Ai ar Groes y Bu Farw Iesu?
Ateb y Beibl
I lawer o bobl, y groes yw’r symbol mwyaf cyffredin o’r grefydd Gristnogol. Sut bynnag, gan nad yw’r Beibl yn rhoi disgrifiad manwl, ni all neb wybod i sicrwydd pa siâp oedd yr hyn a ddefnyddiwyd i roi Iesu i farwolaeth. Serch hynny, ceir tystiolaeth yn y Beibl sy’n dangos i Iesu farw, nid ar groes, ond ar bolyn neu stanc.
Gan amlaf, mae’r Beibl yn defnyddio’r gair Groeg staw·rosʹ wrth gyfeirio at yr hyn a ddefnyddiwyd i ddienyddio Iesu. (Mathew 27:40; Ioan 19:17) Er bod cyfieithiadau yn trosi’r gair hwn yn aml fel “croes,” mae llawer o ysgolheigion yn cytuno mai “stanc ar ei sefyll” yw ystyr sylfaenol y gair mewn gwirionedd.a Yn ôl A Critical Lexicon and Concordance to the English and Greek New Testament, “Nid yw [staw·rosʹ] byth yn golygu dau ddarn o bren wedi eu gosod ar draws ei gilydd ar ongl o unrhyw fath.”
Mae’r Beibl hefyd yn defnyddio’r gair Groeg xuʹlon yn gyfystyr â staw·rosʹ. (Actau 5:30; 1 Pedr 2:24) Mae’r gair hwn yn golygu “coeden,” “pren,” neu “stanc.”b Felly casgliad y Companion Bible yw: “Nid oes dim yng Ngroeg y T[estament] N[ewydd] sydd hyd yn oed yn awgrymu dau ddarn o bren.”
A yw defnyddio’r groes wrth addoli yn dderbyniol gan Dduw?
Crux simplex—y term Lladin ar gyfer polyn neu stanc a ddefnyddid i ddienyddio troseddwr
Ni waeth beth oedd siâp yr hyn a ddefnyddiwyd i ladd Iesu, mae’r ffeithiau a’r adnodau canlynol yn dangos na ddylen ni ddefnyddio’r groes wrth addoli.
Mae Duw yn gwrthod unrhyw addoliad sy’n defnyddio delwau neu symbolau, gan gynnwys y groes. Gorchmynnodd Duw i’r Israeliaid beidio â defnyddio ‘delw ar ffurf unrhyw fath ar gerflun.’ Yn yr un modd, mae Cristnogion yn cael eu gorchymyn: “Ffowch oddi wrth addoli eilun-dduwiau.”—Deuteronomium 4:15-19, Beibl Cymraeg Diwygiedig; 1 Corinthiaid 10:14.
Nid oedd Cristnogion y ganrif gyntaf yn defnyddio’r groes wrth addoli.c Mae dysgeidiaeth ac esiampl yr apostolion yn gosod patrwm y dylai pob Cristion ei ddilyn.—2 Thesaloniaid 2:15.
Mae tarddiad paganaidd i’r defnydd o’r groes wrth addoli.d Gannoedd o flynyddoedd ar ôl i Iesu farw, roedd yr eglwysi wedi gwyro oddi wrth ei ddysgeidiaeth. Erbyn hynny, yn ôl The Expanded Vine’s Expository Dictionary of New Testament Words: “I raddau helaeth, caniatawyd i [aelodau newydd yr eglwys] gadw eu harwyddion a’u symbolau paganaidd,” ac fe fyddai hynny’n cynnwys y groes. Sut bynnag, nid yw’r Beibl yn cymeradwyo mabwysiadu symbolau paganaidd er mwyn denu aelodau newydd.—2 Corinthiaid 6:17.
a Gweler New Bible Dictionary, Trydydd Argraffiad, golygwyd gan D. R. W. Wood, tudalen 245; Theological Dictionary of the New Testament, Cyfrol VII, tudalen 572; The International Standard Bible Encyclopedia, Argraffiad Diwygiedig, Cyfrol 1, tudalen 825; a The Imperial Bible-Dictionary, Cyfrol II, tudalen 84.
b Gweler The Expanded Vine’s Expository Dictionary of New Testament Words, tudalen 1165; A Greek-English Lexicon, gan Liddell a Scott, Nawfed Argraffiad, tudalennau 1191-1192; a Theological Dictionary of the New Testament, Cyfrol V, tudalen 37.
c Gweler Encyclopædia Britannica, 2003, o dan “Cross”; The Cross—Its History and Symbolism, tudalen 40; a The Companion Bible, Oxford University Press, atodiad 162, tudalen 186.
d Gweler The Encyclopedia of Religion, Cyfrol 4, tudalen 165; The Encyclopedia Americana, Cyfrol 8, tudalen 246; a Symbols Around Us, tudalennau 205-207.