Ydy Gamblo yn Bechod?
Ateb y Beibl
Er nad ydy’r Beibl yn trafod gamblo yn fanwl, mae egwyddorion Beiblaidd yn dangos bod gamblo yn bechod o safbwynt Jehofa.—Effesiaid 5:17.a
Mae gamblo yn cael ei gymell gan drachwant, neu agwedd farus. Mae Duw yn casáu agwedd o’r fath. (1 Corinthiaid 6:9, 10; Effesiaid 5:3, 5) Er mwyn i gamblwyr ennill arian, mae’n rhaid i bobl eraill ei golli, ond mae’r Beibl yn condemnio dymuno’r hyn sy’n perthyn i eraill.—Exodus 20:17; Rhufeiniaid 7:7; 13:9, 10.
Mae gamblo, hyd yn oed am ychydig bach o arian, yn gallu arwain at y fagl niweidiol o garu arian.—1 Timotheus 6:9, 10.
Mae gamblwyr yn aml yn dibynnu ar ofergoelion neu ar lwc. Ond mae Duw yn ystyried daliadau o’r fath fel eilunaddoliaeth sy’n hollol groes i wir addoliad.—Eseia 65:11.
Yn hytrach na hyrwyddo’r awydd i gael rhywbeth am ddim, mae’r Beibl yn annog pobl i weithio’n galed. (Pregethwr 2:24; Effesiaid 4:28) Mae’r rhai sy’n dilyn cyngor y Beibl yn gallu “bwyta bwyd y maen nhw eu hunain wedi ei ennill.”—2 Thesaloniaid 3:10, 12, tdn.
Mae gamblo yn gallu creu ysbryd cystadleugar, ac mae hynny’n cael ei gondemnio yn y Beibl.—Galatiaid 5:26.
a Yr unig gyfeiriad penodol yn y Beibl ynglŷn â gamblo ydy pan wnaeth y milwyr Rhufeinig “fwrw coelbren,” neu gamblo, er mwyn ennill dillad Iesu.—Mathew 27:35; Ioan 19:23, 24.