LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwfq erthygl 17
  • A Yw Tystion Jehofa yn Seioniaid?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • A Yw Tystion Jehofa yn Seioniaid?
  • Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Erthyglau Tebyg
  • Pam Mae Tystion Jehofa yn Niwtral o Ran Gwleidyddiaeth?
    Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Ydy Tystion Jehofa yn Wir Gristnogion?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Beth Yw Ystyr Aros yn Niwtral?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
ijwfq erthygl 17

A Yw Tystion Jehofa yn Seioniaid?

Nac ydyn. Mae Tystion Jehofa yn Gristnogion sy’n seilio eu daliadau ar y Beibl. Er bod rhai crefyddau yn dysgu bod y casgliad o Iddewon ym Mhalesteina yn gysylltiedig â phroffwydoliaeth Ysgrythurol, dydy Tystion Jehofa ddim yn credu hynny. Dydyn nhw ddim yn credu bod y datblygiad gwleidyddol hwn wedi cael ei ragfynegi yn yr Ysgrythurau. A dweud y gwir, dydy’r Beibl ddim yn cefnogi unrhyw lywodraeth ddynol, na dyrchafu unrhyw grŵp ethnig na phobl yn uwch nag eraill. Mae’r Tŵr Gwylio, sef cylchgrawn swyddogol Tystion Jehofa, wedi bod yn hollol glir ar hyn drwy ddweud: “Nid oes unrhyw sail Ysgrythurol i Seioniaeth wleidyddol.”

Mae’r Encyclopædia Britannica yn disgrifio Seioniaeth fel “mudiad Iddewig cenedlaethol sydd gyda’r nod o greu gwladwriaeth genedlaethol Iddewig ym Mhalesteina.” Mae ei gwreiddiau yn grefyddol ac yn wleidyddol. Dydy Tystion Jehofa ddim yn cefnogi Seioniaeth grefyddol, ac maen nhw’n hollol niwtral ynglŷn â Seioniaeth wleidyddol.

Mae cyfundrefn Tystion Jehofa yn hollol grefyddol a dydyn nhw ddim yn cefnogi unrhyw fudiad gwleidyddol, gan gynnwys Seioniaeth. Mae niwtraliaeth wleidyddol Tystion Jehofa wedi ei chofnodi’n dda, ac mewn rhai gwledydd mae’r Tystion wedi dioddef erledigaeth erchyll yn hytrach na chyfaddawdu eu niwtraliaeth. Rydyn ni’n sicr mai Teyrnas nefol Dduw yn unig sydd â’r gallu i ddod â heddwch parhaol i’r ddaear; ni all unrhyw lywodraeth na mudiad dynol gyflawni hyn.

Un o’r egwyddorion sylfaenol mae Tystion Jehofa yn eu dilyn yw ufudd-dod i gyfreithiau’r llywodraeth, lle bynnag maen nhw’n byw. Dydyn nhw ddim yn gwrthryfela yn erbyn awdurdodau’r llywodraeth nac yn codi arfau.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu