LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwfq erthygl 24
  • Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Galw eu Man Cyfarfod yn Eglwys?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Galw eu Man Cyfarfod yn Eglwys?
  • Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Pam “Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa”?
  • Braslun Philemon
    Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • Pam Mynd i’r Cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
ijwfq erthygl 24

Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Galw eu Man Cyfarfod yn Eglwys?

Yn y Beibl, mae’r term Groeg a gyfieithir “eglwys” yn cyfeirio at grŵp o addolwyr, nid at yr adeilad y maen nhw’n cyfarfod ynddo.

Nodwch yr esiampl hon: Pan ysgrifennodd yr apostol Paul at y Cristnogion yn Rhufain, anfonodd ei gyfarchion at Acwila a Priscila gan ychwanegu: “Fy nghyfarchion hefyd i’r eglwys sy’n ymgynnull yn eu tŷ.” (Rhufeiniaid 16:5) Doedd Paul ddim yn anfon ei gyfarchion at adeilad. Yn hytrach, cofio at bobl oedd ei fwriad​—y gynulleidfa oedd yn cwrdd yn y tŷ hwnnw.a

Felly yn lle galw ein man addoli yn eglwys, defnyddiwn y term “Neuadd y Deyrnas.”

Pam “Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa”?

Mae’r term yn briodol am nifer o resymau:

  • Neuadd yw’r adeilad, rhywle i ymgynnull.

  • Rydyn ni’n dod at ein gilydd i addoli Jehofa, Duw’r Beibl, ac i dystiolaethu amdano.​—Salm 83:18; Eseia 43:12.

  • Rydyn ni’n cyfarfod i ddysgu am Deyrnas Dduw, teyrnas y siaradodd Iesu yn aml amdani.​—Mathew 6:9, 10; 24:14; Luc 4:43.

Mae croeso cynnes i chi ymweld â Neuadd y Deyrnas yn eich ardal chi, er mwyn gweld sut mae Tystion Jehofa yn cynnal eu cyfarfodydd.

a Mae ymadroddion tebyg yn 1 Corinthiaid 16:19; Colosiaid 4:15; a Philemon 2.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu