LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 41
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Drallwysiadau Gwaed?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Drallwysiadau Gwaed?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Agwedd Duw at Fywyd
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 41

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Drallwysiadau Gwaed?

Ateb y Beibl

Mae’r Beibl yn gorchymyn inni beidio â bwyta gwaed. Felly ni ddylen ni dderbyn gwaed cyfan na’i brif gyfansoddion, boed hynny ar ffurf bwyd neu drallwysiad. Sylwch ar yr adnodau canlynol:

  • Genesis 9:4. Ar ôl y Dilyw, rhoddodd Duw ganiatâd i Noa a’i deulu ddechrau bwyta cig, ond gorchmynnodd iddyn nhw beidio â bwyta’r gwaed. Dywedodd Duw wrth Noa: “Rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed).” Mae’r gorchymyn hwnnw yn berthnasol i’r ddynoliaeth gyfan, gan fod pawb yn ddisgynyddion i Noa.

  • Lefiticus 17:14 (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig). “Nid ydych i fwyta gwaed unrhyw greadur oherwydd y mae bywyd pob corff yn ei waed; y mae unrhyw un sy’n ei fwyta i’w dorri ymaith.” Yng ngolwg Duw, roedd y gwaed yn cynrychioli’r bywyd, ac felly yn eiddo iddo Ef. Rhoddwyd y ddeddf hon i genedl Israel yn unig, ond mae’n dangos pa mor bwysig y mae Duw yn ystyried y gorchymyn i beidio â bwyta gwaed.

  • Actau 15:20 (BCND). “Ymgadw rhag . . . gwaed.” Rhoddodd Duw yr un gorchymyn i Gristnogion ag yr oedd wedi ei roi i Noa. Mae hanes yn dangos nad oedd y Cristnogion cynnar yn bwyta gwaed nac yn ei ddefnyddio at ddibenion meddygol.

Pam mae Duw yn gorchymyn inni ymgadw rhag gwaed?

Mae rhesymau meddygol dilys dros osgoi trallwysiadau gwaed. Ond yn bwysicach na hynny, mae Duw yn gorchymyn inni ymgadw rhag gwaed oherwydd ei fod yn cynrychioli rhywbeth sy’n sanctaidd iddo Ef.—Lefiticus 17:11; Colosiaid 1:20.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu