AspctStyle/stock.adobe.com
Bydd Iesu yn Rhoi Terfyn ar Ryfeloedd
Pan oedd Iesu ar y ddaear, dangosodd gariad mawr tuag at bobl, gan hyd yn oed aberthu ei fywyd drostyn nhw. (Mathew 20:28; Ioan 15:13) Yn fuan, bydd yn dangos ei gariad unwaith eto drwy ddefnyddio ei awdurdod fel Brenin Teyrnas Dduw i ‘ddod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan.’—Salm 46:9.
Sylwch ar sut mae’r Beibl yn disgrifio beth mae Iesu’n mynd i’w wneud:
“Mae’n achub y rhai sy’n galw arno mewn angen, a’r tlawd sydd heb neb i’w helpu. Mae’n gofalu am y gwan a’r anghenus, ac yn achub y tlodion. Mae’n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais.”—Salm 72:12-14.
Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am bopeth mae Iesu wedi ei wneud droston ni ac y bydd yn ei wneud yn y dyfodol? Un ffordd yw drwy ddysgu mwy am neges Iesu, y “newyddion da am Deyrnas Dduw.” (Luc 4:43) Darllenwch yr erthygl “Beth Yw Teyrnas Dduw?”