LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 25
  • Heddwch ar y Ddaear—Sut Bydd yn Cael ei Sefydlu?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Heddwch ar y Ddaear—Sut Bydd yn Cael ei Sefydlu?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Ateb y Beibl
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 25
Pobl o grwpiau ethnig gwahanol

Heddwch ar y Ddaear​—Sut Bydd yn Cael ei Sefydlu?

Ateb y Beibl

Daw heddwch ar y ddaear, nid drwy ymdrechion dynion, ond drwy Deyrnas Dduw, llywodraeth nefol gyda Iesu Grist yn ben arni. Sylwch beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am y gobaith hyfryd hwn.

  1. Bydd Duw yn “dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan,” gan gyflawni ei addewid i ddod â “heddwch ar y ddaear i’r rhai sydd â’u bwriad yn dda.”—Salm 46:9; Luc 2:14, Y Ffordd Newydd.

  2. Bydd Teyrnas Dduw yn rheoli o’r nefoedd dros y ddaear gyfan. (Daniel 7:14) A hithau’n un llywodraeth dros y byd i gyd, bydd hyn yn fodd i gael gwared ar genedlaetholdeb, sydd wrth wraidd llawer o wrthdaro.

  3. Mae Iesu, Rheolwr Teyrnas Dduw, yn cael ei alw’n “Tywysog Heddwch.” Bydd yn sicrhau bod yr addewid am ei deyrnasiad yn dod yn wir: “Ni bydd diwedd ar . . . ei heddwch.”—Eseia 9:6, 7, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

  4. Fydd pobl sydd ddim yn rhoi’r gorau i gwffio ddim yn cael byw o dan y Deyrnas, am fod Duw’n ‘casáu’r rhai sy’n hoffi trais.’—Salm 11:5; Diarhebion 2:22.

  5. Mae Duw yn dysgu ei bobl sut i fyw mewn heddwch. Yn ôl y Beibl, dyma ganlyniad yr hyfforddiant: “Byddan nhw’n curo eu cleddyfau yn sychau aradr a’u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.”—Eseia 2:3, 4.

O gwmpas y byd, mae miliynau o Dystion Jehofa eisoes yn dysgu oddi wrth Dduw sut i fod yn heddychlon. (Mathew 5:9) Er inni berthyn i lawer o grwpiau ethnig gwahanol ac yn byw mewn dros 230 o wahanol wledydd, gwrthodwn godi arfau yn erbyn ein cyd-ddyn.

Mae Tystion Jehofa yn dysgu ffyrdd heddwch heddiw

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu