LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwfq erthygl 61
  • Sut Mae Tystion Jehofa yn Defnyddio Cyfraniadau?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Mae Tystion Jehofa yn Defnyddio Cyfraniadau?
  • Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Rhai o’n Gweithgareddau
  • Cyfraniad i Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Sut Mae Ein Gwaith Byd-Eang yn Cael ei Ariannu?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
  • Diolch i Jehofa am Eich Cariad
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Defnyddio’r Hyn Sydd Dros Ben i Gyflenwi Diffyg
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
Gweld Mwy
Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
ijwfq erthygl 61
Collage: Rhai o weithgareddau crefyddol a dyngarol Tystion Jehofa sy’n cael eu cynnal drwy gyfraniadau. 1. Tystion yn adeiladu Neuadd y Deyrnas. 2. Tyst sydd wedi gwirfoddoli yn rhoi dŵr i ddynes mewn angen. 3. Tyst yn siarad â dynes am bwnc yn y llyfryn ”Mwynhewch Fywyd am Byth.”

Sut Mae Tystion Jehofa yn Defnyddio Cyfraniadau?

Rydyn ni’n defnyddio cyfraniadau i gynnal ein gweithgareddau crefyddol a dyngarol. Mae’r gweithgareddau hyn yn rhan o’n prif genhadaeth, a hynny yw helpu pobl i ddod yn ddisgyblion i Iesu Grist.—Mathew 28:19, 20.

Dydyn ni byth yn defnyddio cyfraniadau i wneud unigolion yn gyfoethog. Dydyn ni ddim yn talu cyflog i henuriaid neu weinidogion, ac dydy Tystion Jehofa ddim yn derbyn cyflog am fynd o ddrws i ddrws. Mae’r rhai sy’n gwasanaethu yn ein swyddfeydd cangen ac yn ein pencadlys, gan gynnwys y rhai sydd ar y Corff Llywodraethol, yn aelodau digyflog o urdd grefyddol.

Rhai o’n Gweithgareddau

  • Cyhoeddi: Rydyn ni’n cyfieithu, argraffu, a dosbarthu miliynau o Feiblau a chyhoeddiadau Cristnogol eraill bob blwyddyn, i gyd am ddim. Yn yr un modd, ar ein gwefan jw.org ac ar yr ap JW Library, mae ein cyhoeddiadau digidol ar gael am ddim a heb hysbysebion.

    Un o Dystion Jehofa mewn argraffdy yn sicrhau bod Beibl newydd ei argraffu yn cwrdd â’r safonau.
  • Adeiladu a Gwaith Cynnal a Chadw: Rydyn ni’n adeiladau ac edrych ar ôl addoldai syml trwy’r byd fel y gall cynulleidfaoedd gynnal cyfarfodydd a moli Duw. Rydyn ni’n gwneud yr un peth i ddarparu swyddfeydd cangen a swyddfeydd cyfieithu. Mae gwirfoddolwyr yn gwneud llawer o’r gwaith, sydd yn helpu i leihau costau.

    Tyst yn gosod sgaffaldau y tu allan i addoldy.
  • Gwaith Gweinyddol: Rydyn ni’n defnyddio arian a roddir at ein gwaith byd-eang i gynnal gwaith ein pencadlys, swyddfeydd cangen a swyddfeydd cyfieithu, yn ogystal â gwaith ein gweinidogion teithiol.

    Un o Dystion Jehofa yn gwneud gwaith gweinyddol wrth ddesg.
  • Rhannu’r Newyddion Da: Dydy Tystion ddim yn cael eu talu am rannu’r newyddion da nac am ddysgu eraill am “neges Duw.” (2 Corinthiaid 2:17) Sut bynnag, yn debyg i’r hyn a wnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf, mae rhai gweinidogion sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y gwaith pregethu, yn derbyn llety syml ac anghenion bywyd.—Philipiaid 4:16, 17; 1 Timotheus 5:17, 18.

    Dau dyst yn y weinidogaeth yn dangos fideo am y Beibl i ddyn.
  • Hyfforddiant: Mae ein cynulliadau a’n cynadleddau hefyd yn cael eu cynnal gan gyfraniadau. Ar ben hynny, rydyn ni’n creu rhaglenni sain a fideo sy’n esbonio’r Beibl. Hefyd rydyn ni’n cynnal ysgolion sy’n hyfforddi henuriaid a gweinidogion llawn amser i fod yn fwy effeithiol yn eu gwaith.

    Pobl yn gwylio fideo mewn cynhadledd fawr.
  • Cymorth ar ôl Trychinebau: Rydyn ni’n darparu bwyd, dŵr, a lloches i’r rhai sy’n dioddef yn sgil trychinebau. Mae’r gwaith dyngarol hwn yn helpu nid yn unig ein “teulu o gredinwyr” ond hefyd pobl sydd heb fod yn Dystion.—Galatiaid 6:10.

    Tystion mewn stordy yn paratoi nwyddau cymorth dyngarol.
    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu