LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 97
  • Pam Dylwn i Ymddiheuro?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Dylwn i Ymddiheuro?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Pam ymddiheuro?
  • Sut i ymddiheuro?
  • I Gael Priodas Hapus: Ymddiheurwch
    Help ar Gyfer y Teulu
  • Ymddiheuro—Y Ffordd i Wneud Heddwch
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa—2002
  • 8 Esiampl
    Deffrwch!—2018
  • Torrais Un o Reolau’r Teulu—Beth Nawr?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Gweld Mwy
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 97
Bachgen mewn dosbarth a’r athro yn dweud y drefn wrtho.

CWESTIYNAU POBL IFANC

Pam Dylwn i Ymddiheuro?

Beth fyddet ti’n ei wneud yn y sefyllfaoedd canlynol?

  1. Mae’r athro yn dweud y drefn wrthot ti am gamymddwyn yn y dosbarth.

    Ddylet ti ymddiheuro i’r athro, hyd yn oed os wyt ti’n meddwl ei fod wedi gorymateb?

  2. Mae ffrind i ti yn clywed dy fod ti wedi dweud rhywbeth cas amdani.

    Ddylet ti ymddiheuro i dy ffrind, hyd yn oed os wyt ti’n credu bod dy sylwadau yn deg?

  3. Rwyt ti’n colli dy dymer gyda dy dad a’i ateb yn ôl.

    Ddylet ti ymddiheuro i dy dad, hyd yn oed os wyt ti’n teimlo mai ef oedd wedi tynnu’r ffrae?

Yr ateb i bob un o’r tri chwestiwn yw y dylet. Ond pam dylet ti ymddiheuro pan wyt ti’n teimlo bod rhywfaint o fai ar y person arall?

  • Pam ymddiheuro?

  • Sut i ymddiheuro?

  • Barn Dy Gyfoedion

Pam ymddiheuro?

  • Mae ymddiheuro yn arwydd o aeddfedrwydd. Pan fyddi di’n derbyn y cyfrifoldeb am rywbeth a ddywedaist neu a wnest, rwyt ti’n dangos dy fod ti’n meithrin rhinweddau a fydd yn help mawr iti fel oedolyn.

    “Os ydyn ni’n ostyngedig ac yn amyneddgar, mae’n haws inni ymddiheuro a gwrando ar beth sydd gan y person arall i’w ddweud.”—Rachel.

  • Bydd ymddiheuro yn help i gymodi. Mae pobl sy’n ymddiheuro yn dangos bod cadw heddwch yn bwysicach na phrofi mai nhw sy’n iawn a’r person arall sy’n anghywir.

    “Hyd yn oed os nad wyt ti’n meddwl bod y bai arnat ti, y peth pwysicaf yw cymodi. Nid yw ymddiheuro yn costio dim, ond mae’n gallu adfer perthynas.”—Miriam.

  • Mae ymddiheuro yn gwneud iti deimlo’n well. Baich trwm i’w gario yw’r teimlad dy fod ti wedi brifo rhywun drwy air neu weithred. Ond unwaith iti ymddiheuro, mae’r baich yn cael ei godi oddi ar dy ysgwyddau.a

    “Dw i’n cofio siarad yn gas â mam a dad. Roeddwn i’n teimlo’n ddrwg, ond roedd hi’n anodd ymddiheuro. Ond erbyn imi wneud, roeddwn i bob amser yn teimlo’n well achos bod heddwch yn y teulu wedyn.”—Nia.

    Bachgen yn ei arddegau’n cario carreg anferth ar ei gefn.

    Mae’r teimlad dy fod ti wedi brifo rhywun yn faich trwm; unwaith iti ymddiheuro, mae’n cael ei godi oddi ar dy ysgwyddau

Ydy ymddiheuro yn gofyn am ymdrech? Ydy! Mae merch o’r enw Dena, sydd wedi gorfod ymddiheuro i’w mam fwy nag unwaith am fod yn ddigywilydd yn cyfaddef: “Dydy ymddiheuro ddim yn hawdd. Mae’n teimlo fel bod lwmp yn fy ngwddf sy’n fy atal rhag dweud y geiriau!”

Sut i ymddiheuro?

  • Ceisia ymddiheuro wyneb yn wyneb. Mae ymddiheuro wyneb yn wyneb yn gadael i’r person arall weld dy fod ti’n ddiffuant. Efallai y bydd neges destun, ar y llaw arall, yn edrych yn arwynebol. Hyd yn oed gydag emoji wyneb trist, mae’n hawdd i’r neges ymddangos yn amhersonol ac yn ffals.

    Awgrym: Os na elli di ymddiheuro wyneb yn wyneb, beth am ffonio neu ysgrifennu cerdyn? Ond beth bynnag a wnei di, mae angen dewis dy eiriau’n ofalus.

    Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb.”—Diarhebion 15:28.

  • Ymddiheura heb oedi. Mwyaf yn y byd wyt ti’n gohirio ymddiheuro, y mwyaf anghyfforddus fydd y berthynas rhyngoch chi.

    Awgrym: Gwna benderfyniad—er enghraifft, ‘Bydda i’n ymddiheuro heddiw.’ Penderfyna erbyn pryd y byddi di’n ymddiheuro, ac yna cadw ato.

    Egwyddor o’r Beibl: “Setla’r mater ar unwaith.”—Mathew 5:25.

  • Ymddiheura’n ddiffuant. Ai ymddiheuriad yw dweud “Mae’n ddrwg gen i mai dyna’r ffordd wyt ti’n teimlo”? Dim o gwbl! Mae dynes ifanc o’r enw Janelle yn dweud: “Mae’r un sydd wedi cael cam yn fwy tebygol o dy barchu di os wyt ti’n derbyn y cyfrifoldeb.”

    Awgrym: Ymddiheura’n ddiamod. Paid â dweud, i bob pwrpas: “Bydda i’n ymddiheuro am beth wnes i, os byddi di’n ymddiheuro am beth wnes di.”

    Egwyddor o’r Beibl: “Gadewch i ni wneud beth sy’n arwain at heddwch.”—Rhufeiniaid 14:19.

Barn Dy Gyfoedion

Valerie.

“Mae ymddiheuro’n gofyn am ostyngeiddrwydd—yn enwedig os ydw i’n teimlo nad arna i mae’r bai. Ond hyd yn oed wedyn, dw i eisiau dweud rhywbeth cadarnhaol. Fy nod yw diffodd y tân, nid rhoi petrol arno.”—Valerie.

Philip.

“Pan wyt ti’n fodlon ymddiheuro, mae’n dangos bod y person arall yn bwysicach iti na ti dy hun. Gall ymddiheuro wneud iti deimlo’n annifyr, ond mi fyddi di’n well ffrind o’i wneud, ac efallai bydd y cyfeillgarwch rhyngoch chi’n agosach.”—Philip.

Kendall.

“Weithiau bydd rhywun sy’n digio yn gorymateb. Ond dydy hynny ddim yn golygu mod i’n iawn a’r person arall yn anghywir. Gwell fyddai ystyried sut mae’r sefyllfa wedi effeithio arnyn nhw. Os ydw i wedi brifo rhywun, mae angen imi ymddiheuro.”—Kendall.

I adolygu: Pam dylwn i ymddiheuro?

  • Mae ymddiheuro’n dangos aeddfedrwydd.

  • Mae ymddiheuro yn help i gymodi.

  • Mae ymddiheuro’n gwneud iti deimlo’n well.

Sut i fynd ati:

  • Ceisia ymddiheuro wyneb yn wyneb.

  • Ymddiheura heb oedi.

  • Ymddiheura’n ddiffuant.

a Os wyt ti wedi colli neu falu rhywbeth sy’n perthyn i rywun arall, yn ogystal ag ymddiheuro, peth da fyddai cynnig talu am y golled neu am y gwaith i’w drwsio.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu