Chwith uchaf: Marek M. Berezowski/Anadolu Agency via Getty Images; chwith isaf: Halfpoint Images/Moment via Getty Images; canol: Zhai Yujia/China News Service/VCG via Getty Images; dde uchaf: Ismail Sen/Anadolu Agency via Getty Images; dde isaf: E+/taseffski/via Getty Images
BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
2023: Blwyddyn Llawn Pryderon—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
Yn ystod 2023, roedd digwyddiadau ledled y byd yn rhoi tystiolaeth gadarn ein bod ni’n byw yn y cyfnod mae’r Beibl yn ei alw “y dyddiau olaf.” (2 Timotheus 3:1) Sylwch ar y ffordd mae digwyddiadau cyfoes yn cyd-fynd â’r hyn mae’r Beibl wedi ei ragweld ar gyfer ein hoes ni.
Y Beibl a digwyddiadau byd-eang
‘Rhyfeloedd a . . . sôn am ryfeloedd.’—Mathew 24:6.
“Mae gwrthdaro ffyrnig ar gynnydd mewn llawer rhan o’r byd.”a
Gweler yr erthyglau “Pwy Fydd yn Achub y Bobl Gyffredin?” a “World Military Spending Surpasses $2 Trillion.”
‘Daeargrynfeydd yn un lle ar ôl y llall.’—Marc 13:8.
“Ers dechrau 2023, cafwyd 13 o ddaeargrynfeydd maint 7 neu fwy. Mae hynny ymhlith y nifer uchaf ers dechrau cadw cofnodion.”b
Gweler yr erthygl “Daeargrynfeydd Dinistriol yn Taro Twrci a Syria.”
“Pethau dychrynllyd.”—Luc 21:11.
“Mae oes cynhesu byd-eang wedi dod i ben; mae oes berwi byd-eang wedi cyrraedd.”—António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.c
Gweler yr erthygl “Tywydd Poeth Eithafol Haf 2023.”
‘Prinder bwyd.’—Mathew 24:7.
“2023: Blwyddyn arall o bryderon difrifol i’r rhai sy’n cael trafferth bwydo eu teuluoedd.”d
Gweler yr erthygl “Rhyfel a Newid Hinsawdd yn Sbarduno Argyfwng Bwyd Byd Eang.”
“Sefyllfa [sy’n] hynod o anodd ac yn beryglus.”—2 Timotheus 3:1.
“Mae un ym mhob wyth o bobl yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl.”e
Gweler yr erthygl “Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn Gwaethygu.”
Beth gallwn ni ei ddisgwyl yn 2024?
Nid oes neb yn gallu dweud yn union beth fydd yn digwydd yn 2024. Ond mae’r hyn sy’n digwydd yn y byd yn dangos y bydd Teyrnas Dduw, ei lywodraeth nefol, yn disodli pob llywodraeth ddynol cyn bo hir, ac yn cael gwared ar bopeth sy’n achosi dioddefaint a phryder.—Daniel 2:44; Datguddiad 21:4.
Yn y cyfamser, gallwn ni droi at Dduw am help pan fyddwn ni’n teimlo’n bryderus. Mae’r Beibl yn dweud:
”Pan mae gen i ofn, dw i’n dy drystio di.”—Salm 56:3.
Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ymddiried yn Nuw? Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ddysgu mwy am yr addewidion yn y Beibl am ddyfodol heb unrhyw ddioddefaint. Rhowch gynnig ar gwrs rhyngweithiol am y Beibl am ddim i weld sut mae’r addewidion yn y Beibl yn gallu eich helpu chi a’ch teulu.
a Foreign Affairs, “A World at War: What Is Behind the Global Explosion of Violent Conflict?” gan Emma Beals a Peter Salisbury, 30 Hydref, 2023.
b Earthquake News, “Year 2023: Number of Major Earthquakes on Course for Record,” Mai, 2023.
c Y Cenhedloedd Unedig, “Secretary-General’s Opening Remarks at Press Conference on Climate,” 27 Gorffennaf, 2023.
d Rhaglen Bwyd y Byd, “A Global Food Crisis.”
e Sefydliad Iechyd y Byd, “World Mental Health Day 2023,” 10 Hydref, 2023.