LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwfq erthygl 18
  • Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Nadolig?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Nadolig?
  • Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Syniadau anghywir
  • Pam nad yw Tystion Jehofa yn dathlu’r Nadolig?
  • Pam gwneud y Nadolig yn broblem?
  • Ai Gŵyl i Gristnogion Ydy’r Nadolig?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2017
Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
ijwfq erthygl 18
Rhieni yn siarad â’u mab ifanc wrth iddo agor anrheg.

Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Dathlu’r Nadolig?

Syniadau anghywir

Chwedl: Dydy Tystion Jehofa ddim yn dathlu’r Nadolig gan nad ydyn nhw’n credu yn Iesu.

Ffaith: Rydyn ni’n Gristnogion ac yn credu mai drwy Iesu Grist yn unig y cawn ein hachub.—Actau 4:12.

Chwedl: Rydych yn gwahanu teuluoedd drwy ddysgu pobl i beidio â dathlu’r Nadolig.

Ffaith: Mae gofal mawr gennyn ni am y teulu, a thrwy ddefnyddio’r Beibl rydyn ni’n cryfhau’r berthynas deuluol.

Chwedl: Rydych yn colli “ysbryd y Nadolig,” sef, rhoi yn hael a dymuno heddwch ac ewyllys da tuag at bawb.

Ffaith: Rydyn ni’n ceisio bod yn heddychlon ac yn hael bob dydd. (Diarhebion 11:25; Rhufeiniaid 12:18) Er enghraifft, rydyn ni’n cynnal ein cyfarfodydd ac yn tystiolaethu yn unol â gorchymyn Iesu: “Gan eich bod wedi derbyn y cwbl am ddim, rhowch yn rhad ac am ddim.” (Mathew 10:8) Yn ychwanegol i hyn, rydyn ni’n cyfeirio sylw at Deyrnas Dduw fel yr unig obaith am heddwch ar y ddaear.—Mathew 10:7.

Pam nad yw Tystion Jehofa yn dathlu’r Nadolig?

  • Gorchymyn Iesu oedd inni goffáu ei farwolaeth, nid ei enedigaeth.—Luc 22:19, 20.

  • Doedd apostolion a disgyblion cynnar Iesu ddim yn dathlu’r Nadolig. Mae’r New Catholic Encyclopedia yn dweud “nid oedd gwledd yr Enedigaeth wedi ei sefydlu cyn 243 [OG]”—mwy na chanrif ar ôl i’r apostol olaf farw.

  • Does dim tystiolaeth o enedigaeth Iesu ar Ragfyr 25; nid yw’r dyddiad wedi ei gofnodi yn y Beibl.

  • Rydyn ni’n credu nad yw Duw yn cymeradwyo’r Nadolig oherwydd ei wreiddiau a’i arferion Paganaidd.—2 Corinthiaid 6:17.

Pam gwneud y Nadolig yn broblem?

Mae llawer yn dathlu’r Nadolig er eu bod nhw’n gwybod ei wreiddiau paganaidd, ac er nad oes sail Ysgrythurol iddo. Fe all y fath berson ofyn iddo’i hun: Pam dylai Cristnogion wneud safiad mor amhoblogaidd? Pam gwneud môr a mynydd ohono?

Mae’r Beibl yn ein hannog ni i feddwl dros ein hunain, ac i ddefnyddio ein synhwyrau sydd wedi eu disgyblu gan Air Duw. (Hebreaid 5:14) Mae’n dysgu ni i werthfawrogi’r gwir. (Ioan 4:23, 24) Felly tra bod gennyn ni ddiddordeb yn yr hyn mae eraill yn ei feddwl ohonon ni, rydyn ni’n glynu wrth egwyddorion y Beibl, er bod hynny’n amhoblogaidd.

Er nad ydyn ni’n dewis dathlu’r Nadolig, rydyn ni’n parchu hawl pob unigolyn i ddewis dros ei hun os yw’n ei ddathlu ai peidio. Nid ydyn ni’n ymyrryd yn nathliadau pobl eraill.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu