Troednodyn
a Diddorol yw nodi ym mha drefn y gwnaeth Iesu adrodd y damhegion a ddaeth yn rhan o arwydd ei bresenoldeb. Yn gyntaf, cyfeiriodd at y “gwas ffyddlon a chall,” grŵp bach o frodyr eneiniog a fyddai’n rhoi arweiniad. (Math. 24:45-47) Yna fe roddodd ddamhegion a oedd, yn bennaf, yn berthnasol i’r rhai â’r gobaith nefol. (Math. 25:1-30) Yn olaf, siaradodd am y rhai sydd â’r gobaith daearol a fyddai’n cefnogi brodyr Crist. (Math. 25:31-46) Yn yr un modd, mae cyflawniad cyfoes proffwydoliaeth Eseciel yn cyfeirio yn gyntaf at yr hyn a fyddai’n digwydd i’r rhai â’r gobaith nefol. Er nad yw teyrnas y deg llwyth fel arfer yn darlunio’r rhai â’r gobaith daearol, mae’r undod a ddisgrifiwyd yn y broffwydoliaeth yn ein hatgoffa ni o’r undod sy’n bodoli rhwng y rhai â’r gobaith daearol a’r rhai â gobaith nefol.