Helyntion Gwleidyddol Sy’n Cyflawni Proffwydoliaeth y Beibl
Heddiw gwelwn wahaniaethau barn difrifol ar faterion gwleidyddol. Mae pobl yn anghytuno’n gryf dros y deddfau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, ac yn mynegi eu barn yn chwyrn. Yn aml, mewn llywodraethau, ceir gwahaniaeth barn sylfaenol ymhlith y rhai sy’n creu deddfwriaeth a swyddogion eraill, a neb yn fodlon ildio. Mae’r fath wahaniaethau yn arwain at helyntion gwleidyddol sy’n rhwystro llywodraethau rhag gwneud eu gwaith.
Ond mae’r helyntion gwleidyddol yn yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig yn arbennig o arwyddocaol. Pam? Oherwydd mae’r Beibl wedi rhagweld y cynnwrf yn y ddwy wlad hyn, a hynny ar yr union adeg y byddai Duw yn sefydlu llywodraeth nefol a fyddai’n newid pethau ar y ddaear yn llwyr.
Helyntion gwleidyddol “yn y dyddiau diwethaf”
Mae llyfr Daniel yn y Beibl yn cynnwys proffwydoliaeth ryfeddol. Yno, mae Duw yn datgelu beth fyddai’n digwydd “yn y dyddiau diwethaf.” Pan ysgrifennodd Daniel y geiriau hyn, roedd yn cyfeirio at gyfnod yn y dyfodol, a fyddai’n drobwynt yn hanes y ddynoliaeth.—Daniel 2:28, Beibl Cysegr-lân.
Cyflwynwyd y broffwydoliaeth mewn breuddwyd a gafodd brenin Babilon oddi wrth Dduw. Yn y freuddwyd, gwelodd y brenin ddelw anferth wedi ei gwneud o fetelau gwahanol. Yn nes ymlaen, esboniodd y proffwyd Daniel fod y ddelw, o’r pen i’r traed, yn cynrychioli grymoedd y byd a fyddai’n codi ac yn cwympo drwy gydol hanes.a Yn y pen draw, byddai’r ddelw yn cael ei dinistrio’n llwyr ar ôl cael ei tharo gan garreg sy’n cynrychioli Teyrnas, neu lywodraeth, wedi ei sefydlu gan Dduw.—Daniel 2:36-45. Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
Yn ôl y broffwydoliaeth, byddai Teyrnas Dduw yn disodli pob llywodraeth ddynol. Y Deyrnas hon ydy’r un roedd Iesu yn sôn amdani pan ddywedodd wrth ei ddisgyblion am weddïo “Gad i dy Deyrnas ddod.”—Mathew 6:10.
Ond sut mae’r broffwydoliaeth yn rhagweld helyntion gwleidyddol? Sylwch fod traed y ddelw “yn gymysgedd o haearn a chlai.” (Daniel 2:33, BCND) Roedd hynny yn wahanol i rannau eraill o’r ddelw a oedd wedi eu gwneud o fetelau pur, felly byddai un grym byd yn wahanol i’r lleill. Ym mha ffordd? Mae proffwydoliaeth Daniel yn esbonio:
Yn ôl y broffwydoliaeth, byddai’r grym byd sy’n cael ei gynrychioli gan draed y ddelw yn wynebu helbul gwleidyddol. Byddai’n anodd iddo aros yn gryf oherwydd agweddau ei ddinasyddion ei hun.
Cyflawniad proffwydoliaeth Daniel heddiw
Mae traed y ddelw yn cynrychioli’r grym byd mwyaf dylanwadol heddiw, sef y bartneriaeth rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig. Sut mae digwyddiadau ein hamser ni’n cefnogi’r casgliad hwnnw?
Mae traed y ddelw ‘yn gymysg o haearn ac o glai,’ cyfuniad sy’n hanfodol wan. (Daniel 2:42, BCND) Heddiw, mae grym yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig fel ei gilydd wedi ei leihau gan raniadau ymhlith eu pobloedd eu hunain. Er enghraifft, mae’r ddwy wlad wedi gweld gwrthdaro ymhlith eu dinasyddion. Mae protestiadau wedi troi’n dreisgar. Mae’r rhai sydd wedi eu hethol yn aml yn methu dod i gytundeb mwyafrifol. Gan fod pobl mor rhanedig, ar adegau mae llywodraethau’r ddwy wlad wedi methu rhoi eu polisïau ar waith mewn ffordd effeithiol.
Mae Daniel pennod 2 yn rhagweld sefyllfa llywodraethau heddiw
Ystyriwch ystyr rhai o’r manylion ym mhroffwydoliaeth Daniel a sut maen nhw’n cael eu cyflawni heddiw:
Proffwydoliaeth: “Bydd brenhiniaeth ranedig; bydd peth ohoni’n gryf fel haearn.”—Daniel 2:41, BCND.
Ystyr: Er gwaethaf y rhaniadau gwleidyddol mewnol, mae’r Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig yn cadw lluoedd arfog pwerus. Oherwydd hynny maen nhw’n gallu gweithredu ag awdurdod haearnaidd.
Cyflawniad
Ar restr o wario milwrol ar gyfer 2023, gwelwn fod yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig gyda’i gilydd wedi gwario mwy na chyfanswm gwario y 12 gwlad nesaf.
“Y bartneriaeth sydd wedi datblygu rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig ar amddiffyn . . . yw’r un gryfaf a mwyaf soffistigedig rhwng unrhyw ddwy wlad yn y byd. . . . Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, rydyn ni’n sefyll gyda’n gilydd, rydyn ni’n ymladd gyda’n gilydd.”—Strategic Command, Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU, Ebrill 2024.
Proffwydoliaeth: “Ac fel yr oedd bysedd y traed yn gymysg o haearn ac o glai, felly y bydd rhan o’r frenhiniaeth yn gryf a rhan yn wan.”—Daniel 2:42, BCND.
Ystyr: Er gwaethaf eu cryfder milwrol, mae natur ddemocrataidd yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig yn cyfyngu ar yr hyn mae’r llywodraethau yn gallu ei wneud. Heb gymeradwyaeth mwyafrif pendant, gall fod yn anodd i’r llywodraethau wireddu eu cynlluniau.
Cyflawniad
“Yn ôl rhai dadansoddwyr gwleidyddol, mae’r rhaniadau yng ngwleidyddiaeth America hefyd yn cyfyngu ar allu [yr Unol Daleithiau] i fynd â’r maen i’r wal ar lwyfan y byd mewn materion fel diogelwch a busnes.”—“The Wall Street Journal.”
“Mae’r helyntion gwleidyddol wedi tynnu sylw gwleidyddion, ac wedi rhwystro’r gwasanaeth sifilb rhag symud diwygiadau’r llywodraeth [Brydeinig] yn eu blaen.”—Institute for Government.
Proffwydoliaeth: “Byddant hwy [y deyrnas] yn priodi trwy’i gilydd [yn cael eu cymysgu â’r bobl gyffredin, Cyfieithiad y Byd Newydd, troednodyn]; ond ni lŷn y naill wrth y llall.”—Daniel 2:43, BCND.
Ystyr: Mae pobl gyffredin yn cael lleisio eu barn, ond nid yw’r swyddogion na’r pleidleiswyr yn hollol fodlon ar y canlyniadau.
Cyflawniad
“Heddiw mae agwedd Americanwyr tuag at wleidyddiaeth a swyddogion etholedig yn gyson negyddol.”—Pew Research Centre.
“Mae ffydd mewn llywodraethau a gwleidyddion, a hyder mewn systemau llywodraeth mor isel heddiw ag y bu erioed yn y pum deg mlynedd ddiwethaf, os nad yn is.”—“Canolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol.”
Proffwydoliaeth Daniel—y dyfodol
Yn ôl proffwydoliaeth Daniel, y bartneriaeth rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig fydd y grym mawr yn y byd pan fydd Teyrnas Dduw yn disodli pob llywodraeth ddynol.—Daniel 2:44.
Mewn proffwydoliaeth gyfatebol yn llyfr Datguddiad, mae’r Beibl yn dangos y bydd ‘brenhinoedd y ddaear gyfan’ yn cael eu casglu at ei gilydd “ar gyfer rhyfel dydd mawr Duw’r Hollalluog,” neu Armagedon. (Datguddiad 16:14, 16; 19:19-21) Yn ystod y rhyfel hwn, bydd Jehofac Dduw yn dinistrio pob llywodraeth ddynol, gan ddileu pob arlliw o’r grymoedd a gynrychiolwyd gan y ddelw ym mhroffwydoliaeth Daniel.
I ddysgu mwy, gweler yr erthygl “Beth yw Rhyfel Armagedon?”
Manteision deall proffwydoliaeth Daniel am yr helyntion gwleidyddol
Mae’r Beibl wedi rhagweld yr helyntion gwleidyddol a welwn ni heddiw yn yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig, a bydd deall y broffwydoliaeth yn rhoi golwg gwahanol ichi ar yr hyn sy’n digwydd.
Byddwch chi’n dod i ddeall pam roedd Iesu eisiau i’w ddilynwyr aros yn niwtral o ran gwleidyddiaeth y byd hwn. (Ioan 17:16) A byddwch chi’n deall hefyd pam mae Iesu, yr un mae Duw wedi ei ddewis i fod yn frenin ar ei Deyrnas, wedi dweud: “Dydy fy Nheyrnas i ddim yn rhan o’r byd hwn.”—Ioan 18:36.
Bydd gwybod bod Teyrnas Dduw yn mynd i weithredu yn fuan a dod â bendithion di-rif i’r ddynoliaeth yn codi eich calon.—Datguddiad 21:3, 4.
Byddwch chi’n teimlo’n hyderus am y dyfodol, heb orfod poeni bod y gwrthdaro rhwng cenhedloedd yn mynd i ddinistrio’r byd.—Salm 37:11, 29.
Mae proffwydoliaeth Daniel yn dangos mai’r gynghrair rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig, a gynrychiolir gan draed y ddelw, fydd y grym byd dynol olaf i reoli dros y ddaear. Bydd yn cael ei ddisodli gan lywodraeth berffaith a fydd yn rheoli o’r nefoedd—Teyrnas Dduw!
I ddysgu mwy am beth bydd Teyrnas Dduw yn ei wneud ar gyfer dynolryw, gwyliwch y fideo Beth Yw Teyrnas Dduw?
a Gweler y blwch “Pa Rymoedd y Byd Mae Proffwydoliaeth Daniel yn Eu Disgrifio?”
b Y gwasanaeth sifil ydy’r “canghennau parhaol, gweinyddol y wladwriaeth ac eithrio’r gwasanaethau milwrol, y farnwriaeth, a’r gwleidyddion etholedig.”—Gweiadur.
c Jehofa yw enw personol Duw. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Gweler yr erthygl “Pwy Yw Jehofa?”