LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mrt erthygl 36
  • Ydy System Economaidd Deg yn Bosib?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ydy System Economaidd Deg yn Bosib?
  • Pynciau Eraill
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Problemau economaidd bydd Duw yn eu datrys
  • Chwyddiant yn Codi yn Fyd-Eang—Beth Mae’r Beibl yn Ei Ddweud?
    Pynciau Eraill
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am y Prinder Bwyd a Welwn Heddiw?
    Pynciau Eraill
  • Teyrnas Dduw—Pam Mae’n Bwysig i Iesu
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa—2014
  • Sut Gallwch Chi Fyw am Byth?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Pynciau Eraill
mrt erthygl 36
Dyn yn sefyll ymysg hoflau yn edrych tuag at fflatiau moethus.

Ydy System Economaidd Deg yn Bosib?

Mewn un wlad ar ôl y llall, mae pobl wedi mynd allan ar y strydoedd, i brotestio am eu bod yn teimlo bod yr amodau economaidd yn annheg. Gwnaeth y pandemig COVID-19 wneud y problemau hynny’n waeth. Roedd pobl yn anhapus oherwydd bod y cyfnodau clo, y prinder nwyddau yn y siopau, a’r cyfyngiadau ar ofal iechyd wedi amlygu’r gagendor rhwng y cyfoethog a’r tlawd.

A fyddwn ni’n gweld diwedd ar y problemau economaidd sy’n plagio’r byd? Byddwn. Mae’r Beibl yn disgrifio’r hyn bydd Duw yn ei wneud i ddatrys ein problemau.

Problemau economaidd bydd Duw yn eu datrys

Problem: Mae dynolryw wedi methu sefydlu system economaidd sydd yn sicrhau bod gan bawb yr hyn maen nhw ei angen.

Ateb: Bydd Duw yn disodli llywodraethau dynol gyda’i lywodraeth ei hun, sy’n cael ei galw’n Deyrnas Dduw. Bydd yn rheoli o’r nef dros y ddaear i gyd.—Daniel 2:44; Mathew 6:10.

Canlyniad: Fel llywodraeth fyd-eang, bydd Teyrnas Dduw yn gweinyddu materion y ddaear yn berffaith. Fydd pobl byth eto yn cael eu caethiwo mewn tlodi a gorfod poeni a oes ganddyn nhw ddigon i fyw arno. (Salm 9:7-9, 18) Yn hytrach, byddan nhw’n mwynhau ffrwyth eu llafur ac yn gallu byw bywydau cynhyrchiol, llawn boddhad gyda’u teuluoedd. Mae’r Beibl yn addo: “Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta’r ffrwyth.”—Eseia 65:21, 22.

Problem: Mae pobl yn methu ffoi rhag digwyddiadau sy’n gwneud iddyn nhw ddioddef a mynd heb yr hyn maen nhw’n ei angen mewn bywyd.

Ateb: Drwy ei Deyrnas, bydd Duw yn cael gwared ar unrhyw beth sy’n codi ofn ar bobl ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n anniogel.

Canlyniad: O dan ofal Duw, fydd pobl ddim bellach yn mynd trwy sefyllfaoedd a fydd yn achosi iddyn nhw neu eu teuluoedd golli’r pethau maen nhw eu hangen i fyw arnyn nhw bob dydd. Er enghraifft, bydd rhyfeloedd, prinder bwyd, a heintiau byd-eang yn perthyn i’r gorffennol. (Salm 46:9; 72:16; Eseia 33:24) Mae Duw yn dweud: “Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff, tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel.”—Eseia 32:18.

Problem: Mae pobl sydd yn hunanol ac yn farus yn aml yn cymryd mantais ar bobl eraill.

Ateb: Bydd deiliaid Teyrnas Dduw yn dysgu dangos eu bod nhw’n caru eraill yn fwy na maen nhw’n caru eu hunain.—Mathew 22:37-39.

Canlyniad: O dan Deyrnas Dduw, bydd pawb yn efelychu cariad Duw; cariad sydd ddim yn “mynnu ei ffordd ei hun drwy’r adeg.” (1 Corinthiaid 13:4, 5) Yn ôl y Beibl: “Fydd neb yn gwneud drwg nac yn dinistrio dim ar y mynydd sydd wedi’i gysegru i mi. Fel mae’r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd y ddaear yn llawn pobl sy’n nabod yr ARGLWYDD.”a—Eseia 11:9.

Mae’r Beibl yn dangos ein bod ni’n byw yn nyddiau olaf y system bresennol ac yn fuan bydd Duw yn cyflawni ei addewid i ddod â phob problem economaidd i ben.b (Salm 12:5) Yn y cyfamser, gall egwyddorion Beiblaidd eich helpu ag unrhyw broblem economaidd sydd gynnoch chi nawr. Er enghraifft, gweler yr erthyglau “Sut i Fyw ar Lai o Arian” ac “A Balanced View of Money.”

Camsyniadau am y Beibl ac economeg

Camsyniad: Fydd tlodi byth yn darfod, oherwydd dywedodd Iesu: “Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser.”—Mathew 26:11.

Ffaith: Roedd Iesu yn mynegi realiti syml: Cyn belled â bod yr hen fyd anghyfiawn hwn yn para, bydd rhai yn byw mewn tlodi. Ond roedd neges Iesu yn dod â “newyddion da i bobl dlawd,” gan gynnwys yr addewid y bydd Teyrnas Dduw yn dod â thlodi i ben am byth.—Luc 4:18, 43.

Camsyniad: Mae’n rhaid i bobl sydd eisiau plesio Duw fod yn dlawd, achos dywedodd Iesu: “Dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho’r arian i bobl dlawd.”—Mathew 19:21.

Ffaith: Doedd geiriau Iesu ddim yn gosod safon i’w ddilynwyr fyw wrtho. Roedd yn rhoi cyfarwyddyd penodol i ddyn ifanc oedd yn rhoi gormod o sylw i’w gyfoeth. Cafodd y dyn ei annog gan Iesu i symleiddio ei fywyd a derbyn y gwahoddiad i fod yn un o’i ddilynwyr.

Camsyniad: Mae Duw yn bendithio unigolion drwy eu gwneud yn gyfoethog, am fod y Beibl yn dweud: “Bendith yr ARGLWYDD sy’n rhoi cyfoeth.”—Diarhebion 10:22, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Ffaith: Yn y Beibl, mae “bendith yr ARGLWYDD” yn arfer cyfeirio at gyfoeth ysbrydol, fel bywyd ystyrlon, perthynas dda gyda Duw, a gobaith disglair am y dyfodol. (Salm 25:14; Ioan 17:3) Er bod Duw wedi bendithio rhai o’i weision gyda chyfoeth, doedd y mwyafrif a ddaeth yn Gristnogion ddim yn gyfoethog. (Genesis 24:34, 35; Iago 2:5) Ychydig iawn o bethau materol oedd gan Iesu.—Mathew 8:20.

Camsyniad: Mae’r Beibl yn dysgu ffurf ar gomiwnyddiaeth, am ei fod yn dweud ynglŷn â Christnogion y ganrif gyntaf eu bod nhw’n “rhannu popeth gyda’i gilydd,” ac “roedden nhw’n gwerthu eu heiddo.”—Actau 2:44, 45.

Ffaith: Mae’r adnodau hyn yn disgrifio trefniant dros dro, cafodd ei wneud i ofalu am anghenion materol rhai a oedd newydd gael eu bedyddio. Roedd yr unigolion hyn wedi dod i Jerwsalem i fynd i Ŵyl y Pentecost. (Actau 2:5) Ond, pan ddaethon nhw’n Gristnogion arhoson nhw yn Jerwsalem yn hirach na’r disgwyl, er mwyn cael dysgu mwy am eu ffydd newydd. O ganlyniad i hyn, aeth eu cyd-Gristnogion ati o’u gwirfodd i gyfrannu yr hyn oedd ganddyn nhw i ddarparu bwyd a llety iddyn nhw.—Actau 2:41, 42, 46, 47.

a Yn y Beibl mae’r teitl ARGLWYDD yn cyfeirio at enw Duw sef Jehofa.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

b I ddysgu pam gallwch chi drystio’r Beibl, gweler yr erthygl “Y Beibl—Ffynhonnell Ddibynadwy o Wirionedd.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu