LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mrt erthygl 49
  • Addoli Delwau—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Addoli Delwau—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
  • Pynciau Eraill
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut Gallwn Ni Addoli Mewn Ffordd Sy’n Plesio Duw?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Y Forwyn Fair—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud Amdani?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Pynciau Eraill
mrt erthygl 49
Y Pab Francis yn ymgrymu o flaen delw o’r Forwyn Fair.

BYDDWCH WYLIADWRUS!

Addoli Delwau—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Yn ôl y Gwasanaeth Newyddion Catholig, yn ystod seremoni ym Masilica Sant Pedr a gynhaliwyd ar Fawrth 25, 2022, safodd y Pab Francis gerbron cerflun o’r Forwyn Fair gyda’i “lygaid ar gau a’i ben wedi’i ymgrymu mewn gweddi ddistaw.” Aeth ati i “erfyn ar Fair” am heddwch. Ychwanegodd adroddiad newyddion o’r Fatican fod “y Pab wedi gweddïo’r Weithred o Gysegru’r ddynoliaeth, yn enwedig ar ran Rwsia ac Wcráin, a’r weddi honno yn cael ei chyfeirio at Galon Ddifrycheulyd Mair.”

Beth yw eich barn chi? Ydy hi’n briodol i weddïo gerbron delwau neu i’w defnyddio yn ein haddoliad? Ystyriwch yr adnodau canlynol:

  • “Paid cerfio eilun i’w addoli—dim byd sy’n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn. Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.”—Exodus 20:4, 5.

  • “Dydy eu heilunod nhw’n ddim ond arian ac aur wedi eu siapio gan ddwylo dynol. Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad; llygaid, ond allan nhw ddim gweld; clustiau, ond allan nhw ddim clywed; trwynau, ond allan nhw ddim arogli; dwylo, ond allan nhw ddim teimlo; traed, ond allan nhw ddim cerdded; a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn! Mae’r bobl sy’n eu gwneud nhw, a’r bobl sydd yn eu haddoli nhw, yn troi’n debyg iddyn nhw!”—Salm 115:4-8.

  • “Myfi yw Jehofah: Dyna yw fy enw, a’m gogoniant i arall ni roddaf: Na’m mawl i ddelwau.”—Eseia 42:8, Jenkins a Herbert Morgan.a

  • “Ffowch oddi wrth addoli eilun-dduwiau.”—1 Corinthiaid 10:14.

  • “Ymgadwch rhag eilunod.”—1 Ioan 5:21, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am ddefnyddio eilunod wrth addoli, darllenwch yr erthygl “The Bible’s Viewpoint—Images” neu gwyliwch y fideo Ydy Duw’n Cymeradwyo Defnyddio Eilunod Wrth Addoli?

Efallai bydd gynnoch chi ddiddordeb i weld beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am y pynciau hyn:

  • “Y Forwyn Fair—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud Amdani?”

  • “Should You Pray to the Virgin Mary?”

  • “Miracles and Apparitions—Signs From God?”

  • “Heddwch ar y Ddaear—Sut Bydd yn Cael ei Sefydlu?”

Cydnabod Ffotograffau: Vincenzo Pinto/AFP via Getty Images

a Jehofa yw enw personol Duw. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Gweler yr erthygl “Pwy Yw Jehofa?”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu