Sut Roedd Iesu yn Edrych?
Ateb y Beibl
Does neb yn gwybod yn union sut un oedd Iesu o ran ei bryd a gwedd, gan nad oes disgrifiad corfforol ohono yn y Beibl. Mae hyn yn dangos nad yw nodweddion corfforol Iesu o bwys. Ond, mae’r Beibl yn rhoi inni ryw syniad o’i olwg gyffredinol.
Nodweddion corfforol: Roedd Iesu’n Iddew ac yn debyg wedi etifeddu nodweddion Semitig gan ei fam. (Hebreaid 7:14) Mae’n annhebyg bod ei wedd yn arbennig o nodedig. Ar un achlysur roedd ef wedi gallu teithio’n ddirgel o Galilea i Jerwsalem heb gael ei adnabod. (Ioan 7:10, 11) Ac yn ôl pob tebyg nid oedd yn sefyll allan hyd yn oed ymysg ei ddisgyblion agosaf. Cofiwch fod rhaid i Jwdas Iscariot roi arwydd o bwy oedd Iesu i’r dorf arfog a’i arestiodd.—Mathew 26:47-49.
Hyd ei wallt: Mae’n annhebyg bod gan Iesu wallt hir, gan fod y Beibl yn dweud bod “gwallt hir yn diraddio dyn.”—1 Corinthiaid 11:14.
Barf: Gwisgodd Iesu farf. Dilynodd y gyfraith Iddewig, oedd yn gwahardd dyn rhag ‘trimio’i farf.’ (Lefiticus 19:27; Galatiaid 4:4) Hefyd, mae’r Beibl yn cyfeirio at farf Iesu mewn proffwydoliaeth am ei ddioddefaint.—Eseia 50:6.
Corff: Yn ôl pob tebyg, roedd Iesu’n ddyn cryf. Cerddodd filltiroedd maith yn ystod ei weinidogaeth. (Mathew 9:35) Fe lanhaodd y deml Iddewig ddwy waith, gan droi byrddau’r cyfnewidwyr arian drosodd, ac ar un achlysur fe yrrodd y da byw allan â chwip. (Luc 19:45, 46; Ioan 2:14, 15) Mae Cyclopedia McClintock a Strong yn dweud: “Mae’r adroddiad efengylaidd gyfan yn dangos bod iechyd corfforol [Iesu] yn gadarn ac yn egnïol.”—Cyfrol IV, tudalen 884.
Mynegiant ei wyneb: Roedd Iesu’n wresog ac yn dosturiol, a heb amheuaeth mi fyddai ystum ei wyneb yn adlewyrchu hyn. (Mathew 11:28, 29) Roedd pobl o bob math yn mynd ato am gysur a help. (Luc 5:12, 13; 7:37, 38) Roedd plant hyd yn oed yn gyfforddus yn ei gwmni.—Mathew 19:13-15; Marc 9:35-37.
Camsyniadau am bryd a gwedd Iesu
Camsyniad: Mae rhai yn dadlau bod rhaid i Iesu fod o dras Affricanaidd oherwydd bod llyfr Datguddiad yn cymharu ei wallt â gwlân a’i draed ag efydd gloyw.—Datguddiad 1:14, 15.
Ffaith: Mae llyfr Datguddiad yn cael ei gyflwyno “trwy arwyddion.” (Datguddiad 1:1 tdn., Y Testament Newydd, Albert Barnes) Mae disgrifiad o wallt a thraed Iesu yn defnyddio iaith symbolaidd i ddarlunio rhinweddau Iesu ar ôl ei atgyfodiad, ac nid i ddisgrifio ei wedd gorfforol pan oedd ar y ddaear. Wrth ddweud bod “ganddo lond pen o wallt oedd yn wyn fel gwlân neu eira,” mae Datguddiad 1:14 yn defnyddio lliw fel pwynt o gymhariaeth. Mae hyn yn cynrychioli ei ddoethineb sy’n dod gydag oed. (Datguddiad 3:14) Nid yw’r adnod hon yn dweud bod gwallt Iesu fel gwlân i’r teimlad yn fwy nag y mae’n dweud bod ei wallt fel eira i’r teimlad.
Roedd traed Iesu “yn gloywi fel efydd mewn ffwrnais.” (Datguddiad 1:15) Hefyd, roedd ei wyneb “yn disgleirio’n llachar fel yr haul ganol dydd.” (Datguddiad 1:16) Am nad oes gan yr un hil liw croen sy’n cydweddu â’r disgrifiadau hyn, rhaid bod y weledigaeth hon yn symbolaidd, yn dangos yr Iesu atgyfodedig fel yr un sy’n “byw mewn golau llachar na ellir mynd yn agos ato.”—1 Timotheus 6:16.
Camsyniad: Roedd Iesu’n wan ac yn eiddil.
Ffaith: Roedd Iesu’n wrol ei ymddygiad. Er enghraifft, fe amlygodd ei hun yn ddewr i’r dorf arfog a arfog a ddaeth i’w arestio. (Ioan 18:4-8) Hefyd, mae’n rhaid bod Iesu’n gorfforol gryf i fod yn saer a gweithio gydag offer llaw.—Marc 6:3.
Pam, felly, oedd angen help ar Iesu i gario’i stanc artaith? A pham bu farw cyn y rhai eraill a ddienyddiwyd gydag ef? (Luc 23:26; Ioan 19:31-33) Yn yr oriau cyn i Iesu gael ei ddienyddio, roedd ei gorff wedi cael ei wanhau yn ddifrifol. Roedd wedi bod yn effro trwy’r nos, yn rhannol oherwydd poen emosiynol. (Luc 22:42-44) Yn ystod y nos roedd yr Iddewon wedi ei gam-drin, a’r bore wedyn roedd y Rhufeiniaid wedi ei boenydio. (Mathew 26:67, 68; Ioan 19:1-3) Mae’n debyg mai ffactorau fel hyn a gyflymodd ei farwolaeth.
Camsyniad: Roedd Iesu wastad yn drist neu’n felancolaidd.
Ffaith: Roedd Iesu’n adlewyrchu rhinweddau ei Dad nefol, Jehofa, yn berffaith. Mae’r Beibl yn disgrifio Jehofa fel “y dedwydd Dduw,” neu’r Duw hapus. (1 Timotheus 1:11, Epistolau Bugeiliol, Richard Davies; Ioan 14:9) Mewn gwirionedd, dysgodd Iesu eraill sut i fod yn hapus. (Mathew 5:3-9; Luc 11:28) Mae’r ffeithiau hyn yn dangos bod Iesu’n aml wedi dangos ei hapusrwydd yng ngwedd ei wyneb.