LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mrt erthygl 114 erthygl 14
  • Drygioni yn Cynyddu ar Draws y Byd—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Drygioni yn Cynyddu ar Draws y Byd—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
  • Pynciau Eraill
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth ragfynegodd y Beibl am ddrygioni?
  • Beth Yw Arwyddion y “Dyddiau Diwethaf” neu’r “Cyfnod Olaf”?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Gobaith
    Deffrwch!—2018
  • Bydd Iesu’n Rhoi Terfyn ar Droseddu
    Pynciau Eraill
  • A Wnaeth y Beibl Ragfynegi Meddylfryd ac Ymddygiad Pobl Heddiw?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Pynciau Eraill
mrt erthygl 114 erthygl 14
Ffenestr siop wedi ei thorri. Pobl yn dwyn o’r siop.

Yan Zabolotnyi/stock.adobe.com

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Drygioni yn Cynyddu ar Draws y Byd—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Mae gangiau yn rhemp yn Haiti. Mae troseddu treisgar yn bla yn Ne Affrica a Mecsico, a gwledydd eraill yn America Ladin. Hyd yn oed mewn llefydd lle mae trais wedi lleihau, mae pobl yn dal i deimlo’n bryderus o glywed newyddion am ladrata, tanau bwriadol, a fandaliaeth.

Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y drygioni sy’n digwydd ar draws y byd?

Beth ragfynegodd y Beibl am ddrygioni?

Mae’r Beibl yn dweud y byddai drygioni yn rhan o’r arwydd ein bod ni’n byw yn ystod ‘cyfnod olaf y system hon.’ (Mathew 24:3) Pan ddisgrifiodd Iesu Grist y digwyddiadau a fyddai’n rhan o’r arwydd hwnnw, dywedodd:

  • “Oherwydd bod drygioni yn cynyddu, bydd cariad y rhan fwyaf o bobl yn oeri.”—Mathew 24:12.

Dywedodd y Beibl hefyd y byddai pobl “heb hunanreolaeth, yn ffyrnig, heb gariad at ddaioni” yn y dyddiau olaf. (2 Timotheus 3:1-5) Mae nodweddion o’r fath yn cyfrannu at y drygioni rydyn ni’n ei weld heddiw.

Ond mae yna obaith. Mae’r Beibl yn addo y bydd drygioni yn dod i ben yn fuan.

  • “Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig! Byddi’n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd. Y rhai sy’n cael eu cam-drin fydd yn meddiannu’r tir, a byddan nhw’n mwynhau heddwch a llwyddiant.”—Salm 37:10, 11.

Dysgwch fwy am beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ein dyfodol a pham gallwn ni fod yn sicr bod y digwyddiadau o’n cwmpas yn cyflawni proffwydoliaeth y Beibl. Gwelwch yr erthyglau canlynol:

“Gobaith Go Iawn am Ddyfodol Gwell”

“Beth Yw Arwyddion y ‘Dyddiau Diwethaf’ neu’r ‘Cyfnod Olaf’?”

“A Wnaeth y Beibl Ragfynegi Meddylfryd ac Ymddygiad Pobl Heddiw?”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu