LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w18 Gorffennaf tt. 30-31
  • Sut i Wneud Dy Astudiaeth Bersonol o’r Beibl yn Fwy Effeithiol a Dymunol

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Wneud Dy Astudiaeth Bersonol o’r Beibl yn Fwy Effeithiol a Dymunol
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut i Elwa’n Fwy ar Ddarllen y Beibl
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut Rwyt Ti’n Gwneud Penderfyniadau Personol?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Manteisio’n Llawn ar Ddarpariaethau Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • “Mae Gair Duw . . . yn Cyflawni Beth Mae’n ei Ddweud”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
w18 Gorffennaf tt. 30-31
Josua yn darllen y Gyfraith wrth olau lamp

Sut i Wneud Dy Astudiaeth Bersonol o’r Beibl yn Fwy Effeithiol a Dymunol

Josua yn darllen y Gyfraith; waliau Jericho yn cwympo a thŷ Rahab yn aros yn gadarn; Josua yn codi ei ddwylo tuag at y nefoedd wrth iddo weddïo

ROEDD rhaid i Josua arwain cenedl Israel i mewn i Wlad yr Addewid. Roedd hyn yn mynd i fod yn anodd iawn. Ond, roedd Jehofa wedi ei gryfhau a’i annog drwy ddweud: “Rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn!” Dywedodd wrth Josua, petai’n darllen ac yn dilyn y Gyfraith, byddai’n gwneud penderfyniadau doeth ac yn llwyddo.—Josua 1:7, 8.

Rydyn ni’n byw yn ystod “adegau ofnadwy o anodd,” felly mae ein bywydau ninnau’n gallu bod yn anodd. (2 Timotheus 3:1) Os ydyn ni eisiau llwyddo fel Josua, mae’n rhaid inni ddilyn y cyngor a roddodd Jehofa iddo. Mae angen inni ddarllen y Beibl yn rheolaidd a defnyddio’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu i wneud penderfyniadau da.

Ond, efallai dydy rhai ohonon ni ddim yn gwybod sut i astudio, neu efallai dydyn ni ddim yn mwynhau astudio. Er hynny, mae astudiaeth bersonol o’r Beibl yn bwysig iawn. Wrth iti ystyried y blwch “Tria’r Awgrymiadau Hyn,” byddi di’n gweld awgrymiadau a fydd yn dy helpu di i elwa ar dy astudiaeth a’i mwynhau’n fwy byth.

Canodd y salmydd: “Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau’i wneud.” (Salm 119:35) Gelli dithau hefyd fwynhau astudio Gair Duw. Byddi di’n darganfod llawer o bwyntiau hyfryd wrth iti ddal ati i astudio’r Beibl.

Er nad oes rhaid iti arwain cenedl gyfan fel Josua, mae gen ti dy broblemau dy hun. Felly, fel Josua, astudia a dilyna Air Duw. Os byddi di’n gwneud hyn, byddi di’n gwneud penderfyniadau doeth ac yn llwyddo.

TRIA’R AWGRYMIADAU HYN

  • Dyn yn plethu ei ddwylo mewn gweddi

    Gweddïa cyn astudio. Mae’r Beibl yn cynnwys meddyliau Jehofa, ac maen nhw wedi cael eu hysgrifennu er mwyn dy helpu di. Felly, pan wyt ti’n darllen y Beibl, gofynna i Jehofa dy helpu i ddeall beth wyt ti’n ei ddarllen, i’w gofio, ac i’w ddefnyddio er mwyn gwneud penderfyniadau da yn dy fywyd.—Esra 7:10.

  • Dyn yn gofyn cwestiwn iddo’i hun

    Gofynna gwestiynau i ti dy hun wrth iti ddarllen y Beibl neu gyhoeddiadau sy’n seiliedig arno. Er enghraifft: ‘Beth ydw i’n ei ddysgu am Jehofa yn y rhan hon? Sut mae’n gysylltiedig â thema’r Beibl? Sut galla’ i ddefnyddio’r pwyntiau hyn i helpu eraill?’

  • Dyn yn myfyrio

    Myfyria ar yr hyn rwyt ti’n ei astudio. Seibia am funud, a meddylia am beth wyt ti newydd ei ddarllen. Gofynna i ti dy hun: ‘Sut mae hyn yn gwneud imi deimlo? Pam mae’n gwneud imi deimlo felly? Sut mae hyn yn gysylltiedig â beth sydd wedi digwydd imi yn y gorffennol, beth sy’n digwydd imi nawr, neu beth efallai fydd yn digwydd imi yn y dyfodol? Sut galla’ i roi egwyddorion neu gyngor y Beibl ar waith yn fy mywyd?’ (Job 23:5; Salm 49:3) Wrth iti fyfyrio, ceisia esbonio pam mae Jehofa yn dweud wrth ei bobl am osgoi rhai arferion. Neu, meddylia am beth fyddai’r canlyniadau petai’r person rwyt ti newydd ddarllen amdano wedi gwneud pethau mewn ffordd wahanol.—Deuteronomium 32:28, 29.

  • Dyn yn dychmygu hanes y Beibl

    Defnyddia dy ddychymyg wrth ddarllen. Er enghraifft, a elli di ddychmygu’r sefyllfa pan wnaeth brodyr Joseff ei werthu i’r Ismaeliaid? (Genesis 37:18-28) Beth wyt ti’n ei weld, yn ei glywed, ac yn ei arogli? Rho dy hun yn sefyllfa’r cymeriadau. Beth oedden nhw’n ei feddwl ac yn ei deimlo? Pan fyddi di’n defnyddio dy ddychymyg, bydd dy astudiaeth yn llawer iawn mwy ystyrlon.

  • Dyn yn defnyddio adnoddau astudio

    Defnyddia’r deunydd astudio mae’r gyfundrefn wedi ei ddarparu. Gall y rhain wneud dy ymchwil yn fwy diddorol. Dysga sut i ddefnyddio’r tŵls sydd ar gael yn dy iaith di, naill ai ar lein neu’n brintiedig. Paid â dal yn ôl rhag gofyn i eraill dy helpu i ddysgu sut i’w defnyddio’n effeithiol. Er enghraifft, bydd Watch Tower Publications Index neu Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa yn dy helpu i ddod o hyd i’r hyn sydd wedi cael ei ysgrifennu ar wahanol bynciau ac sy’n esbonio rhai adnodau o’r Beibl. Defnyddia atodiadau’r New World Translation of the Holy Scriptures os ydyn nhw ar gael mewn iaith rwyt ti’n gallu ei darllen. Mae’r atodiadau hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddaearyddiaeth, cronoleg, pwysau a mesurau, a phynciau eraill.

  • Dyn yn crynhoi pwyntiau allweddol

    Ceisia grynhoi’r prif bwyntiau. Bydd hynny’n dy helpu i gofio’r hyn rwyt ti newydd ei astudio. Yn well byth, siarada ag eraill am yr hyn rwyt ti wedi ei ddysgu. Oes ’na rywbeth gelli di ei ddefnyddio yn dy weinidogaeth? Drwy wneud y pethau hyn, byddi di’n cofio’r prif bwyntiau, a bydd eraill yn elwa ar yr hyn rwyt ti’n ei astudio hefyd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu