LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 168
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gyd-Fyw Heb Briodi?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gyd-Fyw Heb Briodi?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Pam mae’r dewis i briodi neu beidio o unrhyw bwys i Dduw?
  • Beth am gyd-fyw cyn priodi er mwyn gweld a fedrwch chi fyw’n gytûn?
  • Sut gall cyplau adeiladu priodas gadarn?
  • Priodas—Rhodd gan Dduw Cariadus
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 168
Dynes yn rhoi goriadau’r tŷ i ddyn.

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gyd-Fyw Heb Briodi?

Ateb y Beibl

Mae’r Beibl yn dweud bod Duw yn dymuno i bobl “beidio gwneud dim sy’n anfoesol yn rhywiol.” (1 Thesaloniaid 4:3) Yn y Beibl mae’r term “anfoesoldeb rhywiol” yn cynnwys godinebu, gweithredoedd hoyw, a rhyw rhwng dyn a dynes nad ydyn nhw’n briod.

  • Pam mae’r dewis i briodi neu beidio o unrhyw bwys i Dduw?

  • Beth am gyd-fyw cyn priodi er mwyn gweld a fedrwch chi fyw’n gytûn?

  • Sut gall cyplau adeiladu priodas gadarn?

Pam mae’r dewis i briodi neu beidio o unrhyw bwys i Dduw?

  • Duw a sefydlodd briodas. Fe’i sefydlwyd gan Dduw pan ddaeth ef â’r pâr dynol cyntaf at ei gilydd. (Genesis 2:22-24) Nid bwriad Duw oedd i ddyn a dynes gyd-fyw heb ymrwymo i briodas.

  • Mae Duw yn gwybod beth sydd orau inni. Bwriad Duw oedd i briodas fod yn bartneriaeth barhaol rhwng dyn a dynes a fyddai’n helpu ac yn amddiffyn pob aelod o’r teulu. Ystyriwch yr eglureb hon. Fel y mae cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn dangos sut mae rhoi dodrefn at ei gilydd, felly y mae cyfarwyddiadau Duw yn dangos sut mae adeiladu perthynas hapus yn y teulu. Mae safonau Duw bob amser yn fuddiol i’r rhai sy’n eu dilyn.—Eseia 48:17, 18.

    Dyn yn darllen cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr er mwyn rhoi dodrefn at ei gilydd.

    Mae cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn dangos sut mae rhoi dodrefn at ei gilydd. Mae cyfarwyddiadau Duw yn dangos sut mae creu bywyd teuluol llwyddiannus

  • Gall cael rhyw y tu allan i briodas arwain at ganlyniadau difrifol. Er enghraifft, gall arwain at feichiogrwydd di-groeso, clefydau a drosglwyddir yn rhywiol, a helbul emosiynol.

  • Rhodd oddi wrth Dduw yw’r gallu i gael plant drwy berthynas rywiol. Yng ngolwg Duw, mae bywyd yn gysegredig, a rhodd arbennig yw’r gallu i gael plant. Mae Duw am inni barchu’r rhodd honno drwy barchu ei ewyllys ynglŷn â phriodas.—Hebreaid 13:4.

Beth am gyd-fyw cyn priodi er mwyn gweld a fedrwch chi fyw’n gytûn?

Nid yw “cyfnod prawf,” lle mae’r ddau bartner yn rhydd i ymadael, yn sail i briodas lwyddiannus. I’r gwrthwyneb, bydd y berthynas yn ffynnu pan fydd y ddau yn ymrwymo i’w gilydd ac yn cydweithio i ddatrys problemau.a Mae priodas yn cryfhau’r ymrwymiad hwnnw.—Mathew 19:6.

Sut gall cyplau adeiladu priodas gadarn?

Nid oes y fath beth â phriodas berffaith. Sut bynnag, mae’n bosib adeiladu priodas lwyddiannus drwy roi cyngor y Beibl ar waith. Dyma rai enghreifftiau:

  • Rhowch anghenion eich cymar o flaen eich anghenion eich hun.—1 Corinthiaid 7:3-5; Philipiaid 2:3, 4.

  • Cofiwch feithrin cariad a pharch tuag at eich gilydd.—Effesiaid 5:25, 33.

  • Dysgwch i reoli eich tafod.—Diarhebion 12:18.

  • Byddwch yn amyneddgar ac yn barod i faddau.—Colosiaid 3:13, 14.

a Gweler yr erthygl “Teuluoedd Llwyddiannus—Ymrwymiad.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu