LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • hdu erthygl 14
  • Cymorth Byd-eang ar Gyfer Pandemig Byd-eang

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cymorth Byd-eang ar Gyfer Pandemig Byd-eang
  • Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Cymorth i’r Rhai Mewn Angen
  • Defnyddio Cyfraniadau yn Ddoeth
  • ”Tystiolaeth o Gariad Diffuant”
  • Darparu Cymorth i Rai Sydd Wedi Dioddef Trychinebau
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • Cymorth ar ôl Trychineb yn 2021—Ddim yn Cefnu ar Ein Brodyr a’n Chwiorydd
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • A Welwn Ni Fywyd Normal Eto? Sut Gall y Beibl Helpu Mewn Byd ar ôl y Pandemig
    Pynciau Eraill
  • Sut i Drechu Blinder Pandemig
    Pynciau Eraill
Gweld Mwy
Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
hdu erthygl 14
Brodyr yn dosbarthu pecynnau cymorth i fam a’i merch ifanc.

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Cymorth Byd-eang ar Gyfer Pandemig Byd-eang

GORFFENNAF 1, 2021

Ym mis Mawrth 2020, pan ddatganodd Sefydliad Iechyd y Byd fod COVID-19 yn bandemig, prin gallai neb fod wedi dychmygu y byddai’r feirws yn dal i effeithio’r byd mwy ’na flwyddyn wedyn. Mae miliynau o bobl gan gynnwys rhai o Dystion Jehofa, wedi dioddef effeithiau corfforol, emosiynol, ac ariannol oherwydd y pandemig. Sut mae Tystion Jehofa wedi trefnu darparu cymorth yn ystod y creisis?

Cymorth i’r Rhai Mewn Angen

O dan gyfarwyddyd Pwyllgor Cydlynwyr Corff Llywodraethol Tystion Jehofa mae dros 950 o Bwyllgorau Cymorth ar ôl Trychineb wedi cael eu sefydlu o gwmpas y ddaear mewn ymateb i COVID-19. Mewn rhai achosion maen nhw wedi trefnu rhoi cymorth yn lleol, ac mewn achosion eraill, maen nhw wedi trefnu i Dystion elwa ar gymorth gan y llywodraeth. Mae’r Pwyllgorau Cymorth hefyd wedi trefnu cymorth ar raddfa fawr.

Ystyriwch y sefyllfa ym Mharagwâi er enghraifft. Yn ôl adroddiad un papur newydd, o ganlyniad i’r problemau economaidd sy’n cael eu hachosi gan y pandemig, “does gan lawer o bobl Paragwâi ddim digon o fwyd i fwyta.” Ond roedd y Pwyllgorau Cymorth ym Mharagwâi eisoes wedi dechrau dosbarthu pecynnau gyda gwerth dwy wythnos o nwyddau—digon o fwyd, deunydd glanhau, ac eitemau hylendid personol ar gyfer teulu o bedwar. Mae pob pecyn yn werth tua £20.

Sut mae’r gweithwyr cymorth yn amddiffyn eu hunain ac eraill rhag cael ei heintio â COVID-19? Maen nhw’n gwisgo mygydau ac yn cadw pellter cymdeithasol. Maen nhw hefyd yn gwneud yn siŵr fod y cwmnïau sy’n darparu’r bwyd yn defnyddio llefydd glân, a bod y camau iechyd a diogelwch mwyaf cadarn ar waith. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod pawb sydd yn cyffwrdd â’r pecynnau yn cael eu cyfarwyddo i wisgo cyfarpar amddiffyn personol, i lanhau a diheintio eu cerbydau, ac i gadw’r pecynnau ar wynebedd sydd wedi ei ddiheintio. Yn olaf, mae’r rhai sydd yn dosbarthu’r pecynnau yn cadw pellter corfforol oddi wrth y brodyr sydd yn eu derbyn nhw.

Defnyddio Cyfraniadau yn Ddoeth

Ers Ionawr 2021, mae Pwyllgor y Cydlynwyr wedi cymeradwyo gwario dros £17 miliwn ar gymorth COVID-19. Mae’r canghennau a’r pwyllgorau cymorth yn defnyddio’r cyfraniadau ariannol hyn yn ofalus ac yn gweithio’n galed i gael y pris gorau ar gyfer yr eitemau sydd eu hangen. Yn Tsile, er enghraifft, roedd y brodyr oedd yn trefnu’r gwaith cymorth eisiau prynu 750 cilogram (1,653 pwys) o ffacbys. Ond mewn cwta fis, roedd pris ffacbys wedi dyblu! Dwy awr ar ôl iddyn nhw gytuno prynu’r ffacbys am y pris uwch, dywedodd y gwerthwr fod prynwr arall newydd ddychwelyd ei archeb o ffacbys. Felly yn lle codi’r pris uwch roedden nhw wedi cytuno arno, mi wnaeth y gwerthwr ailwerthu’r ffacbys i’n brodyr am bris y mis cynt!

Ond pan aeth ein brodyr i gasglu’r ffacbys mi wnaeth y gwerthwr geisio mynd yn ôl ar ei air a chanslo’r cytundeb gan eu cyhuddo o ddosbarthu bwyd yn annheg fel yr oedd cyfundrefnau eraill wedi ei wneud. Ar ôl gweddi fer ddistaw, esboniodd un o’n brodyr i’r gwerthwr fod ymholiadau eisoes wedi cael eu gwneud ym mhob cynulleidfa i weld lle oedd y gwir angen. Mi wnaeth y brodyr hefyd esbonio; gan fod cefndir diwylliannol y rhai oedd am dderbyn y bwyd yn amrywio, byddai pob pecyn cymorth yn cael ei addasu yn ôl angen personol yr unigolion, gyda nwyddau a fyddai o’r defnydd mwyaf i’r teulu oedd am eu derbyn. Yn olaf, gwnaethon nhw sicrhau i’r gwerthwr fod pob llafur a chyfraniadau ariannol sy’n cael eu gwneud i Dystion Jehofa yn gwbl wirfoddol. Creodd hynny gryn argraff arno. Nid yn unig cytunodd y gwerthwr i’r pris oedd wedi cael ei ostwng ond hefyd cyfrannodd y gwerthwr ei hun 400 cilogram (882 pwys) o ffacbys at archeb nesaf y brodyr.

”Tystiolaeth o Gariad Diffuant”

Mae Lusu, gweddw oedrannus yn Liberia, yn byw gyda phum aelod o’i theulu. Un bore, wrth iddyn nhw fwyta eu brecwast ac ystyried testun Beiblaidd y dydd, sylwodd ŵyr saith oed Lusu fod ’na ddim bwyd ar ôl yn y tŷ. Gofynnodd, “Beth ydyn ni’n mynd i fwyta?” Gwnaeth Lusu ei sicrhau ei bod wedi gweddïo am help yn barod a bod hi’n hyderus y byddai Jehofa yn edrych ar eu holau nhw. Y pnawn hwnnw, derbyniodd Lusu alwad gan henuriaid y gynulleidfa yn ei gwahodd hi i ddod i gasglu pecynnau bwyd. Mae Lusu’n dweud: “Mae fy ŵyr yn dweud ei fod yn gwybod nawr fod Jehofa yn gwrando ac yn ateb gweddïau am fod Jehofa wedi ateb fy ngweddi i.”

Tynnodd plant yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo luniau i ddiolch i’n brodyr am y pecynnau bwyd

Mae un ddynes yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn byw drws nesaf i deulu o Dystion. Ar ôl iddi weld y teulu yn derbyn bwyd gan eu cyd-gredinwyr, dywedodd, “Ar ôl y pandemig ddown ni’n Dystion Jehofa oherwydd eu bod nhw wedi gofalu am eu brodyr a’u chwiorydd yn ystod yr amser caled hwn.“ Gofynnodd ei gŵr, “Wyt ti’n mynd i ddod yn un o Dystion Jehofa am sachaid o reis yn unig?” Atebodd hi, “Nac ydw siŵr iawn, ond mae’r sachaid o reis hwnnw yn arwydd o gariad diffuant.”

Mae Tystion Jehofa wedi gallu ymateb yn gyflym i anghenion ein brodyr a’n chwiorydd yn ystod y pandemig oherwydd eich cyfraniadau hael. Diolch am y cyfraniadau rydych chi wedi eu gwneud gan ddefnyddio’r dulliau sy’n cael eu disgrifio ar donate.jw.org.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu