LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w18 Medi t. 14
  • Wyt Ti’n Gwybod Faint o’r Gloch Yw Hi?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Wyt Ti’n Gwybod Faint o’r Gloch Yw Hi?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Erthyglau Tebyg
  • Gwyliwn Ein Hymddygiad
    Canwch Fawl i Jehofah Geiriau yn Unig
  • Pam Mae’n Rhaid Inni Barhau i Fod yn Wyliadwrus?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
w18 Medi t. 14

Wyt Ti’n Gwybod Faint o’r Gloch Yw Hi?

PAN wyt ti eisiau gwybod faint o’r gloch yw hi, beth wyt ti’n ei wneud? Mae’n debyg y byddi di’n edrych ar dy watsh neu’r cloc. Efallai, fe weli di ei bod hi’n un awr a thri deg munud wedi hanner dydd. Beth fyddi di’n ei ddweud wrth ffrind sy’n gofyn iti: “Faint o’r gloch ydy hi?”

Mae hynny’n dibynnu ar le rwyt ti’n byw. Er enghraifft, mewn rhai llefydd gellir dweud “mae hi’n 1:30” neu “mae hi’n 13:30.” Mewn llefydd eraill, gellir dweud, “mae hi’n hanner dau o’r gloch,” sy’n golygu 30 munud cyn dau o’r gloch.

Sut roedd pobl yn dweud faint o’r gloch oedd hi adeg y Beibl? Roedd ganddyn nhwthau hefyd fwy nag un ffordd. Mae’r Ysgrythurau Groeg yn defnyddio ymadroddion fel “bore,” “ganol dydd,” a “dechrau nosi.” (Genesis 8:11; 19:27; 43:16; Deuteronomium 28:29; 1 Brenhinoedd 18:26) Ond weithiau mae’r Beibl yn defnyddio termau sy’n fwy manwl.

Yn Israel gynt, yr arfer oedd cael “gwylwyr,” yn enwedig yn ystod y nos. Roedd yr Israeliaid yn rhannu’r nos yn dair rhan, sef gwyliadwriaethau. (Salm 63:6, BCND) Yn Barnwyr 7:19, rydyn ni’n darllen am y “wyliadwriaeth ganol.” (BCND) Erbyn dyddiau Iesu, roedd yr Iddewon yn rhannu’r nos yn bedair gwyliadwriaeth, fel roedd y Groegiaid a’r Rhufeiniaid yn gwneud.

Mae’r Efengylau yn sôn am y gwyliadwriaethau neu’r gwylfâu hyn lawer gwaith. Er enghraifft, “yn y bedwaredd wylfa o’r nos,” y cerddodd Iesu ar y dŵr tuag at y cwch lle’r oedd ei ddisgyblion. (Mathew 14:25, BCND) A dywedodd Iesu mewn eglureb: “Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd yn ystod y nos [pa wyliadwriaeth, Beibl Cysegr-lân] roedd y lleidr yn dod, byddai wedi aros i wylio a’i rwystro rhag torri i mewn i’w dŷ.”—Mathew 24:43.

Soniodd Iesu am y pedair gwyliadwriaeth hyn pan ofynnodd i’w ddisgyblion fod yn effro oherwydd doedden nhw ddim yn gwybod “pa bryd y daw meistr y tŷ, ai gyda’r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore.” (Marc 13:35, BCND) Roedd y gyntaf o’r gwyliadwriaethau hynny “gyda’r hwyr,” o fachlud yr haul tan oddeutu naw o’r gloch gyda’r nos. Roedd yr ail wyliadwriaeth, “hanner nos,” o naw o’r gloch gyda’r hwyr tan hanner nos. Roedd y drydedd wyliadwriaeth “ar ganiad y ceiliog,” hynny yw, o hanner nos tan oddeutu tri o’r gloch yn y bore. Yn ystod y wyliadwriaeth hon, yn ôl pob tebyg, y gwnaeth y ceiliog ganu y noson y cafodd Iesu ei arestio. (Marc 14:72) Roedd y bedwaredd wyliadwriaeth “yn fore,” hynny yw, o gwmpas tri o’r gloch yn y bore tan y wawr.

Felly hyd yn oed yn y cyfnod pan nad oedd gan bobl watshis a chlociau fel y rhai sydd gennyn ni heddiw, roedd ganddyn nhw ffordd o ddweud faint o’r gloch oedd hi.

Pedair gwyliadwriaeth y diwrnod Iddewig yn adeg y Beibl
    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu