LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwwd erthygl 11
  • Llysnafedd Gludiog y Wlithen

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Llysnafedd Gludiog y Wlithen
  • Wedi ei Ddylunio?
  • Erthyglau Tebyg
  • Glud y Gragen Long
    Wedi ei Ddylunio?
Wedi ei Ddylunio?
ijwwd erthygl 11
Gwlithen yn cynhyrchu llysnafedd.

WEDI EI DDYLUNIO?

Llysnafedd Gludiog y Wlithen

Mae llawfeddygon wedi teimlo ers tro y byddai gludion meddygol yn help mawr mewn llawdriniaethau ac i gau clwyfau ym meinwe’r corff. Mae llawer o’r gludion sydd ar gael ar hyn o bryd yn anaddas i’w defnyddio y tu mewn i’r corff. Maen nhw’n wenwynig, maen nhw’n mynd yn rhy galed, ac ni fyddan nhw’n glynu wrth feinweoedd gwlyb. Drwy astudio llysnafedd gwlithen,a mae gwyddonwyr wedi gweld ffordd i ddatrys y problemau hyn.

Ystyriwch: Pan fydd y wlithen yn teimlo dan fygythiad, mae’n cynhyrchu llysnafedd sy’n ddigon gludiog i ludo’r wlithen wrth ddeilen wleb. Mae hyn yn amddiffyn y wlithen, heb ei rhwystro rhag symud yn gyfan gwbl.

Dangosodd ymchwil fod y llysnafedd yn effeithiol fel glud naturiol am nifer o resymau. Er enghraifft, mae’r llysnafedd yn defnyddio bond cemegol yn ogystal ag atyniad electrostatig. Mae’n treiddio i’r wyneb y mae’r wlithen yn glynu wrtho, ac yn aros yn ystwyth o dan bwysau. Drwy lunio sylwedd sy’n efelychu priodoleddau llysnafedd gwlithod, mae ymchwilwyr wedi creu glud llawer cryfach na’r gludion meddygol sydd ar gael ar hyn o bryd, ac sy’n gallu glynu wrth organau byw. Dywedir ei fod “yn glynu wrth organau cystal ag y mae cartilag yn glynu wrth esgyrn.”

Mae arbenigwyr yn credu y gallai’r glud hwn fod ymhlith arfau pob llawfeddyg, gan ddileu’r angen am bwythau a styffylau. Gellid ei ddefnyddio i drwsio cartilag neu i gadw teclynnau meddygol yn eu lle yn y corff. Mewn profion, mae’r glud eisoes wedi llwyddo i gau twll yng nghalon mochyn, ac i drwsio tyllau yn yr iau mewn llygod mawr.

Mae gwyddonwyr yn aml yn cael atebion rhagorol i broblemau cyffredin drwy astudio byd natur o’n cwmpas. “Mae’n gwestiwn o wybod lle i edrych, ac o adnabod syniad da pan welwch chi un,” meddai Donald Ingber, cyfarwyddwr y sefydliad sydd wedi datblygu’r glud newydd.

Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai esblygu a wnaeth y glud yn llysnafedd y wlithen? Neu a gafodd ei ddylunio?

a Enw gwyddonol y wlithen yw Arion subfuscus.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu