LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 69
  • Pam Dylwn i Weddïo?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Dylwn i Weddïo?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth yw gweddi?
  • Ydy Duw yn gwrando?
  • Beth galla’ i weddïo amdano?
  • Closio at Dduw Drwy Weddi
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Y Fraint o Weddïo
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Dod yn Nes at Dduw
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Nesáu at Dduw Drwy Weddïo
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
Gweld Mwy
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 69
Merch yn ei harddegau yn eistedd wrth y llyn

CWESTIYNAU POBL IFANC

Pam Dylwn i Weddïo?

Yn ôl un arolwg, dim ond 18 y cant o bobl ifanc ym Mhrydain sy’n gweddïo bob wythnos. Mae’n rhaid bod rhai yn gofyn: ‘Ai dim ond rhywbeth sy’n ein cynnal ni’n seicolegol yw gweddi? Neu, ydy hi’n fwy na hynny?’

  • Beth yw gweddi?

  • Ydy Duw yn gwrando?

  • Beth galla’ i weddïo amdano?

  • Barn dy gyfoedion

Beth yw gweddi?

Gweddi yw cyfathrebu â’r Un a greodd bob peth. Meddylia am hynny! Mae Jehofa yn uwch na ni ym mhob ffordd, ond eto “dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd.” (Actau 17:27) Yn wir, yn y Beibl rydyn ni’n gweld y gwahoddiad rhyfeddol hwn: “Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.”—Iago 4:8.

Sut gelli di glosio at Dduw?

  • Un ffordd yw drwy weddi—dyna sut rwyt ti’n siarad â Duw.

  • Ffordd arall yw drwy astudio’r Beibl—dyna sut mae Duw yn siarad â ti.

Bydd cyfathrebu â Duw drwy weddïo ac astudio’r Beibl yn dy helpu di i greu perthynas agos ag ef.

“Mae siarad â Jehofa, y Duw Goruchaf, yn un o’r breintiau mwyaf y gall rhywun ei chael.”—Jeremy.

“Mae rhannu teimladau fy nghalon â Jehofa mewn gweddi, yn gwneud i mi deimlo’n agosach ato.”—Miranda.

Ydy Duw yn gwrando?

Hyd yn oed os wyt ti’n credu yn Nuw, ac yn gweddïo arno, gall fod yn anodd credu ei fod yn gwrando arnat ti. Ond, mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn “gwrando gweddïau.” (Salm 65:2) Mae’n ein hannog ni: “Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe.” Pam felly? “Achos mae e’n gofalu amdanoch chi.”—1 Pedr 5:7.

Rhywbeth i’w ystyried: Wyt ti’n treulio amser yn siarad â dy ffrindiau agos yn rheolaidd? Gelli di wneud yr un fath gyda Duw. Gweddïa arno’n aml, gan ddefnyddio ei enw, Jehofa. (Salm 86:5-7; 88:9) Mae’r Beibl yn ein hannog ni: “Daliwch ati i weddïo.”—1 Thesaloniaid 5:17.

“Sgwrs rhyngo i a fy Nhad nefol yw gweddi, cyfle imi dywallt fy nghalon.”—Moises.

“Dw i’n siarad â Jehofa yn hollol agored, yn union fel y byddwn i’n siarad â fy mam neu unrhyw ffrind agos.”—Karen.

Beth galla’ i weddïo amdano?

Mae’r Beibl yn dweud: “Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.”—Philipiaid 4:6.

Ydy hynny’n golygu ei bod hi’n iawn iti weddïo am dy broblemau? Ydy! Yn wir, mae’r Beibl yn dweud: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di.”—Salm 55:22.

Wrth gwrs, dylet ti siarad am fwy na dy broblemau yn unig yn dy weddïau. “Fyddai hi ddim yn berthynas agos ’taswn i ddim ond yn gofyn i Jehofa am help,” meddai merch o’r enw Chantelle. “Dw i’n teimlo y dylwn i ddiolch i Dduw yn gyntaf a dylai’r rhestr o bethau i ddiolch amdanyn nhw fod yn un hir.”

Rhywbeth i’w ystyried: Pa bethau wyt ti’n ddiolchgar amdanyn nhw? Elli di feddwl am dri pheth i ddiolch i Jehofa amdanyn nhw heddiw?

“Gall hyd yn oed rhywbeth syml, fel blodyn hardd, wneud i ni ddiolch i Jehofa mewn gweddi.”—Anita.

“Meddylia am rywbeth ym myd natur sy’n gwneud argraff arnat ti, neu adnod o’r Beibl sy’n cyffwrdd dy galon, a diolch i Jehofa amdano.”—Brian

Barn dy gyfoedion

Moises

“Dylai ein gweddïau ddod o waelod calon. Mae Jehofa eisiau ein helpu ni. Mae’n gwybod yn union beth sydd ei angen arnon ni cyn i ni ofyn ond rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ymddiried ynddo drwy weddïo arno.”—Moises.

Miranda

“Mae gweddi yn debyg i raff, gyda Jehofa ar un pen a fi ar y pen arall. Pan fydda i’n gweddïo o fy nghalon, dw i’n cydio’n dynn yn y rhaff, mae Jehofa yn gwneud yr un fath, ac mae’r berthynas rhyngon ni yn gryfach nag erioed.”—Miranda.

Jeremy

“Os nad ydyn ni’n ofalus, gall ein gweddïau droi yn rhestr o ddymuniadau. Ond mae diolch i Jehofa yn ein helpu ni i werthfawrogi’r pethau y mae wedi eu rhoi i ni ac i ganolbwyntio ar rywbeth mwy na ni’n hunain.”—Jeremy.

Shelby

“Mwyaf yn y byd rydyn ni’n diolch i Jehofa, mwyaf diolchgar rydyn ni’n teimlo. Mae diolch i Jehofa mewn gweddi yn ein helpu ni i feddwl am ein bendithion yn hytrach na’n trafferthion.”—Shelby.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu