LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 95
  • Beth Yw Maddeuant?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw Maddeuant?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Mae Jehofa yn Bendithio’r Rhai Sy’n Maddau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Maddeuant
    Deffrwch!—2018
  • Jehofa—Y Gorau am Faddau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Maddeuant Jehofa—Sut Gelli Di Ei Efelychu?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
Gweld Mwy
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 95
Dwy ddynes yn cymodi

Beth Yw Maddeuant?

Ateb y Beibl

Yn y Beibl, ystyr llythrennol y gair Groeg a gyfieithir yn “faddeuant” yw “gollwng,” megis pan fydd rhywun yn dileu dyled. Defnyddiodd Iesu’r gymhariaeth hon pan ddywedodd wrth ei ddilynwyr am weddïo: “Maddau i ni am bob dyled i ti yn union fel dŷn ni’n maddau i’r rhai sydd mewn dyled i ni.” (Mathew 6:12) Yn nameg y gwas anfaddeugar, dangosodd Iesu eto fod maddau yn debyg i ddileu dyled.​—Mathew 18:23-​35.

Rydyn ni’n maddau i eraill drwy ollwng gafael ar ein dicter ac ar ein hawl i gael iawndal am y boen a’r golled a achoswyd inni. Yn ôl y Beibl, cariad anhunanol yw sail gwir faddeuant, gan fod cariad yn “fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam.”​—1 Corinthiaid 13:​4, 5.

Nid yw maddau yn golygu . . .

  • Esgusodi’r camwedd. Mae’r Beibl yn condemnio pobl sy’n honni bod gweithredoedd drwg yn ddiniwed neu’n dderbyniol.​—Eseia 5:​20.

  • Ymddwyn fel pe bai’r camwedd heb ddigwydd. Fe wnaeth Duw faddau i’r Brenin Dafydd am bechodau difrifol, ond ni wnaeth achub Dafydd rhag canlyniadau ei bechodau. Yn wir, dewisodd Duw i bechodau Dafydd gael eu cofnodi fel ein bod ni’n gallu darllen amdanyn nhw heddiw.​—2 Samuel 12:​9-​13.

  • Gadael i eraill gymryd mantais arnoch chi. Dychmygwch, er enghraifft, eich bod yn benthyg arian i rywun, ond y mae’n gwastraffu’r arian ac yn methu talu’n ôl i chi. Y mae’n ymddiheuro’n ddiffuant am y sefyllfa. Fe allech chi ddewis maddau iddo drwy beidio â dal dig, peidio â sôn byth a beunydd am y peth, ac efallai drwy ddileu’r ddyled yn gyfan gwbl. Er hynny, efallai y byddech chi’n penderfynu peidio â benthyg mwy o arian iddo.​—Salm 37:21; Diarhebion 14:15; 22:3; Galatiaid 6:7.

  • Maddau heb reswm dilys. Nid yw Duw yn maddau i bobl sy’n pechu’n faleisus ac yn fwriadol, ac sy’n gwrthod syrthio ar eu bai a newid eu ffyrdd, ac ymddiheuro i’r rhai y maen nhw wedi eu brifo. (Diarhebion 28:13; Actau 26:20; Hebreaid 10:26) Mae pobl ddiedifar yn troi’n elynion i Dduw, ac nid yw Duw yn disgwyl inni faddau i’r rhai nad yw ef wedi maddau iddyn nhw.​—Salm 139:21, 22.

    Beth petaech chi’n cael eich cam-drin yn greulon gan rywun sy’n gwrthod ymddiheuro neu hyd yn oed cyfaddef ei fod ar fai? Mae’r Beibl yn ein cynghori i ollwng ein dicter gan ddweud: “Paid â digio; rho’r gorau i lid.” (Salm 37:8, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Ni fyddwch yn esgusodi’r camwedd, ond fe allwch chi wrthod gadael i ddicter eich meddianu. Gallwch ymddiried yn Nuw i ddal yr unigolyn yn atebol am ei gamweddau. (Hebreaid 10:30, 31) Cewch gysur hefyd o wybod y daw amser pan na fyddwn ni’n teimlo’r boen a’r clwyfau sy’n gymaint o faich inni ar hyn o bryd.​—Eseia 65:17; Datguddiad 21:4.

  • “Maddau” pob camwedd bychan. Weithiau, yn hytrach na “maddau” i rywun am gamwedd bach, efallai bod angen inni gydnabod nad oedd dim rheswm inni ddigio yn y lle cyntaf. Mae’r Beibl yn dweud: “Paid gwylltio’n rhy sydyn; gwylltineb sydd yng nghalon ffyliaid.”​—Pregethwr 7:9.

Sut gallwch faddau i rywun?

  1. Cofiwch beth mae maddau yn ei olygu. Nid esgusodi’r camwedd ydych chi, nac ymddwyn fel pe bai’r camwedd heb ddigwydd​—ond rydych chi’n dewis i’w roi o’r neilltu.

  2. Cofiwch beth yw manteision maddau. Mae rhoi dicter a drwgdeimlad o’r neilltu yn gallu eich helpu chi i beidio â chynhyrfu, i wella eich iechyd, ac i fod yn hapusach. (Diarhebion 14:30; Mathew 5:9) Yn bwysicach byth, mae maddau i eraill yn hanfodol os ydyn ni eisiau i Dduw faddau i ninnau am ein pechodau.​—Mathew 6:​14, 15.

  3. Ceisiwch ddeall teimladau pobl eraill. Rydyn ni i gyd yn amherffaith. (Iago 3:2) Rydyn ni’n ddiolchgar pan fydd eraill yn maddau i ni ac felly dylen ni fod yn barod i faddau i eraill.​—Mathew 7:​12.

  4. Byddwch yn rhesymol. Os ydy ein cwyn yn un gymharol ddibwys, gallwn ddilyn cyngor y Beibl: “Byddwch yn oddefgar.”​—Colosiaid 3:​13.

  5. Peidiwch ag oedi. Ewch ati i faddau cyn gynted â phosib yn hytrach na gadael i’r dicter gorddi yn eich calon.​—Effesiaid 4:​26, 27.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu