SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Adeiladau Sy’n Dod â Chlod i’r Athro Gorau Oll
1 GORFFENNAF, 2023
Mae Jehofa wrth ei fodd yn dysgu ei bobl. Felly mae ei gyfundrefn wedi sefydlu nifer o ysgolion er mwyn hyfforddi myfyrwyr ar gyfer gwasanaethu Jehofa. Un o’r rhain yw’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas (School for Kingdom Evangelisers, SKE). Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cyfundrefn Duw wedi rhoi sylw, nid yn unig i gynnwys y cwrs ei hun, ond hefyd i’r adeiladau lle mae’r ysgolion hyn yn cael eu cynnal. Y nod oedd gwella’r amgylchedd dysgu i’r myfyrwyr ac i’r athrawon. Sut mae eich cyfraniadau yn ein helpu i wneud hynny?
Mwy o Fyfyrwyr Mewn Amgylchedd Gwell
Ers blynyddoedd lawer, mae ysgolion theocrataidd wedi cael eu cynnal mewn Neuaddau’r Deyrnas a Neuaddau Cynulliad. Ond yn ddiweddar rydyn ni wedi adnewyddu adeiladau neu godi rhai newydd i’w defnyddio ar gyfer ysgolion yn unig. Ystyriwch dri rheswm am hyn.
Anghenion mwy. “Mae nifer o ganghennau’n dweud bod anghenion y maes wedi tyfu,” meddai Christopher Mavor, sydd yn helpwr i Bwyllgor Gwasanaeth y Corff Llywodraethol. “Er enghraifft, yn 2019, dywedodd y gangen ym Mrasil y byddai angen tua 7,600 o raddedigion SKE ychwanegol er mwyn gofalu am y maes yn yr ardal dan eu gofal.” Mae cangen yr Unol Daleithiau yn dweud bod angen mwy o arloeswyr cymwys sydd yn gallu hyfforddi eraill ar gyfer tystiolaethu cyhoeddus metropolitan arbennig, a thystiolaethu mewn porthladdoedd a charchardai. Mae angen hefyd am frodyr i wasanaethu gydag Adran Dylunio ac Adeiladu’r Gangen ac ar Bwyllgorau Cyswllt Ysbytai. Mae graddedigion SKE yn gallu helpu yn y meysydd hyn.
Nifer y ceisiadau. Mae llawer o ganghennau wedi cael mwy o geisiadau nag y gallan nhw eu derbyn. Ym Mrasil, er enghraifft, cafodd y swyddfa gangen tua 2,500 o geisiadau ar gyfer SKE mewn un flwyddyn yn unig. Ond oherwydd diffyg lleoedd i gynnal yr ysgolion, nid oedd modd derbyn mwy na 950 o fyfyrwyr.
Llety addas. Gan amlaf, pan fydd ysgolion yn cael eu cynnal mewn Neuaddau’r Deyrnas a Neuaddau Cynulliad, mae’r myfyrwyr yn cael llety yng nghartrefi’r brodyr a chwiorydd lleol. Mae hynny yn gweithio’n dda mewn gwledydd lle mai dim ond ychydig o ysgolion fydd yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Ond gall fod yn anodd i’r cyhoeddwyr lleol gynnig llety os bydd ysgolion yn cael eu cynnal yn rheolaidd. Felly mae’n well darparu llety sydd wedi ei ddylunio’n benodol ar gyfer myfyrwyr yn agos i’r ystafell ddosbarth.
Mae adeilad gydag un ystafell ddosbarth, llety i athrawon a tua 30 o fyfyrwyr, yn ogystal â gwasanaethau cynnal, yn gallu costio rhai miliynau o bunnau, gan ddibynnu ar y lleoliad a ffactorau eraill.
Nodweddion Adeiladau Ysgol
Fel arfer, mae’r ysgolion wedi eu lleoli mewn ardaloedd tawel y tu allan i ddinasoedd mawr, ond gyda chysylltiadau trafnidiaeth da. Yn ddelfrydol, byddan nhw mewn ardaloedd gyda nifer mawr o gyhoeddwyr sy’n gallu helpu i redeg yr ysgol ac i gynnal a chadw’r adeiladau a’r offer.
Mae gan yr ysgolion lyfrgelloedd, mannau astudio, cyfrifiaduron, peiriannau argraffu, ac offer eraill. Yn aml, ceir ystafell fwyta lle mae athrawon a myfyrwyr yn gallu cael prydau bwyd gyda’i gilydd. Mae digon o le hefyd ar gyfer ymarfer corff ac ymlacio.
Mae’r ystafelloedd dosbarth wedi cael eu cynllunio’n ofalus. Mae Troy, sy’n gweithio gyda’r Adran Dylunio ac Adeiladu Byd-Eang yn Warwick, Efrog Newydd, yn esbonio: “Gofynnon ni i’r Adran Ysgolion Theocrataidd am help i ddylunio ystafelloedd dosbarth lle byddai’n haws i bobl ddysgu. Cawson ni ganllawiau o ran maint a chynllun yr ystafelloedd, yn ogystal â goleuo ac offer sain a fideo.” Mae Zoltán, sydd yn dysgu cyrsiau SKE yn Hwngari, yn dweud am yr offer sain a fideo: “Ar y dechrau, doedd dim meicroffonau gynnon ni, felly roedden ni o hyd yn gofyn i’r myfyrwyr siarad yn uwch. Ond bellach mae meicroffon ar bob desg, felly mae’r broblem wedi ei datrys.”
‘Gwesteion Arbennig Jehofa’
Sut mae’r cyfleusterau gwell wedi effeithio ar yr athrawon a’r myfyrwyr? “Mae’r awyrgylch yn dawel iawn,” meddai Angela, a aeth i SKE yn Palm Coast, Fflorida, UDA. “Mae popeth wedi ei gynllunio’n dda, gan gynnwys yr ystafell ddosbarth a’n hystafelloedd ni, fel ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar astudio a dysgu.” Mae Csaba, sydd yn dysgu cyrsiau yn Hwngari, yn mwynhau cael cyfle i fwyta gyda’r myfyrwyr. “Dyna pryd mae’r myfyrwyr yn dweud wrthon ni am eu cefndir a’u profiadau,” meddai. “Rydyn ni’n dod i’w ’nabod yn well ac mae hynny yn ein helpu ni i addasu’r cwrs i’w hanghenion.”
Mae’r myfyrwyr a’r athrawon yn teimlo bod y cyfleusterau ysgolion newydd yn fendith oddi wrth Jehofa, yr Athro gorau oll. (Job 36:22) Dywedodd chwaer o Ynysoedd y Philipinau a aeth i SKE mewn adeilad oedd wedi ei adnewyddu ar gyfer yr ysgol: “Roedd awyrgylch yr ysgol yn ein hatgoffa ni ein bod ni’n fwy na myfyrwyr. Roedden ni’n westeion arbennig Jehofa. Mae Jehofa eisiau inni fwynhau astudio ei Air yn fanwl.”
Gallwn godi, adnewyddu, a chynnal adeiladau ar gyfer yr ysgolion hyn oherwydd eich cyfraniadau chi, llawer ohonyn nhw wedi eu rhoi drwy donate.jw.org. Diolch o’r galon am eich haelioni.