LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 57
  • Pam Ceisio Tynnu Ymlaen Gyda Fy Mrodyr a Chwiorydd?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Ceisio Tynnu Ymlaen Gyda Fy Mrodyr a Chwiorydd?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • “Y ffrindiau gwaethaf gorau”
  • Dau reswm i aros yn ffrindiau
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 57
Brawd a chwaer yn gwneud pitsa

CWESTIYNAU POBL IFANC

Pam Ceisio Tynnu Ymlaen Gyda Fy Mrodyr a Chwiorydd?

  • “Y ffrindiau gwaethaf gorau”

  • Dau reswm i aros yn ffrindiau

  • Barn dy gyfoedion

“Y ffrindiau gwaethaf gorau”

Mae brodyr a chwiorydd wedi cael eu disgrifio fel “dy ffrindiau gwaethaf gorau.” Rwyt ti’n eu caru nhw ac maen nhw’n dy garu di, ond weithiau mae’n anodd tynnu ymlaen. “Mae fy mrawd ieuengaf yn mynd ar fy nerfau,” meddai Helena sy’n 18 mlwydd oed. “Mae o’n gwybod yn union sut i fy ngwylltio a gwneud imi golli ’nhymer!”

Gyda sgiliau cyfathrebu syml ac ychydig o drafodaeth, fel arfer mae modd datrys anghytundeb rhwng brodyr a chwiorydd. Er enghraifft:

  • Efallai bydd dau frawd yn rhannu ystafell ac yn ffraeo dros ddiffyg preifatrwydd. Beth ydy’r ateb? Cyfaddawdu a dysgu parchu ffiniau. Rho ar waith yr egwyddor o’r Beibl sydd i’w gweld yn Luc 6:​31.

  • Efallai bydd dwy chwaer yn “benthyg” dillad ei gilydd heb ofyn. Yr ateb? Trafoda’r peth a gosod ffiniau rhesymol. Rho ar waith yr egwyddor o’r Beibl sydd i’w gweld yn 2 Timotheus 2:​24.

Mewn rhai achosion, mae canlyniadau’r problemau rhwng brodyr a chwiorydd yn fwy difrifol. Ystyria ddwy esiampl yn y Beibl:

  • Roedd Miriam ac Aaron yn genfigennus o’u brawd Moses, ac roedd y canlyniadau’n drist. Darllena’r hanes yn Numeri 12:​1-​15. Yna, gofynna i ti dy hun: ‘Sut galla’ i beidio â bod yn genfigennus o fy mrawd neu fy chwaer?’

  • Tyfodd dicter yng nghalon Cain nes iddo lofruddio ei frawd Abel. Darllena’r hanes yn Genesis 4:​1-​12. Yna, gofynna i ti dy hun: ‘Sut galla’ i reoli fy nhymer wrth ddelio â fy mrawd neu fy chwaer?’

Dau reswm i aros yn ffrindiau

Waeth pa mor anodd yw dod ymlaen â dy frodyr a chwiorydd, mae o leiaf ddau reswm pam mae’n werth yr ymdrech.

  1. Mae’n dangos dy fod ti’n aeddfedu. “Ar un adeg, roedd gen i dymer fel matsien efo fy chwiorydd bach,” meddai dyn ifanc o’r enw Alex. “Ond rŵan dw i’n llawer mwy tawel ac amyneddgar. Rhaid mod i wedi tyfu i fyny.”

    Mae’r Beibl yn dweud: “Mae rheoli’ch tymer yn beth call iawn i’w wneud; ond mae colli’ch tymer yn dangos eich bod yn ddwl.”​—Diarhebion 14:⁠29.

  2. Mae’n ymarfer da ar gyfer y dyfodol. Os na elli di ymdopi â ffaeleddau dy frodyr a chwiorydd, sut byddi di’n gallu tynnu ymlaen gyda gŵr neu wraig, gyda chyd-weithwyr a chyflogwyr, neu gydag unrhyw un arall?

    Ffaith: Bydd dy allu i gyfathrebu a thrafod yn effeithio ar dy berthynas ag eraill yn y dyfodol. Does dim lle gwell i ymarfer y sgiliau hyn na’r teulu.

    Mae’r Beibl yn dweud: “Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb.”​—Rhufeiniaid 12:18.

Barn dy gyfoedion

Jessica

“Mae tair chwaer ’da fi, a dydy aros yn ffrindiau ddim bob amser yn hawdd. Ond ar yr un pryd, dw i’n gwybod taw nhw yw’r bobl sy’n ’nabod fi orau ac a fydd yno imi bob amser.”​—Jessica.

Tyler

“Weithiau bydda i’n mynd ar nerfau fy mrawd neu bydd o’n mynd ar fy nerfau i. Ond dw i’n meddwl y byd o fy mrawd. Mae o bob amser wedi rhoi hyder imi. Mae o’n benderfynol, dydy o ddim yn rhoi’r gorau i bethau, mae o’n gwneud mwy na’r gofyn—dw i’n edmygu hynny.”​—Tyler.

Cameo

“Dw i’n hoffi cwmni pobl eraill, felly mae’n braf cael dau frawd bach. Gan bod nhw’n fechgyn, mae byw gyda nhw wedi dysgu llawer imi am sut i drin pobl sy’n wahanol imi. Dw i’n ffodus iawn o gael brodyr mor wych.”​—Cameo.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu