Pam Mae Tystion Jehofa yn Ymwrthod yn Gwrtais â Chymryd Rhan Mewn Seremonïau Cenedlaetholgar?
Mae Tystion Jehofa yn parchu llywodraethau a’u symbolau cenedlaethol. Rydyn ni’n derbyn y ffaith y gall eraill ddewis tyngu llw o deyrngarwch, saliwtio’r faner, neu ganu anthem genedlaethol.
Ond, mae Tystion Jehofa yn dewis peidio â chymryd rhan yn y fath seremonïau am ein bod ni’n credu eu bod yn mynd yn erbyn dysgeidiaethau’r Beibl. Gwerthfawrogwn gael yr un parch at ein daliadau ni ag y rydyn ni’n dangos tuag at eraill sy’n gwneud penderfyniad gwahanol.
Yn yr erthygl hon
Pa egwyddorion Beiblaidd sy’n berthnasol?
Dyma’r ddwy ddysgeidiaeth Feiblaidd allweddol sy’n llywio ein penderfyniad:
Duw yn unig sy’n haeddu ein haddoliad. Mae’r Beibl yn dweud: “Jehofa dy Dduw y dylet ti ei addoli, ac ef yn unig y dylet ti ei wasanaethu.” (Luc 4:8) Yn aml, mae llwon o deyrngarwch ac anthemau cenedlaethol yn cynnwys geiriau sy’n addo defosiwn i wlad uwchben popeth arall. Felly, mae Tystion Jehofa yn teimlo ei bod hi’n anghywir iddyn nhw gymryd rhan yn y fath seremonïau.
Yn yr un modd, mae Tystion Jehofa yn teimlo bod saliwtio’r faner yn gyfystyr ag addoli eilunod—rhywbeth sy’n cael ei wahardd yn y Beibl. (1 Corinthiaid 10:14) Mae rhai haneswyr yn cydnabod mai symbolau crefyddol ydy baneri cenedlaethol, mewn gwirionedd. “Mae Cenedlaetholdeb yn debyg i grefydd, a symbol ei ffydd ydy’r faner,” meddai’r hanesydd Carlton J. H. Hayes.a Ac wrth sôn am Gristnogion cynnar, dywedodd yr awdur Daniel P. Mannix: “Gwrthododd y Cristnogion . . . wneud aberthau i’r ymerawdwr [Rhufeinig]. Heddiw, fyddai hynny’n debyg i wrthod saliwtio’r faner.”b
Er nad ydy Tystion Jehofa’n saliwtio’r faner, dydyn ni ddim chwaith yn ei fandaleiddio, ei llosgi, neu mewn unrhyw ffordd arall ei hamharchu hi nac unrhyw symbol cenedlaethol arall.
O flaen Duw, mae pawb yn gyfartal. (Actau 10:34, 35) Mae’r Beibl yn dweud am Dduw: “Allan o un dyn, fe wnaeth ef bob cenedl o ddynion.” (Actau 17:26) Am y rheswm hwn, mae Tystion Jehofa yn teimlo y byddai’n anghywir i ystyried un grŵp ethnig neu genedl yn uwch nag eraill. Rydyn ni’n parchu pawb, ni waeth lle maen nhw’n byw na beth yw eu cefndir.—1 Pedr 2:17.
Beth petai hi’n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i gymryd rhan?
Dydy Tystion Jehofa ddim yn erbyn llywodraethau. Rydyn ni’n credu bod Duw yn caniatáu i lywodraethau bodoli fel rhan o’i “drefn.” (Rhufeiniaid 13:1-7) Rydyn ni hefyd yn credu y dylai Cristnogion ufuddhau i awdurdodau seciwlar.—Luc 20:25.
Ond beth petai ’na wrthdaro rhwng cyfreithiau seciwlar a chyfreithiau Duw? Mewn rhai achosion, mae’n bosib gofyn i’r llywodraeth addasu’r gyfraith drwy wneud cais swyddogol.c Pan nad oes modd ei newid, mae Tystion Jehofa yn dewis yn barchus i “ufuddhau i Dduw fel rheolwr yn hytrach nag i ddynion.”—Actau 5:29.
Ydy Tystion Jehofa yn ceisio gwneud safiad gwleidyddol neu gymdeithasol?
Nac ydyn. Dydy Tystion Jehofa ddim yn cymryd ochr mewn materion gwleidyddol na chymdeithasol. Rydyn ni’n gwrthod tyngu llwon o deyrngarwch, saliwtio’r faner, a chanu anthem genedlaethol, nid oherwydd ein bod ni’n ymgyrchwyr gwleidyddol, ond am ein bod ni’n glynu at ein daliadau Beiblaidd ynglŷn â’r seremonïau hynny.
a Essays on Nationalism, tudalennau 107-108.
b The Way of the Gladiator, tudalen 212.
c Er enghraifft, gweler yr erthygl “A Stand of Courage and Conscience Established Supreme Court Precedent 75 Years Ago.”