LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 79
  • Ai yn Eich Calon y Mae Teyrnas Dduw?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ai yn Eich Calon y Mae Teyrnas Dduw?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Y Gwir am Deyrnas Dduw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
  • Mae Teyrnas Dduw yn Llywodraethu
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
Gweld Mwy
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 79
Braslun corff dynol, na allai fod yn lleoliad i lywodraeth neu deyrnas lythrennol

Ai yn Eich Calon y Mae Teyrnas Dduw?

Ateb y Beibl

Nage, nid cyflwr yng nghalonnau Cristnogion yw Teyrnas Dduw.a Mae’r Beibl yn dangos lleoliad y Deyrnas drwy ei galw’n ‘deyrnas nefoedd.’ (Mathew 4:17, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Ystyriwch sut mae’r Beibl yn dangos mai llywodraeth sy’n rheoli o’r nefoedd yw’r Deyrnas.

  • Mae gan Deyrnas Dduw lywodraethwyr, dinasyddion, deddfau ac awdurdod i sefydlu ewyllys Duw yn y nefoedd ac ar y ddaear.—Mathew 6:10; Datguddiad 20:6.

  • Bydd Teyrnas Dduw yn llywodraethu dros “bawb o bob gwlad ac iaith” ar y ddaear. (Daniel 7:13,14) Mae ei hawdurdod yn dod, nid o’r bobl, ond oddi wrth Dduw ei hun.—Salm 2:4-6; Eseia 9:7.

  • Dywedodd Iesu wrth ei apostolion y bydden nhw’n ymuno ag ef yn Nheyrnas nefoedd i “eistedd ar orseddau.”—Luc 22:28, 30.

  • Mae gan y Deyrnas elynion, ond fe fydd yn eu dinistrio.—Salm 2:1, 2, 8, 9; 110:1, 2; 1 Corinthiaid 15:25, 26.

Mae rhai’n credu bod y Deyrnas yn eich calon pan fyddwch chi’n gwrando ar Dduw. Ond nid dyna beth mae’r Beibl yn ei ddysgu. Sut bynnag, mae’r Beibl yn dangos y dylai’r “neges am y Deyrnas” neu’r “newyddion da am deyrnasiad Duw,” ddylanwadu ar ein calonnau.—Mathew 13:19; 24:14.

Beth yw ystyr y geiriau “Wele; teyrnas Dduw, o’ch mewn chwi y mae”?

Mae rhai pobl wedi drysu o weld beth mae rhai cyfieithiadau yn ei ddweud am y Deyrnas yn Luc 17:21. Er enghraifft, mae’r Beibl Cysegr-lân yn dweud: “Wele; teyrnas Dduw, o’ch mewn chwi y mae.” Er mwyn deall yr adnod hon yn iawn, mae’n bwysig inni ystyried y cyd-destun.

Rhai o’r arweinwyr crefyddol a oedd yn gwrthwynebu Iesu

Nid oedd Teyrnas Dduw yng nghalonnau ystyfnig a chreulon y rhai oedd yn gwrthwynebu Iesu

Roedd Iesu yn siarad â grŵp o arweinwyr crefyddol, y Phariseaid, a oedd yn ei wrthwynebu yn ffyrnig ac a gafodd ran yn y cynllun i’w ladd. (Mathew 12:14; Luc 17:20) A yw’n rhesymol inni gredu mai cyflwr yn eu calonnau drwg nhwythau oedd y Deyrnas? Dywedodd Iesu eu bod nhw’n “llawn rhagrith a drygioni” ar y tu mewn.—Mathew 23:27,28.

Mae cyfieithiadau eraill yn gwneud geiriau Iesu yn Luc 17:21 yn glir. Er enghraifft, dywed y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig: “Y mae teyrnas Dduw yn eich plith chwi.” (Ni biau’r italeiddio) Roedd Teyrnas nefoedd “ymhlith” y Phariseaid yn yr ystyr bod Iesu, yr un yr oedd Duw wedi ei ddewis i fod yn Frenin ar y Deyrnas, yn sefyll o’u blaenau.—Luc 1:32, 33.

a Mae llawer o eglwysi yn dysgu bod Teyrnas Dduw y tu mewn i bobl, neu yn eu calonnau. Er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau, dywedodd y Southern Baptist Convention fod Teyrnas Dduw, yn rhannol, yn golygu “teyrnasiad Duw yng nghalon ac ym mywyd yr unigolyn.” Yn ei lyfr, Jesus of Nazareth, dywedodd y Pab Bened XVI fod “teyrnas Dduw yn dod drwy gyfrwng calonnau sy’n gwrando ar Dduw.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu