LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mrt erthygl 72
  • Ydy’r Gwir yn Bwysig Erbyn Hyn?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ydy’r Gwir yn Bwysig Erbyn Hyn?
  • Pynciau Eraill
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • A oes y fath beth â gwirionedd?
  • Sut gallwch chi gael hyd i’r gwir?
  • O le daeth celwyddau?
  • Pam mae dweud celwydd mor gyffredin heddiw?
  • Pam mae’r gwir yn bwysig?
  • Pam mae Duw am imi wybod y gwir?
  • A fydd Duw yn cael gwared ar gelwyddau?
  • Bydda’ i’n Cerdded yn Dy Wirionedd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • “Byw’n Ffyddlon i’r Gwir”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • “Pryn Wirionedd, a Phaid â’i Werthu”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
Pynciau Eraill
mrt erthygl 72
Gwleidydd yn cynhyrfu’r dorf mewn rali wleidyddol.

Ydy’r Gwir yn Bwysig Erbyn Hyn?

A ydych chi’n teimlo weithiau bod y ffin rhwng y gwir a’r gau wedi mynd yn aneglur heddiw? Mae pobl i’w gweld yn fwy parod i gael eu perswadio gan emosiynau a syniadau personol yn hytrach na gwirionedd a ffeithiau. Er enghraifft, bu cynnydd mawr yn ddiweddar yn y defnydd o’r gair “ôl-wirionedd,” a gafodd ei fathu i ddisgrifio’r sefyllfa hon.a Mae’n ddisgrifiad da o’r byd heddiw, lle mae llawer yn credu nad oes y fath beth â gwirionedd.

Nid yw’r safbwynt hwn yn un newydd. Ryw ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, gofynnodd y Llywodraethwr Rhufeinig Pontius Peilat i Iesu: “Y gwir? Beth ydy hwnnw?” (Ioan 18:38) Roedd Peilat yn sinigaidd, ac ni wnaeth aros am ateb. Ond eto, roedd ei gwestiwn yn un pwysig. Mae’r Beibl yn rhoi ateb a fydd efallai yn eich helpu chi i weld yn gliriach yn y byd ôl-wirionedd hwn.

A oes y fath beth â gwirionedd?

Oes. Mae’r Beibl yn defnyddio’r gair “gwirionedd” i gyfeirio at yr hyn sydd wedi’i seilio ar ffeithiau, yn ogystal â’r hyn sy’n foesol gywir. Mae’n dweud mai Jehofab Dduw yw ffynhonnell gwirionedd absoliwt, gan ei alw’n “ARGLWYDD DDUW y gwirionedd.” (Salm 31:5, Beibl Cysegr-lân) Mae’r Beibl yn cynnwys y gwirionedd oddi wrth Dduw, ac mae’n cymharu’r gwirionedd hwnnw â golau, gan ei fod yn gallu ein harwain ni drwy’r holl ddryswch sydd yn y byd heddiw.—Salm 43:3; Ioan 17:17.

Sut gallwch chi gael hyd i’r gwir?

Nid yw Duw yn disgwyl inni dderbyn y gwirioneddau yn y Beibl yn ddi-gwestiwn. Mae’n gofyn inni eu hystyried gan ddefnyddio ein gallu i feddwl, yn hytrach na dibynnu ar ein teimladau. (Rhufeiniaid 12:1) Y mae’n dymuno inni ddod i’w adnabod a’i garu drwy ddefnyddio ein “holl feddwl,” ac mae yn ein hannog ni i wneud yn siŵr bod y pethau rydyn ni’n ei dysgu yn wir.—Mathew 22:37, 38; Actau 17:11.

O le daeth celwyddau?

Mae’r Beibl yn dweud mai gelyn Duw, Satan oedd yr un cyntaf i ddweud celwydd. Mae’n galw Satan “yn dad i gelwydd.” (Ioan 8:44) Dywedodd Satan gelwyddau am Dduw wrth y bobl gyntaf. (Genesis 3:1-6, 13, 17-19; 5:5) Ers hynny, mae Satan wedi parhau i ledaenu celwyddau a chelu’r gwir am Dduw.—Datguddiad 12:9.

Pam mae dweud celwydd mor gyffredin heddiw?

Yn ein hoes ni, sy’n cael ei disgrifio fel “y dyddiau olaf” yn y Beibl, mae dylanwad drwg Satan wedi cynyddu. Peth cyffredin yw dweud celwyddau er mwyn camarwain eraill a manteisio arnyn nhw. (2 Timotheus 3:1, 13) Mae celwyddau hefyd yn gyffredin yn y rhan fwyaf o grefyddau heddiw. Fel y rhagwelodd y Beibl ar gyfer ein hamser ni, mae pobl yn “ceisio athrawon sy’n dweud wrthyn nhw beth maen nhw eisiau ei glywed,” gan ddewis “stopio gwrando ar y gwir.”—2 Timotheus 4:3, 4.

Arweinydd crefyddol gyda Beibl yn ei law yn siarad â chynulleidfa sy’n curo dwylo.

Pam mae’r gwir yn bwysig?

Heb y gwir, mae’n anodd iawn i bobl ymddiried yn ei gilydd. Os na allwn ni ymddiried mewn pobl eraill, mae cyfeillgarwch yn amhosib ac mae cymdeithas yn chwalu. Mae Duw yn dymuno inni ei addoli ar sail y gwir. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’n rhaid i’r bobl sy’n ei addoli wneud hynny â’r ysbryd ac yn unol â’r gwir.” (Ioan 4:24) I weld sut mae’r gwirioneddau yn y Beibl yn gallu eich helpu chi i adnabod celwyddau crefyddol a thorri’n rhydd o’u dylanwad, gweler y gyfres o erthyglau dan y teitl “Celwyddau Syʼn Gwneud Hiʼn Anodd Caru Duw.”

Pam mae Duw am imi wybod y gwir?

Mae Duw yn dymuno ichi fyw am byth, ac er mwyn gwneud hynny mae angen ichi ddysgu’r gwir amdano. (1 Timotheus 2:4) Drwy ddysgu a dilyn safonau Duw o ran beth sy’n dda neu’n ddrwg, byddwch chi’n dod yn ffrind iddo. (Salm 15:1, 2) Anfonodd Duw Iesu i’r ddaear i helpu pobl i ddeall y gwir. Mae Duw yn gofyn inni wrando ar ddysgeidiaeth Iesu.—Mathew 17:5; Ioan 18:37.

A fydd Duw yn cael gwared ar gelwyddau?

Bydd. Mae Duw yn casáu pob twyll. Y mae wedi addo cael gwared ar y rhai sy’n parhau i fanteisio ar eraill drwy ddweud celwyddau. (Salm 5:6) Pan fydd Duw yn gwneud hynny, fe fydd hefyd yn cyflawni ei addewid: “Gwefus gwirionedd a saif byth.”—Diarhebion 12:19, BC.

Adnodau o’r Beibl am y gwir ac am gelwyddau

Ioan 8:44: “[Mae’r Diafol] yn gelwyddog ac yn dad i gelwydd.”

Ystyr: Satan y Diafol a ddywedodd y celwydd cyntaf, ac ef yn y pen draw yw ffynhonnell pob anwiredd.

Diarhebion 12:22: “Mae’n gas gan yr ARGLWYDD gelwydd.”

Ystyr: Dylai’r rhai sy’n caru Duw gasáu celwyddau fel mae Duw yn casáu celwyddau.

Ioan 4:24: “Mae’n rhaid i’r bobl sy’n [addoli Duw] wneud hynny â’r ysbryd ac yn unol â’r gwir.”

Ystyr: Mae Duw yn dymuno inni ei addoli ar sail y gwir amdano.

Ioan 8:32: “Fe fydd y gwir yn eich rhyddhau chi.”

Ystyr: Mae’r gwirioneddau a ddysgodd Iesu yn gallu ein rhyddhau rhag anwybodaeth, ofergoelion, celwyddau crefyddol, a mwy. Gweler yr erthygl “‘The Truth Will Set You Free’—How?”

1 Timotheus 2:4: “[Mae Duw yn] dymuno gweld pobl o bob math yn cael eu hachub ac yn cael gwybodaeth gywir am y gwir.”

Ystyr: Mae Duw yn dymuno inni gael ein hachub drwy ddysgu’r gwir amdano.

a Dewiswyd y gair “post-truth” yn air y flwyddyn yn 2016 gan Eiriaduron Rhydychen.

b Jehofa yw enw personol Duw. (Salm 83:18, BC) Gweler yr erthygl “Pwy Yw Jehofa?”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu