 8) Anfonodd Jehofa angylion i ddweud wrth Lot fod Sodom a Gomorra am gael eu dinistrio a bod rhaid iddo ffoi. Dywed y Beibl: “Ond roedd yn llusgo’ i draed, felly dyma’r [angylion] yn gafael yn Lot a’i wraig a’i ferched, a mynd â nhw allan o’r ddinas. (Roedd yr ARGLWYDD mor drugarog ato.)” (Genesis 19:16) Yn union fel roedd Jehofa yn deall sefyllfa Lot, gallwn fod yn hyderus bod Jehofa yn deall ein hanawsterau ninnau.—Eseia 63:7-9; Iago 5:11; 2 Pedr 2:9.
Mae Jehofa yn deall yn iawn ein hanawsterau
5. Sut mae Gair Duw yn ein helpu i ddangos trugaredd?
5 Mae Jehofa hefyd wedi dysgu ei bobl i ddangos trugaredd. Meddylia am un o’r cyfreithiau a roddodd i Israel. Os oedd rhywun wedi benthyg arian, roedd gan y benthyciwr berffaith hawl i gymryd ei gôt yn ernes hyd nes iddo dalu’r arian yn ôl. (Darllen Exodus 22:26, 27.) Ond, roedd rhaid i’r benthyciwr roi’r gôt yn ôl cyn i’r haul fachlud er mwyn i’r person aros yn gynnes yn ystod y nos. Efallai ni fyddai person didrugaredd wedi dymuno rhoi’r gôt yn ôl, ond dysgodd Jehofa ei bobl i ddangos trugaredd. Beth mae’r egwyddor y tu ôl i’r gyfraith hon yn ein dysgu? I beidio byth ag anwybyddu anghenion ein cyd-Gristnogion. Pan fydd y gallu gennyn ni i helpu brawd neu chwaer sy’n dioddef, rhaid inni fod eisiau eu helpu.—Colosiaid 3:12; Iago 2:15, 16; darllen 1 Ioan 3:17.
6. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth drugaredd Jehofa tuag at yr Israeliad pechadurus?
6 Roedd Jehofa’n teimlo trugaredd tuag at yr Israeliaid hyd yn oed pan oedden nhw wedi pechu. Darllenwn: “Anfonodd yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, broffwydi i’w rhybuddio nhw dro ar ôl tro, am ei fod yn Dduw oedd yn tosturio wrth ei bobl a’i deml.” (2 Cronicl 36:15) Yn yr un modd, dylen ni deimlo trugaredd tuag at y rhai sydd ddim eto yn gwybod am Jehofa, ond a fydd efallai’n edifarhau ac yn dod yn ffrindiau iddo. Dydy Jehofa ddim eisiau i neb gael ei ddinistrio yn ystod dydd y farn sydd ar fin dod. (2 Pedr 3:9) Tra bod amser ar ôl, rydyn ni eisiau rhannu ei neges â phawb a helpu cymaint o bobl â phosib i deimlo trugaredd Duw.
7, 8. Pam roedd un teulu yn credu bod Jehofa wedi dangos trugaredd tuag atyn nhw?
7 Heddiw, mae ’na lawer o weision Jehofa sydd wedi profi ei drugaredd. Er enghraifft, yn ystod y 1990au yn Bosnia, roedd llawer o grwpiau ethnig yn ymladd ac yn lladd ei gilydd. Roedd un teulu, gan gynnwys bachgen 12 oed, y bydden ni’n ei alw’n Milan, yn byw yno ar y pryd. Roedd Milan, ei frodyr, ei rieni, a Thystion eraill yn teithio ar fws o Bosnia i Serbia. Teithio roedden nhw i gynhadledd lle roedd rhieni Milan am gael eu bedyddio. Wrth y ffin, sylweddolodd rhai milwyr fod y teulu yn perthyn i grŵp ethnig gwahanol gan ofyn iddyn nhw ddod oddi ar y bws. Yna, gadawodd y milwyr i weddill y Tystion barhau ar eu taith. Am ddeuddydd, nid oedd y milwyr am adael i’r teulu fynd yn rhydd. Yn y diwedd, ffoniodd y swyddog ei bennaeth a gofynnodd iddo beth y dylai ei wneud â’r teulu. Roedd y teulu yn sefyll wrth ymyl y swyddog felly clywon nhw ymateb y pennaeth, “Dos â nhw allan a’u saethu!”
8 Tra oedd y milwyr yn siarad, dyma ddau ddieithryn yn cerdded tuag at y teulu. Dywedon nhw’n ddistaw bach eu bod nhw’n Dystion a bod y brodyr ar y bws wedi dweud wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd. Dywedodd y ddau Dyst wrth Milan a’i frawd i fynd i’w car er mwyn iddyn nhw groesi’r ffin oherwydd nad oedd y milwyr yn edrych dros bapurau plant. Yna, dywedodd y brodyr wrth y rhieni i gerdded y tu ôl i bostyn y ffin a’u cyfarfod nhw ar yr ochr arall. Roedd Milan wedi ofni cymaint fel nad oedd yn siŵr a ddylai grio neu chwerthin. Dyma ei rieni yn gofyn: “Ydych chi’n meddwl byddan nhw’n gadael inni gerdded i ffwrdd?” Ond, wrth iddyn nhw gerdded i ffwrdd, roedd fel petai’r milwyr ddim wedi eu gweld. Gwnaeth Milan a’i frawd gyfarfod eu rhieni ar ochr arall y ffin, ac yna aethon nhw i’r gynhadledd. Roedden nhw’n hollol sicr fod Jehofa wedi ateb eu gweddïau! Rydyn ni’n gwybod o ddarllen y Beibl dydy Jehofa ddim bob amser yn amddiffyn ei weision yn yr un ffordd. (Actau 7:58-60) Ond yn yr achos hwn, dywed Milan: “I mi, roedd fel petai’r angylion wedi dallu’r milwyr a bod Jehofa wedi ein hachub.”—Salm 97:10.
Fel Iesu, oes gen ti’r awydd i helpu pobl ac i’w dysgu am Jehofa?
9. Sut roedd Iesu yn teimlo am y bobl oedd yn ei ddilyn? (Gweler y llun agoriadol.)
9 Roedd Iesu’n esiampl wych o drugaredd. Roedd yn teimlo piti dros bobl oherwydd roedd yn eu gweld “fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth.” Felly, beth wnaeth Iesu? “Treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw.” (Mathew 9:36; darllen Marc 6:34.) Ar y llaw arall, nid oedd y Phariseaid yn drugarog ac nid oedden nhw eisiau helpu pobl. (Mathew 12:9-14; 23:4; Ioan 7:49) Fel Iesu, oes gen ti’r awydd i helpu pobl ac i’w dysgu am Jehofa?
10, 11. A yw’n briodol i ddangos trugaredd bob amser? Esbonia.
10 Nid yw hyn yn golygu ei bod hi’n briodol i ddangos trugaredd bob amser. Er enghraifft, efallai fod y Brenin Saul wedi meddwl ei fod yn dangos trugaredd wrth iddo beidio â lladd Agag, a oedd yn frenin dros Amalec ac yn elyn i bobl Dduw. Ni laddodd Saul holl anifeiliaid yr Amaleciaid chwaith. Ond, roedd Jehofa wedi dweud wrth Saul am ladd yr holl Amaleciaid a’u hanifeiliaid. O ganlyniad i anufudd-dod Saul, gwnaeth Jehofa wrthod Saul fel brenin. (1 Samuel 15:3, 9, 15) Jehofa yw’r Barnwr cyfiawn. Mae’n gallu darllen calonnau pobl, ac mae’n gwybod pryd na ddylai trugaredd gael ei ddangos. (Galarnad 2:17; Eseciel 5:11) Yn fuan, bydd yn barnu’r rhai sy’n gwrthod bod yn ufudd iddo. (2 Thesaloniaid 1:6-10) Ni fydd Jehofa’n dangos trugaredd i’r rhai drwg yn ystod y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, trwy eu dinistrio, bydd Jehofa’n dangos trugaredd tuag at y rhai cyfiawn, y rhai bydd ef yn eu hachub.
11 Wrth gwrs, nid ein swydd ni yw barnu a ddylai pobl gael byw neu beidio. Yn hytrach, rhaid inni wneud popeth a allwn ni i helpu pobl. Ym mha ffyrdd ymarferol y gallwn ni ddangos trugaredd i eraill? Dyma rai awgrymiadau.
SUT I DDANGOS TRUGAREDD?
12. Sut gelli di ddangos trugaredd yn y ffordd rwyt ti’n trin pobl?
12 Bod yn barod i helpu. Mae Jehofa yn gofyn i Gristnogion ddangos trugaredd tuag at eu cymdogion a’u brodyr. (Ioan 13:34, 35; 1 Pedr 3:8) Un diffiniad o drugaredd yw “dioddef gyda’n gilydd.” Mae person sy’n dangos trugaredd yn trio eu gorau glas i helpu’r rhai sy’n dioddef. Felly, dylen ni edrych am gyfleon i helpu eraill, efallai trwy gynnig gwneud gwaith o amgylch y tŷ neu wneud cymwynas arall iddyn nhw.—Mathew 7:12.
Dangosa drugaredd drwy helpu eraill mewn ffordd ymarferol (Gweler paragraff 12)
13. Beth mae pobl Dduw yn ei wneud ar ôl trychinebau naturiol?
13 Gwaith gwirfoddol. Pan ydyn ni’n gweld pobl yn dioddef oherwydd trychineb, rydyn ni eisiau dangos trugaredd tuag atyn nhw. Mae pobl Jehofa yn adnabyddus am helpu eraill mewn amserau o’r fath. (1 Pedr 2:17) Er enghraifft, roedd chwaer o Japan yn byw yn yr ardal a gafodd ei dinistrio gan ddaeargryn a tswnami yn 2011. Dywedodd ei bod hi wedi cael ei “chalonogi a’i chysuro” pan welodd hi’r gwirfoddolwyr yn dod o wahanol rannau o Japan ac o wledydd eraill i adfer tai a Neuaddau’r Deyrnas. Ychwanegodd drwy ddweud: “Gwnaeth y profiad hwn fy helpu i sylweddoli bod Jehofa yn ein caru ni, bod y Tystion yn gofalu am ei gilydd, a bod llawer o frodyr a chwiorydd ar draws y byd yn gweddïo amdanon ni.”
14. Sut gelli di helpu’r rhai sâl a’r henoed?
14 Helpu’r rhai sâl a’r henoed. Pan ydyn ni’n gweld pobl yn dioddef oherwydd salwch neu henaint, rydyn ni’n teimlo trugaredd. Rydyn ni’n hiraethu am yr amser pan fydd y problemau hynny’n dod i ben, felly rydyn ni’n gweddïo i Deyrnas Dduw ddod. Yn y cyfamser, rydyn ni’n gwneud popeth a allwn ni i helpu’r rhai sâl a’r henoed. Mae un awdur yn sôn am yr adeg pan wnaeth ei fam, a oedd yn dioddef o’r clefyd Alzheimer, faeddu ei dillad. Tra oedd hi’n trio glanhau ei dillad, canodd cloch y drws. Pwy oedd yno ond dau Dyst a oedd yn galw arni yn rheolaidd. Gofynnodd y chwiorydd a oedden nhw’n gallu ei helpu? Dywedodd y ddynes “Mae’n ddigon i godi cywilydd arna’ i ond cewch.” Helpodd y chwiorydd iddi lanhau. Yna, gwnaethon nhw baned o de a sgwrsio â hi. Roedd y mab yn ddiolchgar iawn a dywedodd fod y Tystion yn “ymarfer yr hyn maen nhw’n ei bregethu.” Ydy’r trugaredd rwyt ti yn ei deimlo tuag at y rhai sâl a’r henoed yn dy symud di i wneud popeth a elli di i’w helpu?—Philipiaid 2:3, 4.
15. Sut mae ein gwaith pregethu yn helpu eraill?
15 Helpu pobl i ddod i adnabod Jehofa. Y ffordd orau o helpu pobl ydy eu dysgu nhw am Dduw a’i Deyrnas. Ffordd arall ydy eu helpu i weld bod ufuddhau i safonau Jehofa yn fuddiol. (Eseia 48:17, 18) Mae’r weinidogaeth yn ffordd hyfryd o anrhydeddu Jehofa ac o ddangos trugaredd tuag at eraill. A elli di wneud mwy yn y weinidogaeth?—1 Timotheus 2:3, 4.
MAE TRUGAREDD YN DDA ITI HEFYD!
16. Sut rydyn ni’n elwa o ddangos trugaredd?
16 Mae arbenigwyr iechyd meddwl yn dweud bod dangos trugaredd yn gallu gwella ein hiechyd a’n perthynas ag eraill. Pan fyddi di’n helpu rhai sy’n dioddef, byddi di’n hapusach, yn fwy gobeithiol, yn llai unig, ac yn llai negyddol. Mae dangos trugaredd yn dda iti. (Effesiaid 4:31, 32) Pan fydd cariad yn ein hysgogi ni i helpu eraill, bydd gennyn ni gydwybod lân oherwydd rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gwneud beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud. Bydd trugaredd yn ein helpu ni i fod yn rhieni, yn gyplau priod, ac yn ffrindiau gwell. Yn ychwanegol, mae pobl sy’n dangos trugaredd tuag at eraill, fel arfer, yn derbyn yr help maen nhw’n ei angen.—Darllen Mathew 5:7; Luc 6:38.
17. Pam rwyt ti eisiau bod yn drugarog?
17 Er bod dangos trugaredd yn dda inni, y prif reswm dros ddangos trugaredd ydy ein bod ni eisiau efelychu Jehofa a’i anrhydeddu. Ef yw ffynhonnell cariad a thrugaredd. (Diarhebion 14:31) Mae Jehofa yn gosod yr esiampl berffaith inni. Felly, gad inni wneud popeth a allwn ni i efelychu Duw drwy ddangos trugaredd. Yna, byddwn ni’n agosáu at ein brodyr a’n chwiorydd ac yn cael perthynas well â’r bobl o’n hamgylch.—Galatiaid 6:10; 1 Ioan 4:16.