LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mrt erthygl 16
  • Help i’r Rhai Sy’n Dioddef Trais yn y Cartref

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Help i’r Rhai Sy’n Dioddef Trais yn y Cartref
  • Pynciau Eraill
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Nid chi sydd ar fai am y trais
  • Mae cymorth ar gael
  • Dydych chi ddim ar eich pen eich hun
  • Bydd trais yn y cartref yn dod i ben
  • Proffwydoliaeth 4. Diffyg Cariad Naturiol
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa—2011
  • Cariad a Chyfiawnder yn Wyneb Drygioni
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Mae Jehofa Wedi Gwneud Cymaint ar Fy Nghyfer
    Mae’r Beibl yn Newid Bywydau
  • Cysuro’r Rhai Sydd Wedi Dioddef Camdriniaeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
Pynciau Eraill
mrt erthygl 16
Dynes yn edrych yn obeithiol ar fachlud yr haul dros y môr.

Help i’r Rhai Sy’n Dioddef Trais yn y Cartref

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, “Mae trais yn erbyn menywod wedi cyrraedd lefel epidemig ledled y byd. Mae angen gweithredu ar frys i’w atal.” Mae’r sefydliad hwnnw’n amcangyfrif bod bron 30 y cant “o fenywod sydd wedi bod mewn perthynas wedi dioddef trais, naill ai’n gorfforol neu’n rhywiol, neu’r ddau” gan eu partneriaid. Mewn adroddiad sy’n trafod un flwyddyn ddiweddar, mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 137 o fenywod wedi marw ledled y byd o ganlyniad i drais gan eu partneriaid neu aelodau eraill o’r teulu.a

Gall ystadegau ddangos pa mor fawr yw problem trais yn y cartref, ond dydyn nhw ddim yn dechrau cyfleu poen gorfforol ac emosiynol y rhai sy’n dioddef.

Ydych chi’n dioddef trais yn y cartref? Neu’n adnabod rhywun sy’n dioddef? Os felly, ystyriwch y pwyntiau canlynol o’r Beibl i’ch helpu.

Nid chi sydd ar fai am y trais

Mae cymorth ar gael

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

Bydd trais yn y cartref yn dod i ben

Sut i helpu rhywun sy’n dioddef

Nid chi sydd ar fai am y trais

Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto’i hun o flaen Duw.”—Rhufeiniaid 14:12.

Cofiwch hyn: Mae’r un sy’n eich cam-drin yn gyfrifol am ei ymddygiad.

Os ydy eich partner yn rhoi’r bai arnoch chi am ei ymddygiad treisgar ef, ef sy’n anghywir. Mae gwragedd yn haeddu eu caru, nid eu cam-drin.—Colosiaid 3:19.

Weithiau bydd problemau iechyd meddwl, agweddau yn y teulu, neu gamddefnyddio alcohol yn dylanwadu ar rywun sy’n cam-drin eraill. Er hynny, y mae’n atebol i Dduw am y ffordd y mae’n eich trin. Ac ef sy’n gyfrifol am newid ei ymddygiad.

Mae cymorth ar gael

Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cynlluniau’n . . . llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.”—Diarhebion 15:22.

Cofiwch hyn: Os nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel neu ddim yn gwybod beth i wneud, mae eraill yn gallu helpu.

Pam mae angen help? Mae trais yn y cartref yn gymhleth. Wrth benderfynu beth i’w wneud gall fod yn anodd pwyso a mesur ffactorau fel:

  • Eich diogelwch personol

  • Lles eich plant

  • Eich sefyllfa ariannol

  • Eich cariad tuag at eich partner

  • Eich awydd i achub y berthynas os bydd eich partner yn newid

Mae’n hawdd drysu a theimlo bod y sefyllfa’n ormod ichi. Lle gallwch chi droi am help?

Efallai bydd ffrind da neu aelod o’r teulu yn gallu rhoi cymorth ymarferol ac emosiynol ichi. Mae siarad â rhywun sy’n eich caru chi yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.

Mae llinellau cymorth i ddioddefwyr trais yn y cartref yn gallu cynnig cymorth ar unwaith. Bydd y rhai sy’n ateb y galwadau yn eich helpu i wneud cynllun diogelwch. Os bydd eich partner yn cydnabod y broblem ac eisiau newid, efallai bydd llinell gymorth yn gallu ei helpu ef i gymryd y camau cyntaf.

Mae adnoddau brys eraill ar gael i’ch helpu os ydych chi mewn peryg, gan gynnwys meddygon, nyrsys a phobl broffesiynol eraill.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD [Jehofab] yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.”

Cofiwch hyn: Mae Duw yn addo eich helpu.

Mae Jehofa yn gofalu amdanoch chi. (1 Pedr 5:7) Mae’n deall eich meddyliau a’ch teimladau. Mae’n gallu eich cysuro trwy ei Air, y Beibl. Ac mae’n gofyn ichi weddïo arno. Yn eich gweddïau, gofynnwch iddo roi ichi’r doethineb a’r nerth sydd eu hangen i ddelio â’ch sefyllfa.—Eseia 41:10.

Bydd trais yn y cartref yn dod i ben

Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.”—Micha 4:4.

Cofiwch hyn: Mae’r Beibl yn addo bod amser yn dod pan fydd pob cartref yn hafan.

Dim ond Jehofa Dduw sydd â’r ateb parhaol i bob un o’n problemau. Mae’r Beibl yn addo: “Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.” (Datguddiad 21:4) Bryd hynny, bydd unrhyw atgofion cas yn diflannu a rhai da yn cymryd eu lle. (Eseia 65:17) Dyma’r dyfodol heddychlon mae’r Beibl yn ei gynnig ichi.

a Cyfeiria’r erthygl hon at yr un sy’n dioddef trais fel menyw, ond mae llawer o’r drafodaeth yn berthnasol hefyd i ddynion sy’n dioddef.

b Mae’r Beibl yn dangos mai Jehofa yw enw Duw.

Sut i helpu rhywun sy’n dioddef

Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n dioddef trais yn y cartref? Hyd yn oed os nad ydych chi’n gweithio’n broffesiynol yn y maes, mae’n bosib ichi ei helpu.c

Gwrando yn garedig. (Iago 1:19) Dywedwch eich bod chi’n awyddus i wrando, ond peidiwch â rhoi pwysau arni i siarad. Esboniwch eich bod chi’n credu beth mae hi’n ei ddweud.​—Diarhebion 20:5.

Dywed un wefan ar drais yn y cartref: “Bydd hi wedi gorfod magu plwc er mwyn siarad â chi. Mae [dioddefwyr] yn llawer mwy tebygol o guddio neu wneud yn fach o’r gamdriniaeth, yn hytrach na’i gorliwio. Weithiau, mae’n anodd credu bod rhywun rydych chi yn ei adnabod yn gallu bod yn dreisgar. Ond mae’n debyg bod y camdriniwr yn ymddwyn yn wahanol iawn yn eich cwmni chi i’r ffordd y mae’n ymddwyn gartref.”

Siarad yn galonogol. (1 Thesaloniaid 5:11) Defnyddiwch eich geiriau i godi ei hunan-barch. Dywedwch ei bod hi’n bwysig ichi. Atgoffwch hi am ei rhinweddau, a’i hannog i fynd am help.

Cefnogi. (Diarhebion 17:17) Rhowch help ymarferol, fel gwarchod y plant am sbel neu wneud pryd o fwyd. Sicrhewch fod ganddi gynllun diogelwch, gan gynnwys rhywle i fynd mewn argyfwng.

Codi ei hyder yn ei gallu i benderfynu. (Galatiaid 6:5) Rhowch wybodaeth iddi a thrafodwch yr opsiynau. Ond peidiwch â dweud wrthi am beth i’w wneud.

c Os ydych chi’n pryderu am ferch, a chithau’n ddyn, yn lle ceisio rhoi llawer o help yn bersonol, peth doeth fyddai ei hannog hi i fynd at ffrind benywaidd am help.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu