LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwhf erthygl 8
  • Sut i Feithrin Amynedd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Feithrin Amynedd
  • Help ar Gyfer y Teulu
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Pam mae angen amynedd?
  • Sut mae dangos amynedd?
  • Parha i Fod yn Amyneddgar
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Amynedd—Dyfalbarhau Mewn Gobaith
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Byddwch yn Amyneddgar
    Canwn yn Llawen i Jehofa
Help ar Gyfer y Teulu
ijwhf erthygl 8
Gŵr yn disgwyl yn ddiamynedd tra bod ei wraig yn siopa am esgidiau

HELP AR GYFER Y TEULU | PRIODAS

Sut i Feithrin Amynedd

“Mae amynedd gŵr a gwraig o dan brawf bob dydd. Efallai dydy amynedd ddim yn rhy bwysig pan ’dych chi’n sengl, ond mae’n hanfodol ar gyfer priodas lwyddiannus.”—John.

  • Pam mae angen amynedd?

  • Sut mae dangos amynedd?

  • “Mae amynedd yn hanfodol”

Pam mae angen amynedd?

  • Mae priodas yn gallu amlygu gwendidau eich cymar.

    “Ar ôl dod i arfer â bod yn briod, mae’n hawdd ffocysu ar ochr gwaethaf eich cymar. Pan mae agwedd negyddol felly yn dechrau ymwreiddio, mae’n hawdd colli dy amynedd.”—Jessena.

  • Gall diffyg amynedd wneud i chi siarad cyn meddwl.

    “Dw i’n wastad yn barod i siarad am sut dw i’n teimlo—weithiau’n rhy barod. Os o’n i’n fwy amyneddgar, byddwn yn gallu gweld pethau yn eu gwir oleuni a symud ymlaen heb orfod dweud dim.”—Carmen.

    Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cariad yn amyneddgar.” (1 Corinthiaid 13:4) Mae’n rhesymol i feddwl y byddai dau berson sy’n caru ei gilydd yn dangos amynedd. Ond dydy hynny ddim bob amser yn wir. “Fel unrhyw rinwedd dda, mae’n haws colli amynedd na’i feithrin. Mae’n cymryd ymdrech i’w ddatblygu,” meddai John a siaradodd gynt.

Sut mae dangos amynedd?

  • Pan fydd rhywbeth annisgwyl yn rhoi prawf ar eich amynedd.

    Esiampl: Mae’ch cymar yn dweud rhywbeth angharedig wrthych chi. Eich ymateb cyntaf yw brathu yn ôl.

    Egwyddor o’r Beibl: “Paid gwylltio’n rhy sydyn; gwylltineb sydd yng nghalon ffyliaid.”—Pregethwr 7:9.

    Sut i ddangos amynedd: Pwyllo. Cyn i chi ymateb, chwiliwch am reswm arall heblaw ymosodiad bwriadol dros beth ddywedodd ef neu hi. “Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ymateb yn fwy i’r ffordd rydyn ni wedi cymryd rhywbeth a ddywedodd ein partner yn hytrach na’r hyn a ddywedodd neu’r hyn oedd yn ei feddwl,” meddai’r llyfr Fighting for Your Marriage.

    Yn debyg i roi tanwydd ar y tân, mae gŵr yn brathu yn ôl ar ôl i’w wraig ei bryfocio; fel tân yn diffodd, mae gŵr yn ei ffrwyno ei hun ar ôl i’w wraig ei bryfocio

    Hyd yn oed os oedd eich cymar yn trio eich pryfocio chi, gallwch ddangos amynedd drwy dal yn ôl rhag talu yn ôl, ac felly lleihau’r tensiwn yn hytrach nag ychwanegu ato. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae tân yn diffodd os nad oes coed i’w llosgi.”—Diarhebion 26:20.

    “Os wyt ti’n dechrau cael teimladau negyddol tuag at dy wraig, stopia a meddylia am pam wyt ti’n ei charu hi a cheisia wneud rhywbeth neis iddi ar unwaith.”—Ethan.

    Rhywbeth i’w ystyried:

    • Sut rydych chi’n ymateb pan fydd eich cymar yn dweud neu’n gwneud rhywbeth angharedig?

    • Sut gallwch chi ddangos mwy o amynedd tro nesaf y bydd hyn yn digwydd?

  • Pan fydd yr un broblem yn profi eich amynedd, dro ar ôl tro.

    Esiampl: Mae’ch cymar yn hwyr bob tro, yn gwneud i chi ddisgwyl—a gwylltio.

    Egwyddor o’r Beibl: “Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill.”—Colosiaid 3:13.

    Sut i ddangos amynedd: Ceisiwch roi anghenion eich perthynas o flaen eich anghenion personol. Gofynnwch i’ch hun, ‘A fydd codi dadl am hyn yn helpu ein perthynas neu’n gwneud niwed iddi?’ Cofiwch hefyd, ein bod “ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau.” (Iago 3:2) Mae hyn yn golygu bod gennych chithau bethau i weithio arnyn nhw hefyd.

    “Weithiau dw i’n dangos mwy o amynedd tuag at fy ffrindiau nag ydw i at fy ngŵr. Dw i’n meddwl oherwydd dw i’n treulio mwy o amser gyda fy ngŵr, felly dw i’n gweld ei wendidau. Ond mae amynedd yn agwedd o gariad—arwydd o barch mewn gwirionedd—felly mae’n hanfodol yn fy mhriodas i.”—Nia.

    Rhywbeth i’w ystyried:

    • Ydych chi’n amyneddgar gyda gwendidau eich cymar?

    • Sut gallwch chi ddangos mwy o amynedd yn y dyfodol?

“Mae amynedd yn hanfodol”

Jessena, gyda’i gŵr, Hayden

“Mae amynedd yn hanfodol mewn priodas lwyddiannus. Rhwng dau berson amherffaith, bydd amryw o broblemau yn codi, a gall hyd yn oed eu ffordd o wneud pethau fynd ar eich nerfau. Os nad ydyn ni’n dangos amynedd, gall y problemau hyn fod yn debyg i bryfed pren ac erydu sylfaen y briodas.”—Jessena, gyda’i gŵr, Hayden.

Adolygu: Sut i Feithrin Amynedd Mewn Priodas

Pan fydd rhywbeth annisgwyl yn rhoi prawf ar eich amynedd

Cyn i chi ymateb, chwiliwch am reswm arall heblaw ymosodiad bwriadol dros beth ddywedodd eich cymar.

Pan fydd yr un broblem yn profi eich amynedd, dro ar ôl tro

Ceisiwch roi anghenion eich perthynas o flaen eich anghenion personol. Atgoffwch eich hun fod gennych chithau bethau i weithio arnyn nhw hefyd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu