LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwfq erthygl 15
  • Beth Yw’r Cwrs am y Beibl Mae Tystion Jehofa yn Ei Gynnig?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw’r Cwrs am y Beibl Mae Tystion Jehofa yn Ei Gynnig?
  • Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth sy’n digwydd mewn sesiwn astudio’r Beibl?
  • A oes rhaid i mi dalu am y cwrs?
  • Pa mor hir yw’r cwrs?
  • Sut ydw i’n dechrau?
  • Ga i wneud sesiwn blasu?
  • Os ydw i’n astudio’r Beibl, a fydda i’n dod dan bwysau i ddod yn un o Dystion Jehofa?
  • Ga i ddefnyddio fy Meibl fy hun?
  • Ga i wahodd eraill i ymuno yn y sesiwn astudio?
  • Os ydw i wedi astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa yn y gorffennol, a alla i astudio eto?
  • A oes modd astudio’r Beibl heb athro?
  • Ydych chi wedi mwynhau’r gwersi hyn?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Gwersi Agoriadol am y Beibl
  • Sut i Ddefnyddio’r Fideos Sy’n Ymwneud ag Astudio’r Beibl
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Fyddech Chi’n Hoffi Gwybod Rhagor Am y Beibl?
    Fyddech Chi’n Hoffi Gwybod Rhagor am y Beibl?
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dangos i’r Deiliad Sut i Astudio’r Beibl
    Ein Gweinidogaeth—2014
Gweld Mwy
Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
ijwfq erthygl 15
Un o Dystion Jehofa yn defnyddio’r llyfryn “Mwynhewch Fywyd am Byth!” i astudio’r Beibl gyda dyn.

Beth Yw’r Cwrs am y Beibl Mae Tystion Jehofa yn Ei Gynnig?

Mae Tystion Jehofa yn cynnig ffordd hawdd ac ymarferol ichi ddysgu beth mae’r Beibl yn ei ddweud. Bydd ein rhaglen astudio’r Beibl yn eich helpu chi:

  • I gael bywyd hapus

  • I ddod yn ffrind i Dduw

  • I ddysgu am beth mae’r Beibl yn ei addo ar gyfer y dyfodol

Ar y dudalen hon

  • Beth sy’n digwydd mewn sesiwn astudio’r Beibl?

  • A oes rhaid i mi dalu am y cwrs?

  • Pa mor hir yw’r cwrs?

  • Sut ydw i’n dechrau?

  • Ga i wneud sesiwn blasu?

  • Os ydw i’n astudio’r Beibl, a fydda i’n dod dan bwysau i ddod yn un o Dystion Jehofa?

  • Ga i ddefnyddio fy Meibl fy hun?

  • Ga i wahodd eraill i ymuno yn y sesiwn astudio?

  • Os ydw i wedi astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa yn y gorffennol, a alla i astudio eto?

  • A oes modd astudio’r Beibl heb athro?

Beth sy’n digwydd mewn sesiwn astudio’r Beibl?

Bydd athro neu athrawes yn eich helpu chi i ddod i adnabod y Beibl fesul pwnc. Byddwch chi’n defnyddio’r cwrs rhyngweithiol Mwynhewch Fywyd am Byth! i ddysgu beth mae’r Beibl yn ei ddweud a sut mae’n gallu eich helpu. I wybod mwy, gwyliwch y fideo hwn.

A oes rhaid i mi dalu am y cwrs?

Nac oes. Mae Tystion Jehofa yn dilyn cyngor Iesu i’w ddisgyblion:, “Rhowch yn rhad ac am ddim.” (Mathew 10:8) Hefyd, nid oes rhaid talu am y cwrslyfrau sy’n cynnwys copi o’r Beibl a chopi o’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!

Pa mor hir yw’r cwrs?

Mae’r cwrs cyfan yn cynnwys 60 gwers. Cewch chi benderfynu pa mor gyflym rydych chi eisiau mynd, ond mae llawer o bobl yn mwynhau astudio un wers neu ddwy bob wythnos.

Sut ydw i’n dechrau?

  1. 1. Llenwch y ffurflen ar-lein. Defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol dim ond i gwblhau eich cais er mwyn i un o Dystion Jehofa gysylltu â chi.

  2. 2. Bydd athro yn cysylltu â chi. Bydd eich athro yn esbonio sut mae’r cwrs rhyngweithiol yn gweithio ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gynnoch chi.

  3. 3. Gallwch chi a’ch athro wneud y trefniadau. Cewch astudio wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy fideo, post, neu e-bost. Mae sesiynau astudio fel arfer yn para tua awr, ond gallan nhw fod yn fyrrach neu’n hirach yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Ga i wneud sesiwn blasu?

Cewch. I wneud hynny, llenwch y ffurflen ar-lein. Pan fydd rhywun yn cysylltu â chi, dywedwch eich bod chi eisiau rhoi cynnig ar astudio i weld a ydych yn mwynhau. Bydd ef neu hi’n defnyddio’r llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! sy’n cynnwys tair gwers agoriadol i weld a ydych chi’n mwynhau astudio.

Deunydd astudio, gan gynnwys “Mwynhewch Fywyd am Byth!” a’r “New World Translation of the Holy Scriptures.”

Os ydw i’n astudio’r Beibl, a fydda i’n dod dan bwysau i ddod yn un o Dystion Jehofa?

Na fyddwch. Mae Tystion Jehofa wrth eu boddau yn dysgu pobl am y Beibl, ond fyddwn ni byth yn rhoi pwysau ar rywun i ymuno â’n crefydd. Yn hytrach, rydyn ni’n cyflwyno neges y Beibl, gan gydnabod bod gan bawb yr hawl i ddewis beth i’w gredu.—1 Pedr 3:15, 16.

Ga i ddefnyddio fy Meibl fy hun?

Cewch. Mae croeso ichi ddefnyddio unrhyw gyfieithiad o’r Beibl y dymunwch. Mae’r New World Translation of the Holy Scriptures ar gael mewn nifer mawr o ieithoedd, ac rydyn ni’n mwynhau ei defnyddio gan ei fod yn glir ac yn gywir, ond rydyn ni’n deall bod yn well gan lawer ddefnyddio cyfieithiad sy’n gyfarwydd iddyn nhw.

Ga i wahodd eraill i ymuno yn y sesiwn astudio?

Cewch. Mae croeso ichi wahodd eich teulu neu’ch ffrindiau.

Os ydw i wedi astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa yn y gorffennol, a alla i astudio eto?

Wrth gwrs. Efallai y byddwch yn mwynhau’r cwrs newydd yn fwy gan ei fod wedi ei addasu i gwrdd ag anghenion pobl heddiw. Mae’n cynnwys llawer mwy o ddeunydd gweledol a rhyngweithiol na chyrsiau yn y gorffennol.

A oes modd astudio’r Beibl heb athro?

Oes. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn dysgu’n well gyda help athro, mae’n well gan rai astudio ar eu pennau eu hunain ar y dechrau. Gweler y dudalen Adnoddau Astudio’r Beibl am restr o adnoddau a fydd yn eich helpu chi i astudio’r Beibl. Dyma rai esiamplau:

  • Fideos am y Beibl. Mae’r gwersi fideo hyn yn esbonio rhai o ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl.

  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl. Mae’r erthyglau hyn yn rhoi atebion i nifer mawr o gwestiynau am y Beibl.

  • Dysgeidiaethau’r Beibl. Yma fe welwch chi erthyglau ymarferol sy’n trafod egwyddorion o’r Beibl y gallwn ni eu rhoi ar waith bob dydd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu