LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwwd erthygl 13
  • Croen Rhyfeddol y Pomelo

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Croen Rhyfeddol y Pomelo
  • Wedi ei Ddylunio?
  • Erthyglau Tebyg
  • Croen Clyfar Ciwcymbyr y Môr
    Wedi ei Ddylunio?
Wedi ei Ddylunio?
ijwwd erthygl 13
Ffrwyth pomelo ar goeden.

WEDI EI DDYLUNIO?

Croen Rhyfeddol y Pomelo

Ffrwyth mawr sitrws â blas melys sy’n tyfu ar goeden yw’r pomelo. Er bod y ffrwythau weithiau’n disgyn mwy na 10 metr (30 troedfedd), dydyn nhw ddim yn cleisio. Sut mae croen y ffrwyth hwn mor dda am leddfu effaith taro’r ddaear?

Ystyriwch: Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod haenen wen fewnol yn y croen ar ffurf rhwydwaith o gelloedd a bylchau sy’n debyg i sbwng. Yn ddyfnach yn y croen mae mwy o le rhwng y celloedd, ac mae’r bylchau hyn yn llawn aer neu hylif. Pan fydd y ffrwyth yn disgyn a tharo’r ddaear, mae’r hylif yn gweithio fel clustog. Mae croen y pomelo yn cael ei gywasgu a’i dynhau ac felly yn dal yr ergyd yn lle torri.

Ffrwyth pomelo wedi ei dorri yn ei hanner i ddangos y croen sy’n debyg i sbwng. Mae’r llun meicrosgop yn dangos y celloedd a’r bylchau rhyngddyn nhw.

Mae gwyddonwyr yn arbrofi gyda math o sbwng siocleddfol sydd wedi ei wneud o fetel. Mae wedi ei ddylunio i fod yn debyg i strwythur croen y pomelo. Y gred yw y byddai deunydd o’r fath yn ddefnyddiol mewn helmedau i feicwyr, mewn paneli sy’n diogelu cerbydau, ac i amddiffyn gorsafoedd gofod rhag meteoroidau.

Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai esblygu a wnaeth croen rhyfeddol y pomelo? Neu a gafodd ei ddylunio?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu