LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwwd erthygl 1
  • Campau Hedfan y Pry Ffrwythau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Campau Hedfan y Pry Ffrwythau
  • Wedi ei Ddylunio?
  • Erthyglau Tebyg
  • Paid â’u Hofni!
    Canwn yn Llawen i Jehofa
  • Peidiwch â’u Hofni!
    Canwch i Jehofa
Wedi ei Ddylunio?
ijwwd erthygl 1
Pry ffrwythau

WEDI EI DDYLUNIO?

Campau Hedfan y Pry Ffrwythau

Mae unrhyw un sydd wedi ceisio lladd pry yn gwybod pa mor anodd yw’r dasg. Gyda’r gallu i ymateb fel mellten, fe lwydda’r pryfed hyn i osgoi bron pob ymdrech i’w dal.

Mae gwyddonwyr wedi canfod bod pryfed ffrwythau yn gallu troi mewn modd tebyg i awyren ymladd, a hynny mewn llai na phum milfed ran o eiliad. O’u genedigaeth, “maen nhw’n gallu hedfan fel pencampwyr,” meddai’r Athro Michael Dickinson. “Mae fel rhoi babi newydd mewn sedd peilot awyren ymladd ac yntau’n gwybod yn union beth i’w wneud.”

Fe wnaeth ymchwilwyr ffilmio campau hedfan y pryfed hyn, a darganfod eu bod nhw’n curo’u hadenydd 200 o weithiau bob eiliad. Ond dim ond un curiad sydd ei angen iddyn nhw newid cyfeiriad a dechrau dianc.

A beth am yr amser ymateb? Canfu’r ymchwilwyr fod y pryfed hyn yn gallu ymateb i fygythiad ryw 50 gwaith yn gyflymach nag amrantiad dynol. “Mae’r pryf yn gweithio allan, yn hynod o fanwl a sydyn, lle mae’r peryg ac i ba gyfeiriad yn union y dylai hedfan i’w osgoi,” esbonia Dickinson.

Sut yn union mae ymennydd pitw y pry yn gallu gwneud hyn? Dyma un o ddirgelion peirianneg y byd natur y mae ymchwilwyr yn awyddus i’w ddatrys.

Mae pry ffrwythau yn newid cyfeiriad wrth hedfan

Mae pryfed ffrwythau yn dianc drwy newid cyfeiriad a hynny mewn llai na phum milfed ran o eiliad

Beth yw eich barn chi? Ai rhywbeth a wnaeth esblygu yw gallu hedfan y pry ffrwythau? Neu rywbeth a gafodd ei ddylunio?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu