LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 74
  • Beth Mae’r Rhif 666 yn ei Olygu?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Mae’r Rhif 666 yn ei Olygu?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Beth Yw’r Bwystfil â Saith Pen yn Datguddiad Pennod 13?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Datguddiad—Beth Mae’n ei Olygu i Elynion Duw?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Paid ag Ofni’r Bwystfilod Arswydus
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 74
Bwystfil â saith pen a deg corn sy’n dwyn y rhif, neu’r enw, 666.

Beth Mae’r Rhif 666 yn ei Olygu?

Ateb y Beibl

Yn ôl y llyfr olaf yn y Beibl, 666 yw rhif, neu enw, bwystfil â saith pen a deg corn sy’n dod allan o’r môr. (Datguddiad 13:​1, 17, 18) Mae’r bwystfil hwn yn symbol o’r drefn wleidyddol fyd-eang, sy’n llywodraethu “dros bob llwyth, hil, iaith a chenedl.” (Datguddiad 13:7) Mae’r enw 666 yn dangos bod y system wleidyddol yn fethiant llwyr yng ngolwg Duw. Ym mha ffordd?

Mwy na label. Mae ystyr i’r enwau mae Duw yn eu rhoi. Er enghraifft, newidiodd Duw enw Abram, sy’n golygu “Tad Dyrchafedig,” yn Abraham, sef “Tad i Dyrfa,” gan addo y byddai’n gwneud Abraham “yn dad i lu o genhedloedd.” (Genesis 17:5, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Yn yr un modd, rhoddodd Duw yr enw 666 ar y bwystfil, oherwydd mewn ffordd symbolaidd, mae’r enw yn disgrifio rhywbeth amdano.

Mae’r rhif chwech yn awgrymu amherffeithrwydd. Mae ystyr symbolaidd i lawer o rifau yn y Beibl. Fel arfer defnyddir y rhif saith ar gyfer pethau sy’n gyflawn neu berffaith. Mae chwech, sef un llai na saith, felly yn golygu rhywbeth anghyflawn neu ddiffygiol yng ngolwg Duw. Gall fod yn gysylltiedig â gelynion Duw.​—1 Cronicl 20:6; Daniel 3:1, BCND.

Tair gwaith er pwyslais. Weithiau mae’r Beibl yn pwysleisio rhywbeth drwy ei adrodd dair gwaith. (Datguddiad 4:8; 8:​13) Felly mae’r enw 666 yn pwysleisio bod systemau gwleidyddol dynol yn fethiant llwyr yng ngolwg Duw. Maen nhw wedi methu creu heddwch a diogelwch parhaol. Dim ond Teyrnas Dduw all wneud hynny.

Marc y bwystfil

Mae’r Beibl yn dweud bod pobl yn derbyn marc, neu nod y bwystfil, oherwydd eu bod nhw’n edmygu’r bwystfil i’r fath raddau nes eu bod yn ei addoli. (Datguddiad 13:​3, 4; 16:2) Mae’r anrhydedd y maen nhw’n ei roi i’w gwledydd, eu symbolau cenedlaethol, neu eu grym milwrol yn ddim llai nag addoliad. Fel dywed yr Encyclopedia of Religion: “Yn y byd modern, mae cenedlaetholdeb wedi tyfu’n ffurf ar grefydd sy’n hynod o ddylanwadol.”a

Sut mae rhywun yn derbyn marc y bwystfil ar ei law dde neu ar ei dalcen? (Datguddiad 13:16) Wrth gyfeirio at ei orchmynion i genedl Israel, dywedodd Duw: “Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i’w cofio.” (Deuteronomium 11:18) Nid oedd Duw yn disgwyl i’r Israeliaid roi marciau llythrennol ar eu dwylo a’u talcennau, ond roedd yn disgwyl iddyn nhw adael i eiriau Duw lywio eu gweithredoedd a’u meddyliau. Yn yr un modd, yn hytrach na bod yn rhywbeth llythrennol, fel er enghraifft tatŵ’r rhif 666, mae marc y bwystfil yn nod symbolaidd sydd ar y rhai sy’n gadael i’r drefn wleidyddol reoli eu bywydau. Mae’r rhai sydd â marc y bwystfil yn dod yn elynion i Dduw.​—Datguddiad 14:​9, 10; 19:19-​21.

a Gweler hefyd Nationalism in a Global Era, tudalen 134, a Nationalism and the Mind: Essays on Modern Culture, tudalen 94.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu