LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwhf erthygl 1
  • Help i Reoli Eich Tymer

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Help i Reoli Eich Tymer
  • Help ar Gyfer y Teulu
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth dylech ei wybod?
  • Beth gallwch ei wneud?
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ddicter?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Iechyd Emosiynol
    Deffrwch!—2019
Help ar Gyfer y Teulu
ijwhf erthygl 1
Gwraig yn gwylltio o weld ei gŵr yn gwylio’r teledu tra ei bod hi’n golchi’r llestri

HELP AR GYFER Y TEULU

Help i Reoli Eich Tymer

Mae eich cymar yn dweud rhywbeth sy’n eich digio, ac rydych chi’n ceisio mygu eich teimladau. Ond wedyn mae eich cymar yn sylweddoli bod rhywbeth o’i le ac yn dechrau holi. Mae hynny’n codi eich gwrychyn yn fwy byth. Sut gallwch chi reoli eich tymer mewn sefyllfa o’r fath?

  • Beth dylech ei wybod?

  • Beth gallwch ei wneud?

Beth dylech ei wybod?

  • Gall gwylltio effeithio ar eich iechyd. Mae ymchwil yn dangos bod methu rheoli dicter yn cynyddu’r risg o bwysau gwaed uchel, clefyd y galon, iselder, a phroblemau stumog a threulio bwyd. Mae dicter hefyd wedi ei gysylltu ag anawsterau cysgu, gorbryder, problemau gyda’r croen, a strôc. Nid heb reswm mae’r Beibl yn dweud: “Paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny.”​—Salm 37:8, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

  • Gall mygu eich dicter fod yr un mor niweidiol. Mae dicter sy’n dal i gorddi yn debyg i haint sy’n gwenwyno’r corff o’r tu mewn. Gall rhywun sy’n dal dig droi’n chwerw ac yn feirniadol. Mae’n anodd byw gyda phobl fel hynny, ac fe allai wneud drwg difrifol i’ch priodas.

Beth gallwch ei wneud?

  • Edrychwch am rinweddau eich cymar. Rhestrwch dri pheth rydych chi’n eu hedmygu am eich cymar. Y tro nesaf ichi deimlo’n flin am rywbeth y mae ef neu hi’n ei wneud, meddyliwch am y rhinweddau ar eich rhestr. Bydd hynny’n eich helpu chi i reoli eich tymer.

    Egwyddor o’r Beibl: “Byddwch yn ddiolchgar.”​—Colosiaid 3:​15.

    Gwraig brysur yn meddwl am y ffordd mae ei gŵr yn helpu yn y tŷ, yn gwrando arni, ac yn edrych ar ei hôl pan fydd hi’n sâl
  • Ceisiwch fod yn fwy maddeugar. Yn gyntaf, ceisiwch weld pethau drwy lygaid eich cymar. Bydd hyn yn eich helpu chi i feithrin empathi, i “gydymdeimlo â’ch gilydd.” (1 Pedr 3:8) Nesaf, gofynnwch i chi’ch hun, ‘Ydy’r peth sydd wedi fy ngwylltio mor ddifrifol fel na allwn ei faddau?’

    Egwyddor o’r Beibl: “Mae rhywun call . . . i’w ganmol am faddau.”​—Diarhebion 19:11.

  • Byddwch yn garedig ac yn dringar wrth fynegi eich teimladau. Dechreuwch gyda “Rydw i” yn lle “Rwyt ti.” Er enghraifft, yn lle dweud, “Rwyt ti’n mor ddifeddwl! Pam wnest ti ddim ffonio a dweud lle oeddet ti?” dywedwch, “Rydw i’n poeni pan wyt ti’n hwyr, ac dw i eisiau gwybod dy fod ti’n saff.” Bydd mynegi eich teimladau mewn ffordd addfwyn yn eich helpu chi i reoli eich tymer.

    Egwyddor o’r Beibl: “Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen.”​—Colosiaid 4:6, BCND.

  • Gwrandewch yn barchus. Ar ôl ichi ddweud eich dweud, gwrandewch ar ymateb eich cymar heb dorri ar draws. Pan fydd eich cymar wedi gorffen, ceisiwch aralleirio yr hyn a ddywedodd i weld a ydych chi wedi deall yn iawn. Bydd y broses o wrando ynddo’i hun yn eich helpu chi i reoli eich dicter.

    Egwyddor o’r Beibl: “Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll.”​—Iago 1:​19.

Tim a Jennifer

“Os ydych chi’n mygu eich dicter, bydd y broblem yn dod yn ôl ac yn y pen draw byddwch chi’n ffrwydro. Mae’n well trafod y broblem yn barchus. Ar ôl trafod, mae fy ngŵr a minnau’n hoff o ddweud, ‘Gad inni fod yn ffrindiau eto.’”​—Jennifer a’i gŵr, Tim.

Jade a Corey

“Rhywbeth dw i’n ddiolchgar iawn amdano yw bod fy ngŵr bob amser yn gwrando arna i, ac yn cydnabod fy mhryderon. Hyd yn oed os nad ydy o’n cytuno, mae o’n ystyried fy safbwynt. Dydy o byth yn gwneud imi deimlo’n dwp oherwydd y ffordd dw i’n teimlo.”​—Jade a’i gŵr, Corey.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu