SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Mentrau Gwyrdd Sydd o Les i’n Brodyr ac i’r Blaned
1 EBRILL, 2025
Mae Tystion Jehofa yn gwybod y bydd Duw, yn fuan, yn achub y blaned rhag yr holl ddifrod y mae’r ddynolryw wedi ei achosi. (Datguddiad 11:18) Sut bynnag, rydyn ni hefyd yn gwneud yr hyn a allwn i ofalu am y blaned. Er enghraifft, rydyn ni wedi rhoi llawer o fentrau gwyrdd ar waith yn ein hadeiladau.
Mentrau gwyrdd, neu atebion gwyrdd, ydy prosiectau sydd yn lleihau difrod i’r amgylchedd. Beth rydyn ni wedi ei wneud? A sut mae’r mentrau hyn wedi ein helpu ni i ddefnyddio cyfraniadau’n dda?
Ffordd i Gadw Neuadd Cynulliad Rhag Gorboethi
Pan adeiladwyd Neuadd Cynulliad Matola ym Mozambique, roedd to sinc arni ac ochrau agored. Roedd y to yn gwneud y neuadd yn boeth ofnadwy. Mae un brawd lleol yn dweud: “Roedden ni’n chwysu yn y gwres. Ar ddiwedd y rhaglen roedd y brodyr yn rhuthro allan i oeri a chael awyr iach.” Sut roedden ni’n gallu creu awyrgylch a fyddai’n fwy addas ar gyfer dysgu?
Dewison ni ateb gwyrdd drwy inswleiddio’r to a defnyddio ffaniau wedi eu gyrru gan y gwynt i wyntyllu’r adeilad. Mae’r deunydd inswleiddio yn lleihau’r gwres sy’n dod i mewn i’r adeilad, ac mae’r ffaniau yn chwythu awyr iach drwyddo. Mae gwynt a llif naturiol yr aer yn gyrru’r ffaniau ac yn tynnu allan yr aer poeth sy’n casglu yn yr adeilad. Mae’r ffaniau hyn yn costio tua £40 ($50) yr un.a
Ffaniau sy’n cael eu gyrru gan y gwynt yn Neuadd Cynulliad Matola
Mae’r gwaith wedi gwella ansawdd yr aer yn y Neuadd yn fawr. Gan nad ydy’r aer yn sefyll yn llonydd, mae llai o leithder a llwydni yn yr adeilad. Mae lefel y carbon deuocsid yn is a lefel yr ocsigen yn uwch. O ganlyniad, mae’r gynulleidfa’n canolbwyntio’n well ac yn teimlo’n fwy cyfforddus. Mae’r brawd a ddyfynnwyd uchod yn dweud: “Nawr dydyn ni ddim yn rhuthro allan y munud mae’r sesiwn yn gorffen. Rydyn ni’n aros yn yr awditoriwm amser cinio ac yn sgwrsio gyda’n ffrindiau. Mae eistedd o dan y to newydd fel eistedd yng nghysgod coeden fawr hyfryd!”
Mae ein brodyr yn mwynhau’r cynulliadau a’r cynadleddau yn fwy byth heddiw
Defnyddio Ynni o Ffynhonnell Adnewyddadwy
Rydyn ni wedi gosod systemau solar ffotofoltäig (PV) mewn llawer o’n hadeiladau o gwmpas y byd. Mae’r systemau hyn yn defnyddio paneli solar i droi golau’r haul, sydd yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy, yn drydan. O ganlyniad, rydyn ni’n dibynnu llai ar drydan o danwydd ffosil. Mae systemau PV yn achosi llai o lygredd ac yn ein helpu ni i arbed arian.
Yn 2023, gosodwyd system PV yn Swyddfa Gangen Slofenia. Mae’n darparu 30 y cant o’r ynni sydd ei angen yn yr adeilad. Os bydd y system yn cynhyrchu mwy o ynni na’r hyn sydd ei angen, gall yr ynni dros ben gael ei fwydo’n ôl i rwydwaith trydan yr ardal leol. Costiodd y system £285,000 ($360,000), ond gan fod biliau trydan y gangen bellach yn is, bydd y system yn talu amdani ei hun mewn pedair blynedd.
Cangen Slofenia
Yn 2024, gosodwyd paneli solar a batri mawr yn Swyddfa Gangen Sri Lanca. Costiodd y system tua £2.4 miliwn ($3 miliwn), ac mae’n darparu 70 y cant o’r ynni y mae’r gangen yn ei ddefnyddio. Bydd yr arbedion yn talu am y paneli o fewn tair blynedd. Yn ystod yr un flwyddyn gosodwyd system PV yn Swyddfa Gangen yr Iseldiroedd hefyd. Costiodd tua £870,000 ($1.1 miliwn), ac mae’n darparu 35 y cant o ynni y mae’r gangen yn ei ddefnyddio. Bydd y system yn talu amdani ei hun mewn naw mlynedd.
Cangen yr Iseldiroedd
Rydyn ni hefyd wedi gosod systemau PV mewn nifer o swyddfeydd cyfieithu ym Mecsico. Ystyriwch un enghraifft: Swyddfa Gyfieithu Tarahwmara (Canol) yn Chihuahua. Yn y gaeaf, mae’r tymheredd yn disgyn yn is na’r rhewbwynt, ac yn yr haf mae’n gallu cyrraedd mwy na 40 gradd Celsius (104°F)! Ond oherwydd bod trydan mor ddrud, roedd y brodyr yn osgoi defnyddio systemau gwresogi ac oeri. Mae Jonathan, sy’n gweithio yn y swyddfa yno yn dweud: “Roedden ni’n gwisgo’n gynnes a defnyddio blancedi yn y gaeaf ac yn agor y ffenestri yn yr haf.”
Yn 2024, gosodwyd system PV yn y swyddfa. Costiodd £17,000 ($21,480), ond bydd yr arbedion yn talu am y system o fewn pum mlynedd. Mae ein brodyr yn gallu defnyddio’r systemau gwresogi ac oeri yn fwy aml nawr. “Rydyn ni’n mwynhau ein gwaith yn fwy, ac yn gweithio’n fwy effeithiol bellach,” meddai Jonathan. “Ac mae gwybod bod ein cyfundrefn yn defnyddio adnoddau’n effeithlon ac mewn ffordd sydd yn dda i’r amgylchedd yn deimlad braf.”
Mae swyddfa tîm cyfieithu Tarahwmara (Canol) bellach yn llawer mwy cyfforddus.
Casglu a Defnyddio Dŵr Glaw
Yn Affrica, mae rhai Neuaddau’r Deyrnas heb gyflenwad dŵr dibynadwy. Felly mae’r brodyr yn gorfod cario dŵr i’r Neuadd, sydd weithiau sawl milltir i ffwrdd. Mewn mannau eraill, mae’r brodyr yn prynu dŵr sy’n dod mewn lori, ond mae hynny yn ddrud ac nid yw’n dda i’r amgylchedd.
I ddarparu dŵr mewn llawer o Neuaddau’r Deyrnas, rydyn ni wedi gosod cafnau ar y to ynghyd â thanciau dŵr mawr i gasglu’r glaw. Cyn gosod yr offer, mae’r brodyr yn astudio’r hinsawdd leol yn ofalus er mwyn sicrhau eu bod nhw’n dewis y system fwyaf effeithiol ar gyfer y neuadd. Mae’n costio rhwng £475 a £2,400 ($600-$3,000) i osod systemau fel hyn. Ond yn aml iawn, mae’n lleihau costau rhedeg y neuaddau, gan nad oes angen i’r brodyr dalu am ddŵr wedyn.
Tanc dŵr ar dir Neuadd y Deyrnas yn Phuthaditjhaba, De Affrica
Mae’r systemau casglu dŵr wedi helpu’r brodyr yn fawr. Dywedodd chwaer o’r enw Noemia, o Mozambique: “Yn y gorffennol, roedden ni’n teithio’n bell i nôl dŵr ar gyfer Neuadd y Deyrnas. Erbyn inni gyrraedd, roedden ni wedi blino’n lân. A gan fod dŵr yn brin, roedd hi’n anodd cadw’n lân. Ond nawr gall pawb olchi dwylo. Gallwn ni fynd i Neuadd y Deyrnas heb fod yn rhy flinedig i fwynhau’r cyfarfod. Diolch o’r galon!”
Chwaer a’i mab yn Ne Affrica yn defnyddio dŵr glaw a oedd wedi ei gasglu
Sut mae ein cyfundrefn yn talu am y mentrau gwyrdd hyn? Drwy gyfraniadau i’r gwaith byd-eang, llawer ohonyn nhw wedi eu gwneud drwy donate.jw.org. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am eich cyfraniadau hael.
a Doleri UDA yw’r doleri yn yr erthygl hon.