LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 180
  • Lle Galla i Gael Hyd i Obaith?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Lle Galla i Gael Hyd i Obaith?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Sut mae’r Beibl yn rhoi rheswm inni fod yn fwy optimistaidd?
  • Pa obaith mae’r Beibl yn ei gynnig i bawb?
  • Cadwa Dy Obaith yn Gryf
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Rhesymau i Obeithio yn 2023—Beth mae’r Beibl yn ei Ddweud?
    Pynciau Eraill
  • Lle Mae Gwir Obaith i’w Gael?
    Deffrwch!—2004
  • Mae’r Beibl yn Rhoi Gobaith Inni
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Gweld Mwy
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 180
Dynes yn edrych yn obeithiol tua’r gorwel.

Lle Galla i Gael Hyd i Obaith?

Ateb y Beibl

Mae’r Beibl yn dweud bod Duw am roi “dyfodol llawn gobaith”a inni. (Jeremeia 29:11) Yn wir, un rheswm mae Duw wedi rhoi’r Beibl inni yw er mwyn inni gael gobaith. (Rhufeiniaid 15:4) Fel y gwelwn ni, gall y cyngor da yn y Beibl ein helpu ni i fod yn fwy optimistaidd yn ein bywydau bob dydd. Ar ben hynny, mae’n addo dyfodol braf iawn inni.

Ar y dudalen hon

  • Sut mae’r Beibl yn rhoi rheswm inni fod yn fwy optimistaidd?

  • Pa obaith mae’r Beibl yn ei gynnig i bawb?

  • Adnodau o’r Beibl sy’n sôn am obaith

Sut mae’r Beibl yn rhoi rheswm inni fod yn fwy optimistaidd?

Mae’r Beibl yn gallu ein helpu ni i fod yn fwy optimistaidd drwy awgrymu pethau ymarferol y gallwn ni eu gwneud i wella ein bywydau. Ystyriwch rai esiamplau.

  • Trowch at y Beibl am gyngor ymarferol. Mae Salm 119:105 yn dweud: “Mae dy eiriau di yn lamp i’m traed, ac yn goleuo fy llwybr.” Mae golau llachar yn gwneud dau beth. Mae’n taflu goleuni ar y pethau sydd dan ein traed, ac mae’n ein helpu ni i weld lle rydyn ni’n mynd. Mewn ffordd debyg, mae’r egwyddorion ymarferol yn y Beibl yn gallu ein helpu ni i ddelio’n effeithiol gyda’n problemau heddiw, ac mae hynny yn gwneud inni deimlo’n fwy positif. Mae dysgeidiaeth y Beibl yn adfer ein nerth ac “yn gwneud y galon yn llawen.” (Salm 19:7, 8) Ar yr un pryd, mae’r Beibl yn taflu goleuni ar yr hyn sydd gan Dduw mewn golwg ar gyfer y ddaear a phawb sy’n byw arni. Mae’r gobaith hwnnw yn gallu ein gwneud ni’n hapus am byth.

  • Gadewch i eraill eich helpu. Weithiau, os ydyn ni’n colli gobaith, rydyn ni’n tueddu i osgoi aelodau teulu a ffrindiau. Ond mae’r Beibl yn dweud bod hynny yn beryglus oherwydd mae’n gallu arwain at wneud pethau ffôl a phenderfyniadau gwael. (Diarhebion 18:1) Mae pobl sy’n ein caru yn gallu bod yn ddylanwad da a’n helpu ni i gadw ein cydbwysedd. Yn aml maen nhw’n gallu cynnig syniadau ynglŷn â sut i ddelio â sefyllfa heriol. (Diarhebion 11:14) Ar y lleiaf, byddan nhw’n gallu ein cysuro a’n calonogi, gan roi nerth inni ddal ati nes bydd pethau’n gwella.—Diarhebion 12:25.

  • Gweddïwch ar Dduw. Mae’r Beibl yn dweud: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i’r cyfiawn syrthio.” (Salm 55:22) Mae’r Beibl yn cyfeirio at Jehofab fel y “Duw sy’n rhoi gobaith.” (Rhufeiniaid 15:13) Gallwch chi weddïo arno am “eich holl bryder,” a theimlo’n hyderus ei fod yn gofalu amdanoch chi. (1 Pedr 5:7) Yn wir, mae’r Beibl yn dweud: “Bydd ef yn eich gwneud chi’n gadarn, bydd ef yn eich gwneud chi’n gryf, bydd ef yn eich gosod chi ar sylfaen gadarn.”—1 Pedr 5:10.

  • Gadewch i dreialon gryfhau eich gobaith. Yn y Beibl, mae Duw yn addo: “Ond bydd pwy bynnag sy’n gwrando arna i yn saff, yn dawel eu meddwl, ac yn ofni dim.” (Diarhebion 1:33) Collodd dynes o’r enw Margaret lawer o’i heiddo mewn storm ddinistriol yn Awstralia. Ond yn lle anobeithio’n llwyr, dewisodd hi ddysgu gwers bwysig, hynny yw bod pethau materol yn gallu diflannu dros nos. Ar ôl hynny, roedd hi’n fwy penderfynol nag erioed i ganolbwyntio ar y pethau sydd o wir bwys—ei theulu a’i ffrindiau, ei pherthynas â Duw a’r gobaith mae’r Beibl yn ei gynnig.—Salm 37:34; Iago 4:8.

Pa obaith mae’r Beibl yn ei gynnig i bawb?

Mae’r Beibl yn addo dyfodol braf i’r ddynoliaeth ac i’r ddaear. Ac nid yw’n bell i ffwrdd. Yn wir, mae’r problemau sy’n ein hwynebu ni heddiw yn dangos ein bod ni’n byw ‘yn nyddiau olaf’ y byd presennol. (2 Timotheus 3:1-5) Yn fuan, bydd Duw yn rheoli popeth sy’n digwydd ar y ddaear ac yn cael gwared ar anghyfiawnder a dioddefaint drwy sefydlu llywodraeth, o’r enw Teyrnas Dduw, ar gyfer y byd cyfan. (Daniel 2:44; Datguddiad 11:15) Cyfeiriodd Iesu at y llywodraeth nefol hon yn ei weddi enwog pan ddywedodd “Gad i dy Deyrnas ddod. Gad i dy ewyllys ddigwydd ar y ddaear.”—Mathew 6:9, 10.

Mae’r Beibl yn esbonio ewyllys Duw ar gyfer y ddynoliaeth yn glir. Sylwch ar rai o’r pethau y bydd Teyrnas Dduw yn eu gwneud:

  • Cael gwared ar newyn. “Mae’r tir yn rhoi ei gynhaeaf i ni!”—Salm 67:6.

  • Cael gwared ar salwch. “Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’”—Eseia 33:24.

  • Cael gwared ar farwolaeth. “Bydd [Duw] yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw, ac ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach. Mae’r hen bethau wedi diflannu.”—Datguddiad 21:3, 4.

a Ystyr gobeithio ydy dymuno cael rhywbeth a chredu bod hynny yn bosib. Gall y peth rydyn ni’n edrych ymlaen ato fod yn obaith hefyd.

b Yn ôl y Beibl, Jehofa yw enw Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

Adnodau o’r Beibl sy’n sôn am obaith

Job 5:16: “Mae gobaith i’r tlawd.”

Ystyr: Mae’r rhai sy’n teimlo nad oes neb yn becso amdanyn nhw yn gallu bod yn sicr y bydd Duw yn eu helpu os ydyn nhw’n troi ato.

Salm 27:14: “Gobeithia yn yr ARGLWYDD! Bydd yn ddewr ac yn hyderus! Ie, gobeithia yn yr ARGLWYDD!”

Ystyr: Drwy roi ein gobaith yn Jehofa Dduw, rydyn ni’n cael nerth a dewrder. Ni fydd Duw byth yn cefnu ar y rhai sy’n dibynnu arno.

Salm 62:5: “Disgwyl di’n dawel am Dduw, fy enaid, achos fe ydy dy obaith di.”

Ystyr: Mae’r rhai sy’n goddef treialon drwy ddibynnu ar Dduw yn gallu bod yn sicr y bydd Duw’n datrys eu problemau ar yr adeg iawn.

Diarhebion 20:22: “Paid dweud, “Bydda i’n talu’r pwyth yn ôl!” Disgwyl i’r ARGLWYDD achub dy gam di.”

Ystyr: Pan fydd rhywun yn ein brifo ni, gallwn ni ymwrthod â’r temtasiwn i ddial arnyn nhw drwy obeithio yn Jehofa. Mae gan Dduw y grym a’r awydd i’n hachub ni ac i ddad-wneud unrhyw niwed sydd wedi digwydd inni.

Hebreaid 6:19: “Mae gynnon ni’r gobaith hwn fel angor i’r enaid, yn sicr ac yn gadarn.”

Ystyr: Fel y mae angor yn sadio llong mewn storm, mae’r gobaith sicr o gael gwobr gan Dduw yn gallu lleihau pryder a’n helpu ni i fod yn sefydlog yn emosiynol, yn feddyliol ac yn ysbrydol. Mae gobaith hefyd yn rhoi’r nerth inni ddyfalbarhau er gwaethaf caledi.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu